Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dechreuadau newydd

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i feddwl am haelioni a meddwl am fod yn bobl sy’n rhoi’n llawen.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Eglurwch eich bod yn mynd i dangos pedwar llun, a’ch bod eisiau i’r plant ddyfalu beth yw’r cysylltiad rhwng y pedwar llun.

  2. Dangoswch y lluniau, fesul un, gan ofyn cwestiynau am yr hyn y mae pob llun yn ei ddangos neu ei ddarlunio.

    – Mae llun 1 yn dangos athletwyr yn barod i gychwyn rhedeg ras. Trafodwch sut byddai’r rhedwyr yn teimlo ar ddechrau’r ras. Os ydych chi wedi gofyn i blant sy’n perthyn i glwb athletau, neu’n ymwneud ag athlethau, siarad, gofynnwch iddyn nhw wneud hynny ar y pwynt hwn.

    – Mae llun 2 yn dangos awyren yn codi. Gofynnwch i’r plant sydd wedi teithio mewn awyren sut roedden nhw’n teimlo wrth wneud hynny.

    – Mae llun 3 yn dangos arwydd ‘diwrnod cyntaf yr ysgol’. Trafodwch deimladau a phrofiadau’r plant pan wnaethon nhw ddechrau’r ysgol.

    – Mae llun 4 yn dangos llun priodas.

  3. Holwch os oes unrhyw un o’r plant yn gallu gweld cysylltiad rhwng y lluniau i gyd. Nodwch fod pob un o’r lluniau’n dangos dechrau rhywbeth. Dechrau ras, dechrau taith awyren, dechrau bywyd ysgol, a dechrau bywyd priodasol.

  4. Eglurwch fod mis Ionawr yn nodi dechrau blwyddyn newydd. Ar yr adeg hon, mae llawer o bobl yn penderfynu newid rhywbeth sy’n ymwneud â’u ffordd o fyw. Yr enw sy’n cael ei roi ar y penderfyniadau hyn yw ‘Addunedau Blwyddyn Newydd’. Fe fydd pobl yn penderfynu eu bod yn anhapus ynghylch rhywbeth yn eu bywyd, ac maen nhw’n penderfynu dechrau o’r dechrau eto.

  5. Ambell dro, yn yr ysgol, fe fydd pethau’n gallu mynd o chwith. Efallai ein bod yn cweryla gyda’n ffrindiau, efallai nad ydyn ni’n gweithio’n ddigon caled, efallai ein bod yn cael ein dwrdio am ein hymddygiad. Ym mhob un o’r achosion hyn, yr oedd moment pan ddechreuodd pethau fynd o chwith. Efallai ein bod mewn hwyliau drwg, a dyma pam i ni fod yn gas wrth ffrind, efallai ein bod eisiau gwneud i rywun chwerthin, felly fe wnaethon ni rywbeth roedden ni’n gwybod nad oedd yn iawn i’w wneud. . . Y newydd da yw ei bod hi’n bosib i bob un ohonom gael y cyfle i ddechrau eto’.

  6. Pwysleisiwch fod yr ysgol yn lle da iawn i ‘ddechrau eto’. Yr her yw, ‘Oes rhywbeth yr hoffen ni ei wneud mewn ffordd arall? A hoffen ni i rywbeth fod yn wahanol?’ Eglurwch ei fod yn beth da weithiau i ddweud wrth rywun arall beth yw eich Adduned Blwyddyn Newydd, fel y gallan nhw eich helpu chi i gadw at eich penderfyniad.

Amser i feddwl

Rydyn ni ar ddechrau blwyddyn newydd sy’n llawn o gyfleoedd ardderchog. Oedwch am foment i feddwl a oes unrhyw newidiadau yr hoffech chi eu gwneud yn eich bywyd chi yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Fyddech chi’n hoffi gallu bod yn ffrind gwell? Fyddech chi’n hoffi gallu gweithio’n galetach? Fyddech chi’n hoffi cymryd mwy o gyfrifoldeb, ymuno â thîm chwaraeon, neu newid eich ymddygiad? Does neb arall yn gallu gwneud y newidiadau hyn ar eich rhan chi, ond fe all pobl fod yno i’ch helpu chi. Os oes rhywbeth rydych chi’n ei gael yn anodd, yna siaradwch ag un o’ch athrawon.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n ofalgar am bob rhan o fy mywyd.
Diolch dy fod ti’n gwybod pa bethau yr hoffwn i eu newid.
Pan fydd pethau’n mynd o chwith, helpa fi i fod yn ddigon dewr bob amser i ‘ddechrau eto’.
Diolch dy fod ti wedi fy ngwneud i, a diolch dy fod yn hapus gyda’r hyn rwyt ti wedi ei wneud.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon