Mae’r byd yn hardd: stori’r creu
Gwasanaeth o’r gyfres 'Helo, Sgryffi'
gan The Revd Sylvia Burgoyne
Addas ar gyfer
- Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Creu syniad o ryfeddod at harddwch ein byd.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
- Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
- Efallai yr hoffech chi ddangos gwahanol fathau o fylbiau planhigion, neu botyn o flodau’r gwanwyn sydd wedi tyfu o fylbiau.
Gwasanaeth
1.Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud,
‘Helo, Sgryffi!’
Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol:
Mae Liwsi Jên yn byw ar fferm gyda’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos.
Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!
2. Roedd yr haul yn tywynnu drwy ddrws y stabl wrth i Liwsi Jên ei agor a rhedeg i mewn yn llawn cyffro gan ddweud, ‘Tyrd, Sgryffi . Mae gen i rywbeth i’w ddangos i ti.’
Dilynodd Sgryffi Liwsi Jên ar draws buarth y fferm i’r berllan. ‘Bydd yn ofalus ble rwyt ti’n rhoi dy garnau, Sgryffi ! Edrych ar y planhigion bach gwyrdd ifanc sy’n dod i’r golwg o’r ddaear.’
Roedd Sgryffi’n cofio dod i’r berllan gyda Liwsi Jên a’i mam yn ystod yr hydref blaenorol. Roedd y coed afalau wedi colli eu dail ac roedd y ddaear yn llwydaidd, a’r planhigion yn edrych fel pe bydden nhw wedi marw i gyd. Roedd Sgryffi wedi gwylio Liwsi Jên a’i mam yn gwneud nifer o dyllau yn y ddaear ac yn gwthio amrywiaeth o fylbiau o wahanol faint, a oedd yn edrych yn ddigon difywyd, i’r tyllau ac yn rhoi pridd drostyn nhw wedyn.
Gofynnwch i’r plant, ‘Oes rhywun yn gallu meddwl tybed beth oedd y pethau yr oedd Liwsi Jên yn eu claddu yn y ddaear?’ Dangoswch y bylbiau, neu’r blodau sydd gennych chi sydd wedi tyfu o fylbiau, os byddwch yn eu defnyddio.
Gofynnwch i’r plant, ‘Pa flodau’r gwanwyn sy’n tyfu o fylbiau?’
Yna, fe ddywedodd Liwsi Jên, ‘Fe fydd yn rhaid i ni ddod yma bob dydd, Sgryffi, i weld a fydd y blodau’n tyfu.’ Ac fe wnaethon nhw. Yn eu tro, fe welson nhw’r blodau’n tyfu. Yn gyntaf fe ddaeth yr eirlysiau, wedyn blodau’r saffrwm - rhai melyn a phorffor. Ac yna fe dyfodd y cennin Pedr. Roedd Sgryffi’n hoffi’r cennin Pedr lliw aur gyda’u trympedi oren.
Gofynnwch i’r plant, ‘Pa un yw eich ffefryn chi o flodau’r gwanwyn?’
Uwchben y blodau, roedd y coed afalau’n llawn blodau tlws a dail gwyrdd newydd hyfryd. Safodd Liwsi Jên yn llonydd a rhyfeddu at yr hyn roedd hi’n ei weld. ‘O! Mae’r lle yma’n hyfryd, Sgryffi,’ meddai, ‘wyt ti’n cytuno efo fi? Dyna fyd hardd sydd gennym ni!’
Nodiodd Sgryffi ei ben i gytuno â hi, a dweud, ‘Hi-ho, hi-ho!’
(Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.)
3. Caewch eich llygaid yn dynn, fel byddwch chi’n methu gweld dim. Nawr, dychmygwch fyd heb leuad, sêr na haul; dim môr, awyr na thir sych; dim coed na blodau; dim anifeiliaid, adar na physgod; a dim pobl - dim chi eich hun hyd yn oed ychwaith! Dim byd o gwbl. Fyddech chi’n hoffi hynny?
4. Mae Cristnogion yn credu nad oedd Duw’n hoffi’r lle felly, ac fe ddechreuodd greu byd hardd. Yn gyntaf, fe greodd oleuni a thywyllwch.
Pa enw a roddodd Duw ar y goleuni? Pa enw a roddodd Duw ar y tywyllwch?
Yn nesaf, fe greodd Duw yr awyr. Ac fe gasglodd y dyfroedd ynghyd a’i alw’n fôr.
Pa enw a roddodd Duw ar y mannau sych?
Yna, fe ddechreuodd Duw fwynhau ei hun o ddifrif. Fe greodd blanhigion a choed. Fe osododd oleuadau yn yr awyr.
Allwch chi ddweud beth oedd yn goleuo’r awyr yn y nos?
Beth oedd yn goleuo’r awyr yn y dydd?
Ond byd tawel iawn oedd hwn, nes gwnaeth Duw greu pob math o greaduriaid. Roedd y rhain yn gwneud pob math o wahanol synau.
Allwch chi ruo fel llew . . . nadu fel asyn . . . rhochian fel mochyn . . . brefu fel buwch? Pa synau eraill y gallwch chi eu gwneud?
Nawr, roedd ar Dduw angen rhywun i ofalu am ei fyd, felly fe greodd bobl.
Ac ar ôl hyn i gyd, fe gafodd Duw orffwys haeddiannol. Roedd wedi cael hwyl ardderchog yn creu’r byd. Fe edrychodd ar y cyfan roedd wedi ei wneud, ac fe wenodd. Roedd yn fodlon iawn. Roedd popeth yn dda- yn dda iawn!
Amser i feddwl
Meddyliwch am rywbeth hardd rydych chi’n ei weld allan neu efallai yn eich cartref.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Dolch i ti am ein byd hardd.
Helpa ni i ofalu amdano.
Amen.