Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gobeithion a breuddwydion

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i gael gobeithion a breuddwydion ar gyfer eu dyfodol.

Paratoad a Deunyddiau

Os yw’n bosib, casglwch ynghyd ddelweddau o’r pethau canlynol, a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth i gyd-fynd â’r stori, er mai dewisol yw hyn:

- cist drysorau
- llong hwylio
- coeden dal
- cafn bwydo anifeiliaid
– cwch hwylio syml
– nifer o blanciau pren
– Iesu yn y preseb
– Iesu mewn cwch yn ystod storm
– Iesu ar y groes.

Gwasanaeth

Dechreuwch trwy ddweud eich bod yn mynd i feddwl ychydig heddiw am ein gobeithion a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Gofynnwch i’r plant droi at bartner a siarad am beth yr hoffen nhw fod ar ôl iddyn nhw dyfu’n oedolion.

Gofynnwch iddyn nhw rannu eu syniadau a gwrandewch ar rai o’r atebion. Soniwch y byddai’n ddiddorol iawn gofyn yr un cwestiwn iddyn nhw ymhen 10 neu 15 mlynedd, a gweld pwy mewn gwirionedd a wnaeth yr hyn roedden nhw’n meddwl, rhwng 5 ac 11 oed, y bydden nhw’n ei wneud! (Efallai yr hoffech chi ddweud wrth y plant beth oeddech chi eich hun, pan oeddech chi’n blentyn, yn meddwl yr hoffech chi ei wneud - a beth ddigwyddodd i chi!)

Eglurwch fod y stori heddiw yn chwedl werin draddodiadol am dair coeden oedd â chynlluniau a breuddwydion am eu dyfodol. Os byddwch chi’n defnyddio’r delweddau, dangoswch bob un ar yr adeg briodol wrth ddweud y stori.

Y tair coeden

Un tro, roedd tair coeden yn tyfu ar ymyl y goedwig. Roedden nhw’n ffrindiau, ac roedden nhw wedi arfer treulio amser yn sgwrsio gyda’i gilydd. Er eu bod i gyd tua’r un maint, ac yn tyfu yn yr un lle, roedden nhw’n wahanol iawn i’w gilydd.

Roedd y goeden gyntaf wrth ei bodd â phethau hardd.
Roedd yr ail goeden yn hoffi antur.
Roedd y drydedd goeden yn caru Duw.

Un diwrnod, roedd y coed yn siarad am yr hyn yr hoffen nhw’i wneud wedi iddyn nhw dyfu i’w llawn maint.

‘Pan fydda i wedi tyfu, fe hoffwn i gael fy ngherfio’n gist trysor, a fydd yn cael ei llenwi â gemwaith hardd,’ meddai’r goeden gyntaf.

‘Pan fydda i wedi tyfu, fe hoffwn i gael fy ngwneud yn llong hwyliau fawr gref, ac fe fydd fy nghapten yn forwr dewr fydd yn dod o hyd i diroedd newydd dros y môr’, meddai’r ail goeden.

‘Dydw i ddim eisiau cael fy nhorri i lawr i wneud unrhyw beth allan ohonof fi,’ meddai’r drydedd goeden. ‘Rydw i eisiau aros yma a thyfu’n dalach bob blwyddyn nes byddaf fi y goeden dalaf yn y goedwig. Yna, pan fydd pobl yn edrych arna i, fe fyddan nhw’n gweld fy mod i’n pwyntio at Dduw.’

Aeth y blynyddoedd heibio fesul un, ac un diwrnod fe ddaeth y dynion torri coed i’r goedwig a chwympo’r tair coeden.

‘O’r diwedd! Fe ddaw fy mreuddwyd i ynghylch bod yn gist trysor yn wir,’ gwaeddodd y goeden gyntaf.

‘Gwych! Fe ddaw fy mreuddwyd innau ynghylch bod yn llong hwyliau yn wir,’ gwaeddodd yr ail goeden.

‘O na!’ meddai’r drydedd goeden, ‘Nawr, fydda i ddim yn gallu pwyntio at Dduw ac arwain pobl ato.’

Cariodd y dynion torri coed y tair coeden o’r goedwig, ac roedd dwy ohonyn nhw’n edrych ymlaen at eu dyfodol. Ond cyn hir roedd y tair ohonyn nhw wedi dweud ffarwel wrth eu cynlluniau mawr am y dyfodol.

Yn hytrach na chael ei throi’n gist trysor, roedd y goeden gyntaf wedi cael ei gwneud yn gafn bwydo anifeiliaid, cafn digon bras a diolwg, ac wedi cael ei osod mewn stabl.

Yn hytrach na chael ei throi’n llong hwyliau, roedd yr ail goeden wedi cael ei gwneud yn gwch pysgota syml.

A beth ddigwyddodd i’r drydedd goeden? Wel dim byd pwysig iawn yn ôl pob golwg - dim ond cael ei llifio’n blanciau a’r rheini wedyn yn cael eu gadael yn y gornel y tu allan i weithdy’n saer.

Aeth y blynyddoedd heibio, ac fe fu’n rhaid i’r tair coeden fodloni ar yr hyn oedd wedi digwydd iddyn nhw, er gwaetha’u holl freuddwydion.

Yna, un noson oer yn y gaeaf, fe newidiodd popeth ym mywyd y goeden gyntaf. Fe gafodd babi bach ei eni yn y stabl - ac yn sicr doedd hwn ddim yn faban cyffredin. Fe ganodd angylion. Daeth bugeiliaid a doethion i’w weld. Dyfalwch ym mha gafn bwydo anifeiliaid y gosododd y fam y babi bach hwnnw? Pan sylweddolodd y goeden gyntaf beth oedd wedi digwydd, fe lanwodd ei chalon â llawenydd.

‘Mae fy mreuddwyd wedi dod yn wir wedi’r cyfan. Efallai nad wyf yn llawn o aur a gemwaith, ond rydw i wedi dal y trysor mwyaf ar y Ddaear.’

Fe aeth tua 30 mlynedd heibio cyn i bethau newid yn hanes yr ail goeden.

Pan oedd y cwch pysgota allan ar ganol llyn mawr, fe gododd storm fawr a chredodd yr ail goeden mai troi drosodd a suddo fyddai ei hanes fel cwch. Ond fe ddigwyddodd rhywbeth rhyfedd iawn. Fe safodd un o’r dynion oedd yn y cwch a gorchymyn i’r storm dawelu.

‘Tangnefedd! Llonyddwch!’ meddai’r dyn wrth y gwynt a’r tonnau, ac fe wnaethon nhw ufuddhau iddo a llonyddu.

Pan sylweddolodd yr ail goeden beth oedd wedi digwydd, fe lanwodd ei chalon hithau hefyd â llawenydd.

‘Mae fy mreuddwyd wedi dod yn wir wedi’r cyfan. Efallai nad wyf wedi cario anturiaethwr i wledydd newydd, ond rydw i wedi cario creawdwr y nefoedd a’r Ddaear.’

Ymhen sbel ar ôl hynny, fe newidiodd pethau ym mywyd y drydedd goeden hefyd. Daeth y saer i gornel yr iard a mynd â’r planciau i mewn i’r gweithdy. Roedd y drydedd goeden yn siomedig iawn pan na chafodd y planciau eu defnyddio i wneud dodrefnyn hardd, na hyd yn oed yn rhywbeth defnyddiol ychwaith. Yn hytrach, fe ddefnyddiwyd y planciau i wneud croes bren arw.

‘O na! Dyma’r math o groes y mae’r milwyr yn ei defnyddio i gosbi troseddwyr cas,’ meddyliodd y drydedd goeden.

Fe fyddech chi’n meddwl mai dyma’r diwrnod gwaethaf ym mywyd y goeden - ar wahân i un ffaith. Nid dyn cyffredin oedd y dyn a osodwyd ar y groes bren i farw. Nid troseddwr cas yn derbyn cosb  - ond Iesu Grist. Y dyn y mae Cristnogion yn credu erbyn hyn oedd yn fab Duw - ac roedd yn marw. Ond fe wyddom fod rhywbeth arbennig wedi digwydd wedyn.

Pan sylweddolodd y drydedd goeden beth oedd wedi digwydd, fe lanwodd ei chalon hithau hefyd â llawenydd.

‘Mae fy mreuddwyd wedi dod yn wir wedi’r cyfan. Efallai na chefais fod y goeden dalaf yn y goedwig, ond, o’r dydd hwn ymlaen, fel croes Crist, fe fydda i bob amser yn arwain pobl at Dduw.’

Amser i feddwl

Yn y stori, roedd cynllun gan bob un o’r coed ar gyfer eu dyfodol, ond mae’n ymddangos bod gan Dduw gynllun gwahanol ar gyfer pob un ohonyn nhw. Ar yr olwg gyntaf, doedd cynllun Duw ar eu cyfer ddim yn ymddangos mor gyffrous â’u cynlluniau gwreiddiol. Ond yn y pen draw, fe ddefnyddiodd Duw bob un ohonyn nhw i chwarae rhan bwysig ym mywyd Iesu, o’i enedigaeth i’w farwolaeth.

Mae gennym i gyd ein gobeithion a’n breuddwydion ar gyfer y dyfodol, ac mae hynny’n beth da. Os yw hynny’n briodol ychwanegwch fod Cristnogion yn credu os byddan nhw’n gofyn i Dduw, fe fydd yn dangos iddyn nhw beth yw ei gynlluniau ef ar gyfer eu dyfodol.

Gweddi
Dyma eiriau bendith hynafol.
Yn eich teithiau yma ac acw,
Boed i Dduw eich arwain;
Yn eich hapusrwydd a’ch pleser,
Boed i Dduw eich bendithio;
Yn eich amser o ofal, pryder neu drwbl,
Boed i Dduw eich cynnal;
Mewn perygl neu enbydrwydd,
Boed i Dduw eich amddiffyn.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon