Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cyngor da!

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Atgoffa ein hunain pa mor bwysig yw cyngor da.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r stori o Mathew 4.1-11 sydd i’w gweld yng Ngham 3 y gwasanaeth, fel y gallwch chi ychwanegu rhywfaint o ddrama i’r cyflwyniad a’i ddarllen mewn ffordd rwydd a dychmygus.

Gwasanaeth

  1. Soniwch fod rhywun sydd wedi chwarae mewn tîm pêl-droed neu bêl-rwyd, neu efallai wedi sefyll arholiad cerddorol neu arholiad dawns, yn siwr o fod yn gwybod pa mor bwysig yw cyngor da. Gwahoddwch ymateb y plant i’r gosodiad hwn, ac wrth sgwrsio â’r plant ceisiwch sefydlu pa fath o gyngor y maen nhw wedi ei gael ar achlysuron o’r fath.

  2. Ewch ati i ystyried bod cyngor da yn gallu:

    - ein helpu i lwyddo ar ein gorau
    - ein hatal rhag gwneud camgymeriadau
    - ein helpu i gyrraedd ein nod.

    Eglurwch fod Cristnogion, yn ystod cyfnod y Garawys - cyfnod o weddïo a myfyrio cyn y Pasg - yn canolbwyntio ar beth yw eu nod, ac yn cofio pa mor bwysig yw cyngor da.

  3. Mae stori i’w chael yn y Testament Newydd am Iesu’n wynebu amser anodd. Roedd cofio am ddywediadau penodol, a meddwl am gyngor da yr oedd wedi ei gael, yn help mawr iddo. Adroddwch yr addasiad syml hwn o’r adnodau yn Efengyl Mathew 4.1-11 mewn ffordd llawn dychymyg a chyda synnwyr o ddrama. Ceisiwch gyfleu'r ffaith bod Iesu ar ben ei hun yn yr anialwch. Roedd wrthi’n meddwl, yn gweddïo, ac roedd yn ymprydio (peidio â bwyta) am ei fod eisiau meddwl am anghenion pobl eraill.

    Temtiad Iesu

    Roedd Iesu ar ben ei hun. Roedd arno eisiau bwyd yn fawr iawn. Roedd yn teimlo mor newynog, roedd arno eisiau dweud wrth y cerrig am droi’n dorthau o fara. Ond fe gofiodd am ddywediad oedd yn dweud fel hyn: ‘Peidiwch â dim ond gorchymyn i bethau ddigwydd. Treuliwch amser yn gwrando!’

    Fe arhosodd Iesu ar ben ei hun, ac fe wrandawodd ar synau’r anialwch. Doedd neb o’i gwmpas. Fe ddychmygodd y gallai sefyll ar ben teml uchel. Meddyliodd, ‘Fe fyddai llawer o bobl yn edrych i fyny ataf fi. Fe fydden nhw’n gweld pa mor bwysig ydw i. Efallai y gallwn i hedfan hyd yn oed! Yna, fe gofiodd am gyngor arall: ‘Peidiwch â thynnu sylw atoch eich hunan! Dangoswch barch.’

    Ac yntau’n dal ar ben ei hun, dechreuodd Iesu ddychmygu sut beth fyddai gallu rheoli’r holl fyd. Dychmygwch hynny! Fe fyddai unrhyw un a fyddai’n rheoli’r byd yn gallu mynd i unrhyw le yr hoffai, ac yn gallu cael unrhyw beth y byddai’n hoffi ei gael! Ond fe wthiodd Iesu’r syniadau hyn o’i feddwl yn fuan iawn. Fe gofiodd eto am gyngor da arall: ‘Peidiwch â dim ond helpu eich hunan. Helpwch bobl eraill.’

    Roedd Iesu ar ben ei hun, ond wedyn roedd yn teimlo’n barod i ddechrau ar ei waith.

  4. Gwahoddwch y plant i ddwyn i gof y cynghorion sydd wedi cael eu cynnwys un y stori. Mae pobl lwyddiannus yn:

    – cymryd amser i wrando, ac nid dim ond yn rhoi gorchmynion
    - dangos parch, ac nid yn tynnu sylw atyn nhw’u hunain
    – helpu eraill, ac nid dim ond yn meddwl amdanyn nhw’u hunain.

    Pa gyngor arall y byddai’n bosib ei ddwyn i gof wrth i bawb baratoi i ddechrau gweithio neu fynd yn ôl at eu gwaith?

  5. Dewch â’r gwasanaeth i ben gyda’r syniad mai wrth weithredu ar gyngor cadarnhaol y bydd cymuned yr ysgol yn gwneud orau.

Amser i feddwl

Gofynnwch i bawb fod yn dawel am foment ac ystyried un cyngor defnyddiol y maen nhw wedi ei glywed, Gwahoddwch nhw i gofio am y cyngor hwnnw a gweithredu arno.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Pa heriau ac anawsterau bynnag y byddwn ni’n eu hwynebu, helpwn ni i gofio cyngor da, a helpwn ni i gael ein harwain gan y cyngor hwnnw.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon