Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwneud penderfyniadau da

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut gallwn ni wneud penderfyniadau da.

Paratoad a Deunyddiau

  • Lluniwch barau o gardiau gyda’r geiriau canlynol wedi eu hysgrifennu arnyn nhw. Gofalwch bod y llythrennau’n ddigon mawr i’r plant yn y gynulleidfa allu eu darllen o ble maen nhw:

    – ‘siocled’ a ‘pitsa’
    – ‘heulwen’ ac ‘eira’
    – ‘chwarae yn y parc’ a ‘chwarae ar y traeth’
    – ‘cath’ a ‘ci’
    – ‘mynd am bicnic’ a ‘mynd i dy bwyta'
    – ‘mefus’ a ‘grawnwin’.

    Efallai yr hoffech chi newid rhai cardiau neu ychwanegu at eich casgliad. Does dim gwahaniaeth pa benderfyniadau y mae gofyn i’r plant eu gwneud. Y nod yw eu cael i benderfynu y naill ffordd neu’r llall ym mhob achos – dydyn nhw ddim un cael dweud eu bod yn hoffi’r ddau beth!
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen dau wirfoddolwr i ddal y cardiau.
  • Nodwch fod y gwasanaeth hwn yn gweithio’n dda os yw’n bosib i’r plant symud yn llythrennol o’r naill ochr i’r ystafell i’r llall wrth ddangos beth yw eu dewis. Fodd bynnag, os nad yw hynny’n bosib, yna fe allan nhw godi eu dwylo i nodi eu pleidlais yn lle hynny.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i roi dewis iddyn nhw o ddau beth neu ddau weithgaredd, ac fe fydd dau o’r plant yn dal cerdyn i fyny gyda’r peth neu’r gweithgaredd hwnnw wedi ei ysgrifennu arno. Fe fydd un y sefyll ar un ochr i’r ystafell a’r llall yn sefyll yr ochr arall.

    Eglurwch wedyn i’r plant yn y gynulleidfa eich bod eisiau iddyn nhw ddewis un peth allan o bob pâr o eiriau y bydd y gwirfoddolwyr yn eu dangos iddyn nhw, a mynd i sefyll yn ymyl yr un sy’n dal y cerdyn hwnnw i ddangos mai dyna fyddan nhw’n ei hoffi orau. Er enghraifft, gofynnwch i’r gwirfoddolwyr ddal y cardiau sydd â’r geiriau ‘siocled’ a ‘pitsa’ arnyn nhw i fyny. Gofynnwch i’r plant, ‘Pa un o’r ddau ydych chi’n ei hoffi fwyaf, siocled neu pitsa?’ Yna, gofynnwch i’r plant fynd i sefyll ar yr ochr lle mae’r cerdyn yn cael ei ddangos.

    Neu, os nad yw hynny’n ymarferol bosib, gofynnwch i’r plant godi eu dwylo i bleidleisio wrth i chi alw’r geiriau a dangos pob set o gardiau yn eu tro.

  2. Ail adroddwch y broses hon gyda phob pâr o gardiau. Y nod yw gwneud i’r plant benderfynu – dydyn nhw ddim yn cael dweud eu bod yn hoffi’r ddau beth. Bydd rhaid iddyn nhw ddewis un o’r ddau! Gyda phob eitem holwch un neu ddau o’r plant pam y gwnaethon nhw eu penderfyniad.

  3. Ar ôl gorffen y gweithgaredd, gofynnwch i’r plant fynd yn ôl i’w lle i eistedd a gofynnwch iddyn nhw pa un o’r penderfyniadau oedd fwyaf anodd iddyn nhw eu gwneud, a pham.

  4. Nesaf, gofynnwch i’r plant ydyn nhw wedi gorfod gwneud penderfyniad anodd ryw dro. Yna holwch ydyn nhw’n gallu meddwl am benderfyniadau y mae’n rhaid iddyn nhw eu gwneud bob dydd.

  5. Eglurwch fod rhai penderfyniadau’n hawdd eu gwneud - mae rhai ohonom yn hoffi rhai mathau o fwyd yn well na mathau eraill, er enghraifft - ond mae’n fwy anodd penderfynu rhai pethau eraill, fel beth i’w wisgo i fynd i barti neu rywbeth felly!

    Er bod hynny ychydig mwy anodd efallai, nid yw ein dewis mewn sefyllfaoedd o’r fath yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r rhai sydd o’n cwmpas. Ond mae rhai penderfyniadau eraill, fodd bynnag, sydd yn wirioneddol anodd ac yn gallu effeithio ar bobl eraill, ac efallai yn gallu  brifo eu teimladau hefyd. Mae’n gofyn bod yn ofalus iawn werth wneud penderfyniadau felly!

  6. Gofynnwch i’r plant feddwl am benderfyniadau y maen nhw’n gorfod eu gwneud a allai effeithio ar bobl eraill. Enghraifft o hyn, o bosib, fyddai dewis pwy i chwarae â nhw ar yr iard amser chwarae, neu beth fyddwch chi’n ei ddweud wrth rywun, a sut y byddwch chi’n siarad gyda’ch rhieni, er enghraifft, neu gyda’r rhai sy’n gofalu amdanoch chi ac ati.

  7. Eglurwch ein bod ni’n gwneud penderfyniadau drwy’r amser, bob dydd! Ambell dro, fe fyddwn ni’n gallu dewis pethau heb orfod meddwl llawer am y peth, na sylweddoli mewn gwirionedd ein bod wedi gorfod penderfynu. Er enghraifft, rydyn ni’n rhedeg at ein ffrindiau yn y cae chwarae heb feddwl am rywun sy’n sefyll ar yr ochr yn teimlo’n unig; rydyn ni’n mynd ati i chwarae ag offer neilltuol yn syth ar ôl mynd allan amser chwarae heb feddwl efallai bod plant eraill yn dymuno defnyddio’r offer hwnnw; rydyn ni’n dweud ambell beth cas am rywrai er ein bod yn gwybod nad yw’n iawn i ni wneud hynny.

    Weithiau, pe bydden ni ddim ond aros am foment a meddwl, mae’n bosib y bydden ni’n gwneud penderfyniad hollol wahanol.

  8. Rhowch her i’r plant, yn ystod yr wythnos i aros a threulio amser i feddwl cyn gwneud penderfyniadau. Awgrymwch iddyn nhw nad y dewis symlaf yw’r penderfyniad gorau bob tro!

Amser i feddwl

Meddyliwch am foment am unrhyw benderfyniadau y bydd yn rhaid i chi eu gwneud heddiw, efallai. Ydych chi’n mynd i wneud penderfyniadau da?

Pam na osodwch chi her i chi eich hunan, oedi am foment, a chyfrif yn dawel i ddeg cyn i chi wneud unrhyw benderfyniadau? Fe allai hynny roi eiliad i ‘newid eich meddwl’ cyn i chi wneud penderfyniad terfynol y gallech chi wedyn edifarhau ei wneud.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti yno i ni bob amser.
Diolch y gallwn ni ofyn am dy help pan fyddwn ni’n cael anhawster wrth wneud penderfyniadau, gan wybod dy fod ti eisiau i’r gorau ddigwydd i ni ym mhob sefyllfa.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon