Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y ffisig gorau

gan Revd Richard Lamey

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’n bosib cwtogi’r gwasanaeth hwn trwy adael allan yr addasiad o’r dyfyniad yn Genesis 1, yng ‘Ngham 6’.
  • Gwisgwch ddilledyn od i wneud i’r plant wenu – rhywbeth a fydd yn gwneud i chi edrych ychydig yn wahanol ac yn fwy doniol nag arfer.
  • Trefnwch fod gennych chi lyfr jôcs er mwyn darllen dwy neu dair o jôcs i’r plant, neu adroddwch rai o’ch cof os gallwch chi, neu trefnwch o flaen llaw bod gennych chi ddau neu dri o blant sy’n barod i ddweud ambell jôc (gwiriwch y rhain!) ar y dechrau. Fe allech chi hefyd ofyn i un neu fwy o’r plant ddarllen neu adrodd y stori o Genesis 1 yng ‘Ngham 6’ y gwasanaeth os byddwch yn dymuno cynnwys y rhan hon.
  • Chiliwch am grynodeb o Genesis 21 sy’n pwysleisio chwerthin Sara. Mae’r stori gyfan yn rhy hir i’w chynnwys, felly canolbwyntiwch ar y thema ‘pam gwnaeth Sara chwerthin’.

Gwasanaeth

1. Heb unrhyw gyflwyniad, dechreuwch ddweud cyfres o jôcs byr – trwy ddarllen rhai o lyfr, eu hadrodd o’ch cof, neu trwy gael y plant i’w dweud os gwnaethoch chi baratoi hynny.

Fe allech chi ochneidio gyda phawb arall gyda’r atebion, wrth gwrs, neu ofyn i’r plant godi eu llaw i adrodd ergyd y jôc. Fe all y jôcs, yn fwriadol, fod yn rhai cyfarwydd er mwyn i’r gynulleidfa ymuno yn yr hwyl.

2. Nawr, gadewch i mi ddweud stori wrthych chi sy’n sôn am chwerthin, ac sydd i’w chael yn y Beibl. Mae i’w gweld yn Genesis 21.

Eglurwch mai gwraig oedd heb gael plentyn erioed oedd Sara, ac roedd hi’n gwybod na fyddai’n cael un byth ychwaith am ei bod erbyn hynny wedi mynd yn rhy hen i gael babi. Felly, pan glywodd ei bod hi’n mynd i gael babi bach, fe wnaeth hi chwerthin, am nad oedd hi’n credu y gallai’r fath beth fod yn bosib.

Ond dyna beth ddigwyddodd. Fe gafodd hi fabi bach ac fe wnaeth hi ei alw’n Isaac, sef y gair Hebraeg am chwerthin.

Mae hon yn stori ddoniol wahanol iawn i’r straeon doniol neu’r jôcs rydyn ni wedi bod yn eu clywed ar ddechrau’r gwasanaeth, ond rydw i wrth fy modd bod enw yn y Beibl sy’n golygu chwerthin.

3. Mae chwerthin yn beth da. Mae chwerthin yn gallu ein helpu i’n cael ni trwy ddyddiau anodd ac yn helpu dyddiau da i fod yn wych hefyd.

4. Wrth feddwl am hyn o safbwynt corfforol, mae chwerthin yn dda i ni. Mae’n gwneud i ni ymlacio, yn cynyddu llif y gwaed i’r galon, yn ein helpu i greu gwrthgyrff (antibodies) sy’n ein hamddiffyn rhag germau ac afiechydon. Ac mae’n rhyddhau sylwedd o’r enw ‘endorffinau’, cemegau llesol naturiol y corff.

5. Yn ogystal â hynny, mae’n helpu i adeiladu synnwyr o berthyn a chymuned. Os ydych chi’n chwerthin gyda’ch gilydd, rydych chi’n dweud rhywbeth pwysig am yr hyn rydych chi’n ei weld yn ddoniol, sy’n ganolog i’r hyn ydym ni.

Mae chwerthin yn dda i’r corff ac yn dda ar gyfer unrhyw dîm a’r gymuned hefyd.

6. Mae Duw’n gwybod hyn i gyd hefyd - nid damwain yw hyn. Fe wnaeth Duw greu’r byd o’i ddigonedd a gwenu’n chwareus wrth wneud, fel mae’n dweud yn Genesis 1:

Gadewch y rhan nesaf allan os ydych chi’n dymuno cwtogi’r gwasanaeth. 

Yn y dechreuad roedd Duw, a dim ond Duw. O’i gwmpas doedd dim trefn na harddwch na rhythm na llonyddwch. Yna, ar y diwrnod cyntaf, fe ddywedodd Duw ‘Bydded goleuni’ ac yn sydyn, o unman, fe ddaeth goleuni. Fe drefnodd Duw y goleuni gan anfon y goleuni a’r tywyllwch i’w lle. Fe alwodd y goleuni yn Ddydd a’r tywyllwch yn Nos. Edrychodd Duw o’i gwmpas, ac fe ddywedodd â gwên, ‘Dyna ddechrau da. Rydw i wrth fy modd. Fe gaf weld beth fydda i’n gallu ei wneud yfory.’

Felly, ar yr ail ddiwrnod, fe rwbiodd Duw ei ddwylo ac fe gasglodd  yr holl awyr ynghyd yn belen, a’i thaflau â llawenydd i wneud yr wybren. Yna, fe gasglodd y dwr ynghyd a’i rowlio a’i siapio a’i rannu rhwng y tiroedd, y moroedd gwyllt a’r nentydd byrlymus a’r llynnoedd llonydd a thorgymylau ffyrnig. Awyr a dwr a daear. Edrychodd Duw o’i gwmpas, ac fe ddywedodd â gwên, ‘Ddim yn ddrwg o gwbl. Fe allwn i wneud rhywbeth â hyn.’ 

Ar y trydydd diwrnod, penliniodd Duw ar y ddaear wag, sych, ac yn dyner, fe feddyliodd am yd yn tyfu yn y caeau ac am goed yn drwm o ffrwythau blasus ac yn llawn blodau tlws. Fe feddyliodd am fefus a ffrwythau ciwi ac afalau pîn a grawnwin, grapes a ffrwythau cwmcwat, pys ac afalau coch aeddfed. Ac o’i gwmpas fe dyfodd y cyfan. Edrychodd Duw o’i gwmpas, ac fe ddywedodd â gwên, ‘Dim ond dechrau yw hyn, nawr rwy’n dechrau cynhesu.’

Felly, ar y pedwerydd diwrnod, fe edrychodd Duw i fyny i’r wybren a meddyliodd, Haul i gynhesu’r ddaear a’r Lleuad i ofalu amdani tra mae’n cysgu a sêr i’w harwain a’i chysuro. Felly, fe wasgarodd y sêr yn yr wybren a dal yr Haul yn ei ddwylo a siapio crymder y Lleuad. Edrychodd Duw o’i gwmpas, ac fe ddywedodd â gwên, ‘Ydw, rwy’n hoffi hyn.’

Ar y pumed diwrnod, fe drodd Duw rownd a rownd ac fe ymddangosodd  creaduriaid byw o’i gwmpas ym mhob man, adar i hedfan a physgod i nofio yn y nentydd a’r moroedd, a phob math o anifeiliaid i grwydro ar y ddaear - jiráffs, eliffantod, eirth, gecos a moch cwta, llewod a gwartheg a defaid. Edrychodd Duw o’i gwmpas, ac fe ddywedodd â gwên, ‘Mae hyn yn hwyl fawr. Ond fe alla i wneud yn well na hyn hyd yn oed.’

Ar y chweched diwrnod, fe benliniodd Duw ar y ddaear ac fe siapiodd glai yn ei ddwylo, a chyda gwên, fe anadlodd ar y clai, ac fe wnaeth . . .  y chi. Ac fe fendithiodd Duw’r bobl yr oedd wedi eu gwneud ar ei ddelw ei hun, ac fe ddywedodd wrthyn nhw am fwynhau’r Ddaear, a gofalu amdani. Fe ddywedodd wrthyn nhw am fyw’n werthfawrogol a mwynhau popeth yr oedd cariad Duw wedi ei greu. Edrychodd Duw o’i gwmpas, ac fe ddywedodd â gwên, ‘Mae hyn yn berffaith.’ Ac ar y seithfed diwrnod, fe orffwysodd Duw a gwneud dim ond  mwynhau bod yno, yng nghanol yr holl harddwch a’r holl berffeithrwydd a’r holl ryfeddod. Edrychodd Duw o’i gwmpas, ac fe ddywedodd â gwên, ‘Mae hyn yn ardderchog. Rwyf mor falch fy mod i wedi meddwl am hyn.’ 

7. Rwy’n siwr bod Duw wedi gwenu pan greodd bob un ohonom – ac mae hynny’n eich cynnwys chi! Mae Duw wedi rhoi’r bywyd hwn i ni i’w fwynhau. Beth am i chi chwilio am rywun y gallech chi ddweud jôc wrtho yn ystod yr amser cinio heddiw, er mwyn gwneud iddyn nhw chwerthin? Chwerthin yw’r ffisig gorau, yn wir.

Amser i feddwl

Pan ddaw hi’n fater o gyfrif ein bendithion, mae’r ddawn o chwerthin yn un ohonyn nhw. Mae’n gwneud i ni deimlo’n well. Mae’n adeiladu ysbryd unrhyw dîm. Mae’n gallu ein cael drwy adegau anodd, ac mae’n gallu gwneud adegau da’n adegau hyd yn oed yn well. Mae chwerthin, yn wir, yn rhodd gan Dduw, gymaint bob tamaid ag oedd Isaac ei hun yn rhodd gan Dduw i Sara!

Gweddi

Arglwydd Dduw,
Helpa ni i chwerthin yn braf heddiw.
Helpa ni i fod yn garedig yn ein chwerthin – a phob amser i chwerthin gyda phobl ac nid chwerthin am eu pen.
Helpa ni i deimlo llawenydd dawns a chwerthin y greadigaeth o’n cwmpas.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon