Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Esgusodion, Esgusodion!

gan Alison Thurlow

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried pam rydyn ni’n aml yn meddwl am esgus dros beidio â gwneud rhywbeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os dymunwch, crëwch ddelwedd yn darlunio’r ddau gwestiwn sy’n cael eu gofyn yn yr adran ‘Amser i feddwl’ a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth.
  • Ymgyfarwyddwch â dameg y wledd briodas, y ddameg y mae’r gwasanaeth hwn wedi ei sylfaenu arni, ac sydd i’w chael yn Efengyl Mathew 22:1–14.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch y gwasanaeth trwy ddweud wrth y plant eich bod yn mynd i ofyn cwestiwn iddyn nhw, a’ch bod chi eisiau iddyn nhw fod yn hollol onest wrth ateb y cwestiwn.

    Gofynnwch iddyn nhw godi llaw os byddan nhw ambell dro yn meddwl am esgus pe bydden nhw heb wneud rhywbeth.

    Soniwch fod pob un ohonom, pe bydden ni’n hollol onest, yn gwneud esgusodion yn awr ac yn y man pan fyddwn ni heb wneud rhywbeth y dylem fod wedi ei wneud.

  2. Dywedwch eich bod wedi bod yn meddwl tybed pa fath o esgusodion y byddai’r plant yn eu gwneud. Er enghraifft, Sut bydden nhw efallai’n gorffen y brawddegau hyn:

    -  ‘Mae’n ddrwg gen i am beidio gwneud fy ngwaith cartref, ond  . . .’

    -  ‘Mae’n ddrwg gen i am beidio â thacluso fy ystafell, ond    . . .’

    -  ‘Mae’n ddrwg gen i am fod yn hwyr yn cyrraedd yr ysgol, ond  . . .’

    -  ‘Mae’n ddrwg gen i fy mod i’n hwyr yn cyrraedd adref o’r ymarfer pêl droed neithiwr, ond  . . .’

    -  ‘Mae’n ddrwg gen i am fod yn gas gyda fy mrawd bach/ chwaer fach, ond  . . .’

    -   ‘Mae’n ddrwg gen i am beidio â chwarae gyda’r ferch/ bachgen oedd ar ben ei hun ar iard yr ysgol, ond  . . .’

  3. Wedi i chi dderbyn cynigion y plant, soniwch mai dim ond ychydig o hwyl oedd yr ymarferiad hwn, ond eich bod yn awr yn mynd i ddweud stori o’r Beibl y gwnaeth Iesu ei hadrodd. Mae sôn am lawer o bobl yn gwneud esgusodion yn y stori hon.

    Dameg y wledd fawr

    Un tro, fe benderfynodd rhyw frenin y byddai'n hoffi cael parti. Meddyliodd y gallai drefnu gwledd fawr a gwahodd llawer o bobl bwysig i’r wledd.

    Unwaith yr oedd popeth yn barod, anfonodd ei weision i ddweud wrth ei wahoddedigion fod y parti ar fin dechrau, ond dyna pryd y dechreuodd y drafferth.

    Pan wnaethon nhw gyrraedd at y ty cyntaf, roedd y dyn yno yn llawn embaras braidd, ac fe ddywedodd, ‘Mae'n ddrwg gen i, ond alla i ddim dod i'r parti wedi'r cyfan. Rydw i newydd brynu cae ac yn syml mae'n rhaid i mi fynd draw i'w weld!’

    Aeth y gweision ymlaen at yr ail dy, a'r tro hwn fe waeddodd y perchennog, ‘Ym..., mae'n ddrwg gen i, alla' i ddim dod i'r wledd! Rydw i newydd brynu ychydig o wartheg ac mae'n rhaid i mi fynd i weld sut bethau ydyn nhw!’

    Yn y trydydd ty, cochodd wyneb y perchennog yn arlliw hardd o binc, a dywedodd braidd yn swil, ‘Ymddiheuriadau, ond rwyf newydd briodi ac yn wir i chi, dwi'n dymuno aros gartref gyda'm gwraig newydd!’

    Pan aeth y gweision yn ôl at y brenin ac adrodd yr holl esgusodion hyn wrth eu meistr, roedd yn gynddeiriog! Stampiodd ei droed a gwaeddodd, ‘Ewch allan i'r strydoedd a'r heolydd a gwahoddwch y bobl y deuwch ar eu traws yno: y tlodion, yr anabl, y deillion a'r cloffion.’

    Felly dyna wnaeth y gweision ac roedd y bobl hyn wrth eu bodd yn cau i gael eu gwahodd i wledd y brenin!

    Unwaith yr oedd pawb wedi cyrraedd neuadd y wledd, roedd rhai lleoedd gweigion wrth y bwrdd, felly aeth y gweision yn ôl at y brenin a dweud wrtho, ‘Fe allwn ni wasgu ychydig mwy o bobl i mewn.’ ‘Ewch ar hyd ffyrdd y wlad y tro hwn,’ gorchmynnodd y brenin, ‘a gwahoddwch y werin bobl o'r fan honno hefyd. Fydd neb o'r bobl gyfoethog y gwnes i eu gwahodd ar y dechrau yn dod i'r wledd hon!’

  4. Gofynnwch i'r plant i feddwl yn ôl am yr esgusodion wnaethon nhw eu rhoi i chi ar ddechrau'r gwasanaeth - oedden nhw'n rhesymol bob tro?

    Gwnewch sylw eu bod nhw efallai braidd yn hunanol ac, mewn gwirionedd, roedd y plant yn aml yn eu gwneud am nad oedden nhw, yn syml, yn awyddus i gymryd rhan mewn rhyw weithgaredd neilltuol.

    Gofynnwch i'r plant, ‘Beth am yr esgusodion gafodd eu rhoi gan y bobl yn y stori - oedden nhw’n esgusodion gwell na rhai’r plant ai peidio?’ Ac os nad oedden nhw, pam?’

    Awgrymwch nad oedd gan y bobl gyfoethog lawer o amynedd i ddod i'r wledd. Yna, fe wahoddodd y brenin, sy'n cynrychioli Iesu, yr holl bobl na fyddai pobl eraill, o bosib, yn eu gwahodd i wledd fawreddog, a'u bod i gyd wedi derbyn y gwahoddiad ar eu hunion oherwydd nad oedd gan yr un ohonyn nhw esgus i wrthod!

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant eistedd yn dawel a meddwl am y ddau gwestiwn canlynol.

Dangoswch ddelwedd o’r ddau gwestiwn os byddwch yn dymuno gwneud hynny.

- Fydda i weithiau’n gwneud esgusodion yn hytrach na dweud y gwir?
- Ydw i, fel y brenin yn y stori, yn rhoi croeso i bob math o bobl? Neu a fydda i weithiau’n gwneud esgusodion dros beidio â bod yn groesawgar tuag at rai pobl?

Awgrymwch y gallai bod yn onest, a cheisio bod yn gyfeillgar â phawb, wneud yr ysgol yn lle gwell ac yn lle hapusach.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae’n ddrwg gen i am wneud esgusodion dianghenraid – maddau i mi.
Diolch dy fod ti’n croesawu pob math o bobl atat ti – helpa fi i wneud yr un peth.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon