Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwnewch bethau yn eich ffordd eich hun

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried ein doniau unigryw a’n galluoedd creadigol.

Paratoad a Deunyddiau

Ceisiwch gael copi o’r llyfr Saesneg Giraffes Can’t Dancegan Giles Andreae (Orchard, 2014), i’w ddangos ac i adrodd y stori ohono.

Gwasanaeth

1. Holwch, oes rhywun wedi darllen y llyfr hwn, Giraffes Can’t Dance gan Giles Andreae?

Dangoswch gopi o’r llyfr i’r plant os oes un gennych chi.

Yn y llyfr hwn, cawn wybod mai hoff weithgaredd anifeiliaid y byd yw dod ynghyd i ddawnsio a chynnal dawn fawr y jyngl! Mae’r coalas yn dawnsio dawns karate, y draenogod yn dawnsio dawns hiphop, ac ati.

Os yw’r llyfr gennych chi, dangoswch enghreifftiau o’r gwahanol fathau o ddawns y bydd yr anifeiliaid yn ei dawnsio. Neu, holwch rai o’r plant sy’n gyfarwydd â’r llyfr ynghylch sut ddawns fyddai’r gwahanol anifeiliaid yn ei dawnsio, er enghraifft, ‘Pa fath o ddawns oedd dawns y moch dafadennog (warthogs)?

Nawr, roedd un jiráff druan yno o’r enw Gerald, a oedd yn cael trafferth fawr gyda’r digwyddiadau hyn.

Fel y gwyddoch chi, mae gan jiráffs goesau hir y mae’n anodd eu rheoli ar adegau! Roedd Gerald yn cael ei bryfocio’n aml am fod yn drwsgl, ac am nad oedd yn gallu dawnsio fel yr anifeiliaid eraill. Ar yr adegau hynny, fe fyddai Gerald yn ymgilio’n ddigalon.

Fe welodd criciedyn cyfeillgar y jiráff druan ar un o’r adegau hynny, ac roedd yn gwybod sut roedd y jiráff yn teimlo. Fe ddywedodd wrtho, ‘Rwyt ti’n gallu dawnsio, Gerald. Dim ond dy fod ti angen cerddoriaeth wahanol i ddawnsio iddi, a bod yn barod i roi cynnig arni  . . .  mewn geiriau eraill, i ddawnsio yn dy ffordd di dy hun.’

Gyda hynny, dyma’r criciedyn caredig yn codi ei ffidil ac yn dechrau ei chanu. Dechreuodd Gerald chwifio a siglo, a throi a throelli yn ôl ac ymlaen ac o ochr i ochr, ac fe ddechreuodd ei goesau shifflo a thwistio. A chyn iddo sylweddoli, roedd yn dawnsio’r ddawns ryfeddaf. Fe beidiodd yr anifeiliaid eraill â dawnsio a dechrau gwylio’n gegrwth.

Felly, welwch chi, fe allai Gerald ddawnsio! Efallai nad oedd ei ddawns yn union yr un fath â dawns unrhyw un arall - wel cofiwch am hyd ei goesau! - ond ei ddawns ef oedd hi, ac roedd Gerald wrth ei fodd.

2. Dyma stori arall.

Caedmon

Unwaith roedd dyn o’r enw Caedmon, a oedd yn gweithio fel bugail gwartheg. Roedd Caedmon yn gofalu am yr anifeiliaid a oedd yn perthyn i’r fynachlog yn Whitby.

Roedd wrth ei fodd yn cael bod allan yn gweithio gyda’r anifeiliaid, ac roedd yn mwynhau harddwch byd natur yr oedd yn ei weld ym mhob man o’i gwmpas.

Yn y dyddiau hynny, doedd dim teledu na radio, a doedd y gweithwyr ar y ffermydd ddim yn gallu darllen, felly fe fydden nhw’n aml yn treulio eu nosweithiau’n eistedd o gwmpas y tân yn canu. Fe fyddai’r dynion yn cymryd eu tro i ganu’r delyn, ac fe fydden nhw’n cyfansoddi caneuon ac yn adrodd cerddi. Ond doedd Caedmon ddim yn hapus yn gwneud hyn. Fe fyddai’n gwylio’r delyn yn cael ei phasio o’r naill i’r llall nes byddai’n dod i’w gyfeiriad ef, ac yna fe fyddai’n diflannu i rywle’n ddistaw bach cyn i’r delyn ei gyrraedd.

