Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dewrder i sefyll ar ben eich hun

Dewrder o stori Daniel

gan Janice Ross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried faint o ddewrder mae ei gymryd i sefyll dros yr hyn rydych chi’n credu ynddo.

Paratoad a Deunyddiau

  • Grwpiau o eitemau tebyg, sy'n briodol i oedrannau eich plant. Dylech gynnwys 'un gwahanol' ym mhob grwp: er enghraifft, tri ffrwyth ac un llysieuyn, lluniau o dri blodyn sydd wedi tyfu o hadau ac un sydd wedi tyfu o fwlb.
  • Ymgyfarwyddwch â stori Daniel, sydd i’w gweld isod.
  • Efallai yr hoffech chi gael 'cheerleaders' sy'n gwneud ystum 'bodiau i lawr' yn ystod y stori yn y mannau priodol.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y gêm ‘un yn wahanol’ gyda’r grwpiau o eitemau rydych chi wedi eu casglu.

    Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw erioed wedi teimlo fel yr un ‘gwahanol’, fel pe na fyddai unrhyw un arall tebyg iddyn nhw o gwmpas. Dyma rai sefyllfaoedd y gallen nhw fod yn ei wynebu.

    Nid yw eich rhieni'n fodlon i chi gael y gêm gyfrifiadur ddiweddaraf y mae eich ffrindiau i gyd yn sôn amdani. Tybed a oes unrhyw un yma heddiw sy'n gwybod pa fath o deimlad yw hynny?

    Rydych yn dymuno gweithio'n galed yn yr ysgol ac mae’n well gan eich ffrindiau chwarae o gwmpas. Tybed a oes unrhyw un yma heddiw sy'n gwybod pa fath o deimlad yw hynny?

    Mae'n well gennych chi ddarllen na chwarae pêl-droed. Tybed a oes unrhyw un yma heddiw . . .

    Rydych chi’n credu yn Nuw ac yn mynd i'r eglwys gyda'ch teulu, ac nad yw eich ffrindiau yn gwneud hynny. Tybed a oes unrhyw un yma heddiw . . .

    Efallai, pan fyddwn yn hyn, rydym yn darganfod bod pob un o'n ffrindiau eisiau rhoi cynnig ar ysmygu ond rydym yn gwybod fod hynny'n niweidiol.

    Gall fod sawl rheswm pam y byddwn yn teimlo'n aml fel ein bod yn sefyll ar ein pen ein hunain, pam ein bod yn teimlo fel yr un gwahanol.

  2. Eglurwch ei bod hi'n rhaid bod yn ddewr i fod yn wahanol, i wneud safiad, neu i ddweud ‘Na’.

    Adroddwch stori Daniel. Gall y plant eich helpu trwy ‘hisian’ bob tro y byddan nhw'n clywed y geiriau, ‘I lawr â Daniel!’

    Roedd Daniel yn ddyn ifanc deallus a phwysig, a oedd yn helpu'r Brenin Darius i reol ei deyrnas. Roedd Daniel mor dda wrth ei waith ac wedi ennill ymddiriedaeth y brenin fel ei fod yn mynd i gael dyrchafiad mawr yn y dyfodol.  Yn drist, fodd bynnag, fe wnaeth hyn y rhai eraill oedd yn helpu'r brenin yn genfigennus, a phan fydd pobl yn cenfigennu wrthym fe allan nhw fynd ati i'n niweidio mewn rhyw ffordd. Ymunodd y dynion hyn â'i gilydd i geisio llunio cynllun i rwydo Daniel a'i ddisodli.                                                                                                                              

    ‘I lawr â Daniel!’ dyma nhw'n hisian yn ddig. (Y plant yn gwneud swn hisian)

    Ond, er trio a thrio eu gorau, doedden nhw ddim yn gallu dod o hyd i unrhyw beth o'i le gyda gwaith Daniel. Gwnaeth hyn iddyn nhw fod yn ddicach.

    ‘I lawr â Daniel!’ dyma nhw'n hisian yn ddig. (Y plant yn gwneud swn hisian)

    Nawr, roedd y dynion hyn yn gwybod fod Daniel yn un o bobl Duw, a oedd bob amser yn gosod Duw yn gyntaf yn ei fywyd.

    ‘Nawr dyna syniad,’ meddyliodd un o'r dynion yn gynhyrfus.

    Roedd yn syniad clyfar, a dyma nhw'n mynd ar frys at y brenin gyda'u cynllwyn.

    ‘O frenin Darius sydd fwyaf bonheddig. Yn wir, ti yw'r brenin mwyaf sydd erioed wedi byw. Rydym yn meddwl y dylet gyhoeddi deddf sy'n datgan y dylai'r bobl i gyd, yn ystod y tri deg diwrnod nesaf, blygu i lawr a'th addoli di yn unig.’

    Cynffona cynffonllyd!

    Roedd y brenin yn eithaf hoff o'r syniad. Dyma fo'n ymsythu ar ei orsedd ac atebodd, ‘Rydych yn dweud pethau hyfryd, ac wrth gwrs maen nhw'n wir i gyd. Syniad da.’

    ‘Ac,’ ychwanegodd y dynion dichellgar, ‘os bydd unrhyw un yn meiddio addoli unrhyw dduw arall o'th flaen, yna fe ddylai hwnnw gael ei daflu i ffau'r llewod!’

    ‘Iawn,’ meddai'r brenin, gan nodio'n falch i gytuno, a chafodd y datganiad neu’r gorchymyn hwnnw ei gyhoeddi.

  3. Pan glywodd Daniel am hyn, fe wyddai nad oedd hwn yn orchymyn y gallai gytuno ag ef. Ei Dduw ef oedd yr unig Dduw. Felly fe benderfynodd . . . ddianc? Na, ni wnaeth hynny. Fe benderfynodd . . . ddal ati i weddïo dros y brenin am y tri deg diwrnod canlynol? Na, nid dim ond hynny wnaeth o. Fe benderfynodd   . . . ddal ati i barhau i weddïo'n ddistaw yn ei galon ar ei Dduw? Na, nid dim ond hynny wnaeth o ychwaith. Fe aeth Daniel i fyny'r grisiau i'w ystafell, agorodd ei ffenestr led y pen, penliniodd a gweddïodd yn uchel, nid yn unig unwaith ond teirgwaith y dydd, fel yr oedd wedi arfer ei wneud o'r blaen! Gallwch fod yn sicr bod rhywrai'n ysbïo arno. Roedd yr ysbienddrychau allan yn llu!

    ‘I lawr â Daniel!’ hisiodd y dynion yn frwd. (Y plant yn gwneud swn hisian)

    Dyma nhw'n prysuro at y brenin Darius er mwyn dweud wrtho pa mor anufudd oedd Daniel. Roedd y brenin yn gofidio oherwydd ei fod yn hoffi Daniel, ond y gyfraith yw'r gyfraith wedi'r cyfan. Roedd wedi ymrwymo'i hun iddi.

    ‘Ewch ag ef at y llewod!’ gorchmynnodd, ond yn dawel wrtho'i hun fe ychwanegodd, ‘Boed i dy Dduw di dy achub di, Daniel.’

    A beth mae'r Beibl yn ei ddweud wrthym am yr hyn a wnaeth Duw? Caeodd safnau'r llewod. Wnaeth yr un llew hyd yn oed agor ei geg. Pan ddygwyd Daniel allan o'r ffau heb i hyd yn oed un blewyn ar ei ben fod wedi ei niweidio, cyhoeddodd y Brenin Darius ddatganiad arall.

    ‘Ym mhob rhan o'm teyrnas, rhaid i'm pobl ofni a pharchu Duw Daniel.’

  4. Ni wyddai Daniel beth fyddai wedi deillio o'i benderfyniad. Yn sicr, nid oedd wedi ffansïo'i siawns gyda'r llewod, ond fe wyddai hefyd na allai gytuno â'r datganiad. Roedd yn benderfyniad anodd i wneud - sefyll ar ei ben ei hun yn erbyn y brenin – a bod fel yr un dyn bach ‘gwahanol’.

    Wrth gwrs, nid oedd Daniel ar ei ben ei hun. Roedd ganddo Dduw a oedd wedi addo na fyddai byth yn ei adael yn unig, na'i anghofio. Fe wyddai mai’r peth iawn i'w wneud oedd parhau i ymddiried yn ei Dduw.

    Rwy'n dychmygu fod yna lawer a oedd yn credu'r un fath â Daniel, ond nad oedd ganddyn nhw'r un dewrder. Efallai yn y sefyllfaoedd yr ydym yn eu hwynebu pan fyddwn ni fel yr un dyn bach gwahanol, mae yna lawer o bobl eraill yn syllu arnom sy'n cytuno â ni, ond sydd ddim ond angen arweinydd arnyn nhw? Yn sicr roedd Daniel yn un felly. O ganlyniad i'w ddewrder, fe drodd y genedl gyfan at ei Dduw arbennig a oedd yn gallu gwneud gwyrthiau.

Amser i feddwl

Ydych chi wedi bod mewn sefyllfa, ryw dro, pan oeddech chi’n teimlo mai chi oedd yr un ‘gwahanol’? Tybed beth wnaethoch chi?

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch dy fod ti’n ffyddlon i dy bobl.
Diolch i ti am achub Daniel.
Helpa fi, pan fydda i’n wynebu penderfyniadau anodd,
i fod â’r dewrder i ddewis gwneud yr hyn sy’n iawn.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon