Diwrnod gwych wedi'i wneud hyd yn oed yn well
Ystwyll
gan Alan M. Barker
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried sut gallwn ni helpu i ddatrys problem – gan gyfeirio at stori Iesu yn y briodas yng Nghana.
Paratoad a Deunyddiau
- Chwiliwch am luniau addas o briodas, a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth.
- Er mwyn ychwanegu ychydig o ddrama at y stori, fe allech chi ddefnyddio jwg mawr o ddwr, cynhwysydd mawr y mae’n bosib gweld trwyddo, fel bowlen gymysgu neu ddysgl casserole wydr, gwydr gwin gwag, a lletwad (ladle) gyda diferyn neu ddau i hylif coch lliwio bwyd ynghudd yng ngwaelod y lletwad. Pan fydd ychydig o ddwr yn cael ei gasglu yn y lletwad a’i arllwys i’r gwydrau gwin, fe fydd yn ymddangos fel pe byddai wedi troi’n win.
Gwasanaeth
- Cyflwynwch thema’r gwasanaeth, sy’n ymwneud â helpu ein gilydd i ddatrys problemau, ac a fydd yn cynnwys stori am briodas.
- Dangoswch rai o’r lluniau rydych chi wedi eu paratoi ac eglurwch fod priodas yn dathlu cariad dau berson tuag at ei gilydd. Eglurwch fod y ddau berson, yn draddodiadol, yn cael ei galw’n briodfab a phriodferch. Daw eu ffrindiau ac aelodau eu teuluoedd ynghyd i’w cefnogi ac i rannu eu hapusrwydd. Fe fydd pawb yn mwynhau bwyd a diod arbennig mewn gwledd briodas.
- Nodwch y gall pethau fynd o chwith, ambell dro, yn nhrefniadau’r briodas. Gall y car sy’n cario’r briodferch dorri i lawr, fe all rhywun anghofio’r fodrwy, neu fe allai rhywun ollwng y gacen! Ar adegau felly, mae’n bwysig bod pawb yn helpu ei gilydd i ddatrys y broblem rhag i’r diwrnod arbennig gael ei ddifetha.
- Adroddwch y stori sydd i’w chael yn y Beibl am y briodas yng Nghana, Galilea. Mae’n disgrifio sut y gallodd Iesu ddatrys problem yno.
Y briodas yng Nghana Galilea
Roedd diwrnod y briodas yn ddiwrnod ardderchog ac wedi bod yn llwyddiant mawr! Roedd pawb yn hapus, yn enwedig y briodferch a’r priodfab.
Roedd pawb yno – aelodau’r teulu o’r ddwy ochr, ffrindiau, cymdogion . . . ac roedd Iesu yno, gyda Mair ei fam.
Roedd pawb yn mwynhau’r diodydd a’r bwydydd blasus.
‘Gymrwch chi ragor i’w fwyta?’ holodd mam y briodferch.
‘Os gwelwch chi’n dda!’ meddai’r gwesteion.
‘Rhagor i’w yfed?’ holodd tad y briodferch.
‘Os gwelwch chi’n dda!’ meddai pawb – a dyna pryd y cododd y broblem.
‘Does dim rhagor i’w yfed,’ sibrydodd un o’r gweision. ‘Mae’r cyfan wedi mynd.’
O dyna drueni! O dyna ofnadwy! Roedd pobl yn dal eu gwydrau gwag, ond doedd dim rhagor o win. Roedd teulu’r briodferch yn teimlo cywilydd am mai nhw oedd wedi trefnu’r wledd, ac yn teimlo rhywfaint o embaras. Roedden nhw’n pryderu y byddai’r bobl yn cofio diwrnod priodas eu merch fel y diwrnod pan aeth rhywbeth o’i le.
‘Gwna rhywbeth i helpu!’ sibrydodd Mair wrth Iesu.
‘Nid nawr yw’r amser iawn’, atebodd Iesu. ‘Fe fydd pawb yn dweud fy mod yn dangos fy hun.’
‘Ond mae’n rhaid i ti wneud rhywbeth’, mynnodd Mair. ‘Gwnewch beth bynnag mae Iesu’n ei ddweud wrthych chi’, meddai hi wedyn wrth y gweision.
Yng nghornel yr ystafell roedd cawgiau a oedd yn dal dwr er mwyn i’r gwesteion gael golchi eu dwylo.
‘Llanwch y cawgiau hyn â dwr glân’, cyfarwyddodd Iesu’r gweision.
Os byddwch chi’n defnyddio’r ‘props’, arllwyswch y dwr sydd gennych chi yn y jwg i mewn i’r ddysgl neu’r cynhwysydd clir. Yna rhowch flaen eich bys yn y dwr i ddangos ei fod yn ddwr clir glân cyffredin.
‘Nawr, ewch â hwn i’r gwesteion i’w yfed’, meddai Iesu wrth y gweision. Roedden nhw’n methu deall beth y peth, ond fe wnaethon nhw’r hyn roedd Iesu wedi gorchymyn iddyn nhw ei wneud.
Gan ddefnyddio’r lletwad, sy’n cynnwys y diferion hylif lliwio bwyd, yn ofalus casglwch rywfaint o’r dwr ac arllwys y ‘gwin’ i’r gwydr gwin.
Er mawr syndod i’r gwesteion yn y wledd briodas roedd y dwr cyffredin wedi troi’n win melys! Yn wir, hwn oedd y gwin hyfrytaf yr oedden nhw wedi ei flasu erioed.
‘Gymrwch chi ragor i’w fwyta?’ holodd mam y briodferch.
‘Os gwelwch chi’n dda!’ meddai’r gwesteion.
‘Rhagor i’w yfed?’ holodd tad y briodferch.
‘Os gwelwch chi’n dda!’ meddai pawb yn hapus iawn!
Roedd Iesu wedi gallu helpu i ddatrys problem. Roedd wedi gallu troi’r dwr yn win – ac wedi gallu troi gwg yn wên. Roedd wedi gallu gwneud diwrnod gwych hyd yn oed yn well! - Gwahoddwch bawb i ystyried sut y bydden nhw’n gallu helpu i ddatrys problem. Sut bydden nhw’n ymateb:
– pe byddai rhywun yn methu dod o hyd i’w got cyn mynd allan amser chwarae
– pe byddai ffrind neu oedolyn yn dweud, ‘Rydw i angen help'
– pe byddai’r cyfan o bensiliau’r dosbarth eisiau eu minio.
Nodwch nad dangos eich hun ydych chi pan fyddwch chi’n helpu i ddatrys problem. Mae’n ymwneud â sylwi sut mae pobl eraill yn teimlo a dangos cydymdeimlad a chynnig help. Gall helpu i ddatrys problem wneud unrhyw ddiwrnod yn well ac yn hapusach i bawb!
Amser i feddwl
Gweddi
Annwyl Arglwydd Iesu,
Ar yr adegau hynny pan fydd pethau’n mynd o chwith, gwna ni’n fwy awyddus i helpu.
Helpa ni i wneud heddiw’n ddiwrnod gwell i bawb.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.