Awgrymwch y gall rhai plant fod wedi teimlo rywbeth yn debyg i hyn ryw dro yn y gweithgaredd amser cylch, efallai. 

Fe fyddai’r dynion eraill yn chwerthin ac yn pryfocio gan ddweud, ‘Wel, mae Caedmon wedi diflannu unwaith eto. Ond dyna fo, dydi Caedmon ddim yn gallu canu nodyn.’

Y stori yw bod Caedmon, ar un o’r nosweithiau hynny wedi iddo ddiflannu o’r cylch a mynd i gysgu yn y beudy, wedi cael breuddwyd. Yn y freuddwyd, fe glywodd lais yn dweud wrtho:

‘Caedmon, wnei di ganu rhywbeth i mi?’
‘Dydw i ddim yn gallu canu’, atebodd Caedmon.
‘Ond, fe wnei di ganu, Caedmon. Cana i mi am ddechreuad y byd, cana i mi am hanes y creu.’

Nawr, roedd Caedmon bob amser wedi bod wrth ei fodd yn gwrando ar y mynachod yn adrodd y stori am Dduw’n creu’r byd hardd. Fe fyddai’n meddwl yn aml am y stori honno pan fyddai allan yn y caeau ac ar y bryniau gyda’r gwartheg. Felly, yn ei freuddwyd, fe ganodd Caedmon, mewn llais crynedig, am stori creu’r byd, fel yr oedd wedi ei dysgu wrth wrando ar y mynachod.

Yn y bore, fe ddeffrodd Caedmon fel arfer. Dychmygwch ei syndod wrth iddo ganfod ei fod yn cofio’r freuddwyd yn iawn, ac yn cofio pob gair o’r gân yr oedd wedi ei chanu, ac yn sylweddoli y gallai ei chanu eto hefyd.

Wedi clywed am hyn, fe ofynnodd y Fam-Abades, a oedd yn bennaeth y fynachlog, a fyddai Caedmon yn gallu canu’r gân hon am y creu, yr oedd wedi ei chanu yn ei freuddwyd, iddi. Roedd Caedmon braidd yn nerfus, fel y gallwch chi ddychmygu, ond fe safodd o’i blaen, ac yna bennill ar ôl pennill, fe ganodd am y coed, y môr, yr anifeiliaid ac am harddwch y greadigaeth. Ac fe ganodd hyn i gyd mewn llais pur a hyfryd.  Roedd y Fam-Abades wedi synnu. Fe ddywedodd wrtho, ‘Mae gen ti ddawn arbennig wedi ei chael gan Dduw, Caedmon. Mae’n rhaid i bobl ganiatáu i ti ddefnyddio’r ddawn hon.’

Roddodd y Fam-Abades orchymyn i’r mynachod ryddhau Caedmon o’i ddyletswyddau fel bugail gwartheg a dysgu storïau o’r Beibl iddo, fel y gallai droi’r storïau’n ganeuon i’w canu. Felly, fe ddaeth Caedmon yn fynach ac, yn dilyn ei freuddwyd ryfeddol, fe ddechreuodd ysgrifennu barddoniaeth hyfryd a ddefnyddiai’r mynachod i foli Duw.

Ac felly, mae’n amlwg bod Caedmon yn gallu canu wedi’r cyfan. Efallai nad oedd ei ganeuon yn union yr un fath math o ganeuon â rhai pobl eraill, ond roedden nhw’n rhan o’i fath ef o ganu, ac roedd wrth ei fodd.

Amser i feddwl

Ydych chi, ryw dro, wedi teimlo fel roedd Gerald y jiráff neu Caedmon y bugail gwartheg yn teimlo? Ydych chi wedi teimlo embaras neu wedi teimlo’n bryderus ryw dro, ac wedi dymuno i’r llawr agor o dan eich traed a’ch llyncu – dim ond oherwydd nad oeddech chi’n gallu gwneud pethau yn yr un ffordd â phobl eraill?

Pa ysbrydoliaeth allwch chi ei chymryd o’r storïau hyn?

Gweddi

Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n hoffi amrywiaeth.
Fe wnest ti ein creu ni i gyd i edrych yn wahanol i’n gilydd, ac fe wnest ti roi doniau gwahanol a galluoedd creadigol gwahanol i bob un ohonom.
Helpa ni i ddeall y byddwn ni hapusaf pan fyddwn ni’n dysgu caru ein hunain ac yn gallu derbyn ein hunain fel yr ydyn ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon