Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhywbeth da

Dydd Mawrth Ynyd a’r Garawys

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried dewisiadau cadarnhaol trwy gyfeirio at Ddydd Mawrth Ynyd a thymor y Garawys.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen:

    – crempog
    – tiwb o bast dannedd a chynhwysydd hufen iâ
    – un nionyn ac un oren
    – potelaid o finegr
    – potelaid o surop melyn neu fêl meddal, i’w chadw o’r golwg nes dowch chi at Ran 3 y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy nodi ei bod yn ddechrau tymor y Garawys. Yn ystod y tymor hwn, fe fydd Cristnogion yn ceisio dilyn esiampl Iesu ac yn anelu at gymryd camau cadarnhaol tuag at wneud y byd yn lle gwell i bawb.

  2. Eglurwch fod pobl yn gwneud crempogau ar y diwrnod cyn i dymor y Garawys ddechrau, ar y diwrnod y byddwn yn ei alw’n Ddydd Mawrth Ynyd neu Ddydd Mawrth Crempog. Eglurwch y broses o wneud crempogau gan feimio cymysgu’r cytew ac arllwys rhywfaint ohono i badell boeth ac olew arni ac yna ei throi drosodd - bydd rhai yn gallu eu taflu allan o’r badell er mwyn iddyn nhw droi a glanio’n ôl ar y badell i goginio’r ochr arall. Yna, eglurwch y gallwch chi lenwi’r crempogau â’ch hoff lenwad cyn eu bwyta.

  3. Gofynnwch i’r plant, ‘Pa lenwad fyddech chi’n ei ddewis i’w roi ar eich crempog?’

    Dangoswch y grempog sydd gennych chi a threuliwch ychydig o amser yn holi’r plant ac yn cael hwyl wrth feddwl am bob math o wahanol bethau y gallech chi eu defnyddio.

    Beth am ddefnyddio past dannedd i gael crempog blas mintys? Na! Fe fyddai hwnnw’n difetha’r grempogen! Fe fyddai hufen iâ’n llawer mwy pleserus.

    Er mwyn cael blas cryfach, fe allen ni ddefnyddio nionyn amrwd! O, na! Fe fyddai hwnnw’n gwneud i ni grio! Fe fyddai oren yn llawer gwell.

    Fe allen ni roi finegr ar ein crempog. Na, fe fyddai hwnnw’n ei gwneud yn sur iawn. Fe fyddai, mêl neu surop yn llawer melysach.

    Byddwch yn barod am beth cyffro ac awgrymiadau anarferol! Daliwch ati i drafod fel hyn, ac yna eglurwch fod y dewisiadau hwyliog hyn yn tanlinellu neges bwysig. Gall dewisiadau gwael ddifetha profiadau da, tra gall dewisiadau da ychwanegu at y mwynhad.

  4. Siaradwch am y ffaith bod crempog yn gron – siâp cylch – ac yn gallu ein hatgoffa am y byd. Gan gyfeirio at y past dannedd, y nionyn a’r finegr yn eu tro, nodwch y ffaith ei bod yn bosib difetha ein hamgylchedd, neu’n bosib tarfu ar bobl eraill, ac yn bosib gwneud rhai dewisiadau yn ein bywyd fyddai’n gallu troi perthnasoedd a sefyllfaoedd yn sur.

    Gwahoddwch bawb i ystyried enghreifftiau o sut y byddai rhai gweithredoedd o bosib yn gallu difetha bywyd cymuned yr ysgol - pethau fel dweud rhywbeth cas neu wneud rhywbeth yn ddifeddwl heb ystyried y canlyniadau.

  5. Cyfeiriwch at yr hufen iâ, yr oren a’r mêl neu’r surop. Pwysleisiwch pa mor bwysig yw gwneud y dewisiadau priodol. Gall geiriau a gweithredoedd caredig a chadarnhaol wneud unrhyw ysgol yn lle hapusach y byddwch yn mwynhau bod ynddo. Gwahoddwch bawb i ystyried ystyr hyn. Ewch ati i gadarnhau pa mor werthfawr yw bod yn gwrtais, yn garedig ac yn deg.

  6. Trowch eich sylw’n ôl at y grempog.  Sut bydd y plant yn llenwi eu crempog, ond yn fwy na hynny sut byddan nhw’n llenwi eu diwrnod? Fydd pawb yn cofio pa mor bwysig yw bod yn gwrtais, yn garedig ac yn deg? Fyddan nhw’n amcanu i wneud y gorau o bob cyfle i greu a chyflawni rhywbeth da?

Amser i feddwl

Gadewch i ni fod yn ddiolchgar am yr hwyl a gawn wrth wneud crempogau ac am y mwynhad a gawn wrth eu bwyta!
Gadewch i ni edifarhau am yr adegau hynny yn ein bywyd pan ddigwyddodd rhywbeth i ddifetha hwyl a mwynhad.
Yn ystod tymor y Garawys hwn, gadewch i ni wneud dewisiadau cadarnhaol a fydd yn llenwi ein bywyd â hapusrwydd.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon