Adnabod dawn
gan Alison Thurlow
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ein hannog i gydnabod ein doniau ein hunain a doniau pobl eraill.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch ddelwedd yn dangos y tri phwynt sy’n cael eu rhestru yn yr adran ’Amser i feddwl’ ar y diwedd, a threfnwch fodd o’i dangos yn ystod y gwasanaeth (dewisol).
- Os hoffech chi fe allech chi ddewis cân i’w chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth allan o’r sioe gerdd, Joseff and the Amazing Technicolour Dreamcoat.
Gwasanaeth
1. Eglurwch y byddwch yn canolbwyntio heddiw ar ein doniau arbennig – y pethau yr ydym yn dda iawn am eu gwneud, a'r hyn sy'n gwneud pob un ohonom yn arbennig.
2. Soniwch wrth y plant am rai o'r doniau arbennig sydd gennych chi, a'r rhai sydd gan aelodau o'ch teulu neu eich ffrindiau. Yna gofynnwch, ‘Beth amdanoch chi i gyd? Trowch at y person nesaf atoch a soniwch am rai o'ch doniau arbennig.’
Ystyriwch rai o ymatebion y plant.
3. Dywedwch wrthyn nhw eich bod chi'n mynd i adrodd stori o'r Beibl iddyn nhw. Daw'r stori yma o’r Hen Destament yn y Beibl sy'n sôn am ddyn ifanc o'r enw Joseff.
Dawn arbennig Joseff
Roedd gan Joseff ddawn eithaf anghyffredin: gallai egluro'r breuddwydion y byddai pobl eraill yn eu cael. Yn y dechrau, doedd y ddawn hon ddim yn ei wneud yn boblogaidd, ond, ymhen amser, fe ddefnyddiodd ei ddawn i helpu llawer o bobl.
Un o'r meibion ieuengaf o 12 brawd oedd Joseff, ond nid oedd yn boblogaidd iawn yn eu mysg oherwydd mai ef oedd ffefryn eu tad. Prynodd Jacob, ei dad, got arbennig iddo o ddefnydd ac iddo lawer o wahanol liwiau, ac am hynny cynyddodd cenfigen ei frodyr tuag ato.
Roedd Joseff yn cael rhai breuddwydion hefyd, ac wrth sôn am y breuddwydion roedd hynny’n ei wneud yn fwy amhoblogaidd ymysg ei frodyr. Breuddwydiodd bod y 12 ohonyn nhw yn sypynnau o wenith, a bod y sypynnau gwenith eraill i gyd yn penlinio ac addoli’r sypyn gwenith a oedd yn ei gynrychioli ef. Yna fe freuddwydiodd mai sêr oedden nhw i gyd, ac yn yr un modd, roedd y sêr eraill i gyd y plygu glin a'i addoli ef fel pe byddai'n frenin.
Roedd ei frodyr yn ei gasáu'n fwy byth ar ôl iddo adrodd y breuddwydion hyn wrthyn nhw ac fe wnaethon nhw ei werthu fel caethwas. Fe wnaethon nhw roi ychydig o waed gafr ar ei got arbennig cyn ei chario'n ôl at eu tad, Jacob, a dweud wrtho fod Joseff wedi cael ei ladd. Roedd Jacob mor drist fel na fedrai roi'r gorau i grïo.
Yn y cyfamser, cyrhaeddodd Joseff yr Aifft a gweithiodd yn galed i ddyn o'r enw Potiphar. Roedd gwraig Potiphar yn eithaf cenfigennus o Joseff, a llwyddodd i drefnu bod Joseff yn cael ei roi yn y carchar. Roedd hyn yn anodd iawn i Joseff, ond fe ddaeth ei ddawn arbennig o wybod beth oedd ystyr breuddwydion yn fuddiol iddo yn y lle hwnnw. Cafodd cyd-garcharor iddo freuddwyd am rawnwin, a dywedodd Joseff wrtho y byddai'n cael ymadael â'r carchar yn fuan, a dyna'n union a ddigwyddodd. Cafodd carcharor arall freuddwyd am rai torthau o fara, a dywedodd Joseff wrtho y byddai'n cael ei ladd yn fuan gan y brenin ac, yn anffodus, fe ddigwyddodd hynny hefyd.
Ymhen ychydig amser ar ôl hyn, fe ddechreuodd brenin yr Aifft gael nifer o freuddwydion ond ni allai neb ddatrys beth oedden eu hystyr, felly fe anfonwyd am Joseff o'r carchar i weld a allai ef eu dehongli. Dywedodd Joseff wrth y brenin mai ystyr ei freuddwyd am saith o wartheg tewion a saith o wartheg tenau oedd y byddai saith blynedd o gynnyrch ardderchog o'r tir yn cael eu dilyn gan saith blynedd o newyn, ac felly fe ddylai'r brenin storio bwyd ar gyfer ei bobl yn ystod y saith mlynedd o lawnder.
Gadawodd dawn Joseff o ddehongli ystyr ei freuddwyd gymaint o argraff ar y brenin fel y rhyddhaodd ef o'r carchar ar unwaith.
Cafodd saith mlynedd o lawnder yn wir eu dilyn gan saith mlynedd o newyn, ond fe achubwyd pobl yr Aifft oherwydd bod y brenin wedi derbyn cyngor Joseff ac wedi storio grawn. Roedd y brenin wedi gosod cyfrifoldeb ar Joseff i storio digon o fwyd trwy gydol y blynyddoedd o lawnder.
Yn y wlad lle'r oedd teulu Joseff yn byw, sut bynnag, roedd newyn a phrinder bwyd. Nid oedd bwyd ar gael o gwbl, ac roedd pawb yn newynu. Yn y diwedd, anfonodd Jacob frodyr Joseff yr holl ffordd i'r Aifft i brynu blawd i wneud bara.
Fe wnaeth Joseff adnabod ei frodyr, ond cymerodd arno nad oedd yn gwybod pwy oedden nhw, a rhoddodd dipyn o amser caled iddyn nhw ar y dechrau. Doedd ei frodyr ddim yn sylweddoli pwy oedd Joseff, ond fe wnaethon nhw'r cyfan a ofynnodd iddyn nhw. Yna fe ddywedodd Joseff wrthyn nhw pwy oedd o, a'i fod wedi maddau iddyn nhw, ac y byddai'n rhoi bwyd i'w fwyta iddyn nhw. Gofynnodd hefyd iddyn nhw anfon neges at ei dad oedrannus, Jacob, i ddweud wrtho fod ei fab, Joseff, yn fyw o hyd.
Amser i feddwl
Mae hon yn stori ddiddorol a chyffrous iawn o’r Beibl, a dim ond fersiwn byr ohoni rydw i wedi ei hadrodd heddiw, mae tipyn mwy i’r stori gyfan.
Os meddyliwch fod hynny’n briodol, fe allech chi awgrymu y gallai’r plant ddarllen y stori lawn, pe bydden nhw eisiau, yn y Beibl yn Llyfr Genesis penodau 37-45.
Pam gwnes i ddewis y stori hon ar gyfer y gwasanaeth heddiw sy’n sôn am ddoniau arbennig, ac am y ffaith ei bod yn dda gallu bod chi eich hun? Mae tri phrif reswm, ac fe hoffwn i chi feddwl am y rhain.
Dangoswch y ddelwedd sy’n darlunio’r hyn sy’n cael ei ystyried yn y rhestr sy’n dilyn, os byddwch yn dymuno gwneud hynny.
1. Roedd gan Joseff ddawn ychydig yn anarferol, ond yn sicr roedd yn ddawn arbennig, ac fe wnaeth i mi feddwl tybed oes talent anarferol ac arbennig gan rai ohonoch chi.
2. Ar y dechrau, doedd llawer o bobl ddim yn meddwl bod egluro i eraill beth oedd ystyr breuddwydion neilltuol yn ddawn. Dim ond yn ddiweddarach yn y stori, pan ddywedodd pobl wrth y brenin am Joseff, y dechreuodd pobl gydnabod gwerth y ddawn hon oedd ganddo, ac fe wnaeth hynny i mi feddwl tybed oes angen i ni ambell dro gydnabod ein doniau ni neu ddoniau pobl eraill yn fwy nag y byddwn yn ei wneud.
3. Roedd bywyd yn galed i Joseff am gyfnod, ond, yn y pen draw, pan ddechreuodd ddefnyddio ei ddawn i helpu pobl eraill, roedd yn gallu dweud yn bendant, ‘Ydi, mae’n dda gallu bod yn fi!’
Nawr, mae gen i syniad arall i chi feddwl amdano. Trowch at yr un sy’n eistedd yn eich ymyl a thrafodwch y cwestiwn hwn: ‘Sut gallech chi helpu rhywun arall i sylweddoli pa ddoniau arbennig sydd ganddyn nhw?’
Trafodwch rai o awgrymiadau’r plant.
Rwy’n meddwl bod anogaeth yn ffactor bwysig iawn yma!
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti fod gennym ni i gyd ddoniau arbennig.
Helpa ni i gydnabod doniau ein ffrindiau ac aelodau ein teulu, a helpa ni i ddefnyddio ein doniau er mwyn eraill bob amser.
Amen.
Cerddoriaeth
Cân allan o’r sioe gerddJoseff and the Amazing Technicolour Dreamcoat