Disgleirio
Ar gyfer Gwyl Fair y Canhwyllau, neu ddathlu Cyflwyno Crist yn y Deml (2 Chwefror)
gan Manon Ceridwen James
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1/2
Nodau / Amcanion
Archwilio’r ffaith ein bod yn unigryw.
Paratoad a Deunyddiau
- Nodwch: Mae’n bosib addasu’r gwasanaeth hwn i’w ddefnyddio ar gyfer unrhyw wyl arall lle mae canhwyllau’n ganolog neu oleuni’n thema, fel er enghraifft gyda gwasanaeth Cristingl.
- Casglwch bob math o wahanol ganhwyllau - gorau po fwyaf o amrywiaeth o ganhwyllau fydd gennych chi - a threfnwch fod gennych chi fatsis neu fodd arall o oleuo’r canhwyllau. Os nad oes gennych chi ganhwyllau, defnyddiwch gyfryngau goleuo eraill fel lampau a thortshis ac ati.
Gwasanaeth
- Soniwch am eich casgliad o ganhwyllau (neu ganhwyllau a goleuadau). Efallai y byddwch yn dymuno gofyn i wirfoddolwyr helpu i ddal y canhwyllau neu’r goleuadau, tortshis ac ati (heb eu goleuo ar hyn o bryd). Fel y byddwch yn dod â nhw i’r golwg, eglurwch pam maen nhw'n bwysig i chi neu pam yr ydych yn eu hoffi. Er enghraifft, efallai bod un gannwyll ag arogl dymunol arni, gall un arall fod yn anrheg a gawsoch gan ffrind, neu gannwyll arall wedi ei rhoi i chi i nodi achlysur arbennig, fel bedydd neu briodas.
- Cysylltwch â'r plant mewn sgwrs am y canhwyllau (neu'r goleuadau) – ceisiwch ddarganfod pa rai o blith eich casgliad y maen nhw'n eu hoffi, a pham.
- Eglurwch fod Iesu wedi sôn llawer am oleuni. Ef oedd goleuni'r byd ac rydym ni, yn ein tro, i fod i ddangos y goleuni hwn yn y byd trwy'r hyn a wnawn a thrwy fod y bobl yr ydyn ni.
- Archwiliwch y syniad o oleuni gyda'r plant. Sut mae goleuni yn gwneud i ni deimlo? Goleuwch gannwyll (neu rhowch olau gwan ymlaen) yn y rhan hon o'r gwasanaeth er mwyn helpu'r plant gyda'u myfyrdodau. Yn y tywyllwch, gallwn deimlo ychydig yn ofnus, ond, yn y goleuni, fe fyddwn yn teimlo'n gynnes a diogel.
- Pan ddywedodd Iesu y dylen ni ddangos ein goleuni yn y byd, nid oedd yn golygu ei fod am i ni fynd o gwmpas yn troi goleuadau ymlaen neu’n goleuo canhwyllau! Dyna oedd ffordd Iesu o egluro sut roedd am i ni wneud i bobl eraill deimlo. Mae'n dymuno i ni fod yn garedig a chymwynasgar, yn gyfeillgar ac yn ofalgar.
- Cyfeiriwch yn ôl at eich canhwyllau (neu oleuadau) eich hun – roedden nhw i gyd yn wahanol, ond roedden nhw i gyd yn arbennig. Rydyn ni i gyd, hefyd, yn bobl wahanol i’n gilydd – rydyn ni'n dda am wneud pethau gwahanol, rydyn ni'n edrych yn wahanol ac mae gennym ni i gyd ein ffordd wahanol o wneud pethau – ond mae Cristnogion yn credu bod Duw yn caru pob un ohonom, pwy bynnag ydyn ni, beth bynnag ydyn ni.
- Felly, mae'r canhwyllau hyn (neu’r goleuadau) yn ein hatgoffa y gallwn ni lewyrchu fel goleuni Duw yn y byd i gyd yn ein ffordd wahanol ac unigryw ein hunain.
- Eglurwch mai, ar 2 Chwefror, mae gwyl arbennig o'r enw Gwyl Fair y Canhwyllau, neu, Cyflwyniad Crist yn y Deml.
Mae'r wyl yn dathlu'r achlysur pryd y daeth Mair a Joseff â'r baban Iesu i’r deml i weddïo a'i gysegru i Dduw. Yno fe wnaethon nhw gyfarfod dau o bobl oedrannus – Simeon ac Anna – a oedd wedi cyffroi'n lân oherwydd eu bod wedi aros ar hyd eu hoes er mwyn cael gweld Iesu.
Roedd Simeon mor hapus fel ei fod wedi adrodd cerdd arbennig wrth ddal Iesu yn ei freichiau, cerdd y byddwn ni yn ei hadrodd hyd heddiw mewn gwasanaeth yn yr Eglwys. Mae'r gerdd hon yn sôn am y modd y mae Iesu'n mynd i ddod yn oleuni'r byd.
Amser i feddwl
Trefnwch i’r neuadd, neu’r ystafell lle mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnal, gael ei thywyllu a goleuwch y gwahanol ganhwyllau yn eu tro, neu goleuwch y lampau a’r tortshis ac ati.
Anogwch y plant i feddwl am eu doniau a’u talentau unigryw eu hunain, a’r pethau sy’n eu gwneud nhw’n arbennig neu’n wahanol i bawb arall, a’u hannog i ddiolch i Dduw am y doniau hynny.
Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2015 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.