Addfwynder:Ffrwythau'r Ysbryd
gan Manon Ceridwen James
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Archwilio ‘addfwynder’ fel un o Ffrwythau’r Ysbryd.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen tegan meddal wedi ei guddio mewn bag.
- Ail ymgyfarwyddwch â rhai o reolau’r dosbarth a’r ysgol.
Gwasanaeth
- Eglurwch eich bod yn mynd i feddwl heddiw am addfwynder ac, er mwyn eich helpu i feddwl am addfwynder, rydych chi wedi dod â ffrind arbennig gyda chi.
- Tynnwch y tegan meddal allan o’r bag. Eglurwch pwy ydyw, beth yw ei enw, a pha fath o degan ydyw (tedi, hwyaden, ci, neu beth bynnag) ac eglurwch beth yw arwyddocâd y tegan meddal i chi.
- Gofynnwch i’r plant sôn am eu teganau meddal arbennig nhw. Oes ffefryn ganddyn nhw? Beth maen nhw’n ei hoffi ynghylch eu hoff deganau?
- Eglurwch eich bod yn hoffi eich tegan chi oherwydd ei fod yn esmwyth ac yn braf i’w gofleidio. Holwch y plant sut maen nhw’n trin eu teganau?
Gofynnwch iddyn nhw, ‘Sut rydyn ni’n trin tegan fel hwn sy’n feddal ac esmwyth?’ Trafodwch pa mor ofalus ydyn ni. Fyddwn ni ddim yn ei daflu o gwmpas na’i gicio. Mewn geiriau eraill, fe fyddwn ni’n trin y tegan meddal yn addfwyn. - Trafodwch pa mor dda yw bod yn addfwyn, ac nid dim ond wrth drin a thrafod teganau. Os oes babi bach yn y teulu, brawd neu chwaer fach, neu anifeiliaid anwes, rhaid i ni fod yn addfwyn gyda nhw hefyd. Gofynnwch i’r plant pam fod angen i ni fod yn addfwyn? Er enghraifft, fe allai anifeiliaid anwes fynd yn greaduriaid ofnus, a dechrau ein cripio neu ein brathu os na fyddwn ni’n addfwyn gyda nhw.
- Mae hynny’n wir hefyd am bobl o bob oed. Mae’n hwyl chwarae gemau swnllyd a chwerthin yn uchel weithiau. Efallai bod y plant yn hoffi chwarae pêl-droed neu gemau eraill sy’n gofyn rhedeg yn gyflym. Er hynny, mae’n bwysig bod yn addfwyn.
- Archwiliwch gyda’r plant a oes rheolau gennych chi yn y dosbarth ai peidio. Er enghraifft, ydyn nhw’n gorfod cadw’u breichiau, eu dwylo, eu coesau a’u traed iddyn nhw’u hunain? Mae adegau pan fydd angen iddyn nhw fod yn dawel a gwrando. Fe allwn ni ddefnyddio llais addfwyn hefyd yn ogystal â defnyddio ein coesau a’n breichiau mewn ffordd addfwyn.
Dywedwch pa mor dda yw bod yn addfwyn, a bod hynny’n helpu pobl eraill i beidio â theimlo’n ofnus na theimlo’n drist.
Amser i feddwl
Anogwch y plant i feddwl am adegau pan fyddan nhw’n hoffi i eraill fod yn addfwyn gyda nhw. Er enghraifft, pan fyddan nhw’n cael cwtsh gan eu mam neu eu tad, nain neu daid, efallai, a phan fyddan nhw’n cael eu swatio’n glyd yn y gwely gyda’u hoff degan meddal. Mae addfwynder yn gwneud i ni deimlo’n braf ac yn arbennig. Mae addfwynder yn beth da.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am y bobl hynny yn ein bywyd sy’n addfwyn wrthym ni.
Helpa ni i fod yn addfwyn a helpa bobl eraill i deimlo’n braf ac yn arbennig.
Diolchwn i ti am ein teganau ac am ein hanifeiliaid anwes.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.