Wynebu newid
gan Alison Thurlow
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Annog y plant i fynegi eu teimladau a bod yn gadarnhaol ynghylch symud i ysgol newydd neu i ddosbarth arall.
Paratoad a Deunyddiau
- Lluniwch ddelwedd o’r rhestr o gwestiynau sy’n cael eu rhoi yng Ngham 2 y gwasanaeth, a threfnwch fodd o ddangos y ddelwedd yn ystod y gwasanaeth, ynghyd â’r delweddau eraill y mae cyfeiriad atyn nhw yma. Efallai yr hoffech chi hefyd greu delwedd o’r awgrymiadau ynghylch beth allai’r plant ei ddysgu o’r storïau sy’n cael eu rhoi yng Ngham 4 a 5.
- Trefnwch hefyd bod y delweddau canlynol ar gael gennych chi:
– llun pos jig-so gydag un darn ar goll, ar gael ar: www.gettyimages.co.uk/detail/photo/blank-jigsaw-puzzle-with-one-piece-missing-close-up-royalty-free-image/200535512-001
– llun cwilt clytwaith, ar gael ar: https://creativewritingibiza.files.wordpress.com/2014/07/patchwork-quilt.jpg
– llun tapestri modern, ar gael ar: www.moonrain.ca/images/Curtain_of_Light1_abComp482642.jpg
– ffotograff anffurfiol o grwp o blant ysgol. - Yn olaf, lluniwch ddelwedd hefyd o’r Fendith Wyddelig sy’n cael ei chynnwys fel gweddi yn yr adran ‘Amser i feddwl’ yn y gwasanaeth. Gallech baratoi symudiadau addas i gyd-fynd â’r testun, neu arwyddion Makaton, os hoffech chi.
Gwasanaeth
1. Eglurwch y byddwch chi, yn ystod y gwasanaeth heddiw, yn meddwl am y ffaith y bydd y plant, cyn bo hir, yn symud i ysgol newydd neu i ddosbarth arall. Dywedwch y byddwch chi i gyd yn ystyried rhai newidiadau a fydd yn eu hwynebu, ac yn meddwl sut rydyn ni’n teimlo ynghylch y newidiadau hyn.
2. Gofynnwch i’r plant droi at yr un sy’n eistedd agosaf atyn nhw a thrafod y cwestiynau canlynol. Eglurwch y bydd un set o gwestiynau ar gyfer plant o’r Dosbarth Derbyn i Blwyddyn 5, a’r set arall ar gyfer y rhai hynny sydd yn Blwyddyn 6 ac sy’n paratoi i symud i ysgol newydd.
Dangoswch y ddelwedd o’r rhestr cwestiynau.
Dosbarth Derbyn a Blynyddoedd 1 - 5
Pa bethau y byddwch chi’n gweld eu colli fwyaf ar ôl i chi symud o’r dosbarth rydych chi ynddo ar hyn o bryd?
Pa bethau rydych chi’n edrych ymlaen atyn nhw fwyaf ar ôl i chi symud i’ch dosbarth newydd?
Oes unrhyw beth yn gwneud i chi deimlo ychydig yn nerfus ynghylch symud i’ch dosbarth newydd?
Blwyddyn 6
Pa bethau y byddwch chi’n gweld eu colli fwyaf ar ôl i chi symud o’r ysgol hon?
Pa bethau rydych chi’n edrych ymlaen atyn nhw fwyaf ar ôl i chi symud i’ch ysgol newydd?
Pa bynciau rydych chi’n edrych ymlaen fwyaf at eu hastudio ar ôl i chi symud, a pham?
Pa bethau rydych chi’n pryderu mwyaf amdanyn nhw, neu’n teimlo ychydig yn nerfus yn eu cylch, pan fyddwch chi’n meddwl am eich ysgol newydd?
Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant, yn enwedig plant Blwyddyn 6.
3. Diolchwch i’r plant am fod mor onest, yn enwedig wrth iddyn nhw siarad ynghylch y pethau maen nhw’n teimlo braidd yn nerfus yn eu cylch.
Dywedwch ei fod yn beth digon naturiol i deimlo ychydig yn nerfus am y newid, ond mae’n dda siarad am eich teimladau a sylweddoli bod llawer o bobl yn teimlo’n union yr un fath â chi, mewn gwirionedd.
Ewch ymlaen trwy ddweud wrth y plant eich bod yn mynd i adrodd dwy stori iddyn nhw, y ddwy o’r Hen Destament yn y Beibl. Rydych chi’n teimlo bod awgrymiadau ynghylch sut i ymdopi â newidiadau i’w cael yn y ddwy stori.
4. Eglurwch fod y stori gyntaf am ddyn ifanc o’r enw Daniel.
Daniel
Cafodd Daniel ei gymryd i wlad ddieithr pan oedd yn ddyn ifanc, ac mae’n debyg fod popeth yno’n ei frawychu ac yn gwneud iddo deimlo’n ofnus. Roedd yr arferion, y traddodiadau, a’r hyn roedd y bobl yn ei gredu, yn wahanol iawn yno i’r hyn roedd Daniel wedi arfer â nhw. Roedd y bobl yn siarad iaith wahanol hefyd ac roedden nhw’n bwyta pob math o fwydydd gwahanol iawn y wlad hon.
Yn y sefyllfa hon, fe arhosodd Daniel yn bwyllog, ac fe wnaeth rai penderfyniadau doeth, ac roedd yn llwyr ymddiried bod Duw gydag ef. Wnaeth pethau ddim gwella ar unwaith ond, ymhen amser, fe ddaeth Daniel yn arweinydd ar y wlad.
Gofynnwch i’r plant, ‘Beth fydden ni’n gallu ei ddysgu o’r stori hon?’ Awgrymwch eu bod yn ceisio aros yn bwyllog a rhoi rhywfaint o amser iddyn nhw’u hunain i setlo a dod yn gyfarwydd â’r holl bethau newydd.
5. Eglurwch fod yr ail stori’n dweud hanes yr adeg pan oedd pobl Dduw’n mynd i fyw mewn lle newydd o’r enw Gwlad yr Addewid.
Gwlad yr Addewid
Roedd y bobl wedi bod yn teithio am lawer o flynyddoedd er mwyn gallu cyrraedd y wlad arbennig hon. Felly, yn union ar ôl iddyn nhw gyrraedd fe anfonwyd deuddeg o bobl ymlaen o flaen y gweddill er mwyn iddyn nhw fynd i weld sut le oedd yno. Fe wnaethon nhw weld llawer o goed ffrwythau’n tyfu yn y wlad, ond roedden nhw’n gallu gweld hefyd bod yno ddinasoedd mawr a llawer iawn, iawn, o bobl yn byw ynddyn nhw.
Fe ddechreuodd deg o’r deuddeg deimlo’n ofnus iawn, ond roedd y ddau arall, Joshua a Caleb, yn teimlo’n gyffrous iawn ynghylch yr holl bosibiliadau yn y wlad newydd hon. Felly, fe wnaethon nhw atgoffa’r lleill bod eisiau iddyn nhw ymddiried yn Nuw a chofio y bydden nhw’n iawn gyda Duw o’u hochr nhw.
Eto, gofynnwch i’r plant, ‘Beth fydden ni’n gallu ei ddysgu o’r stori hon?’ Awgrymwch eu bod yn ceisio edrych ar ochr gadarnhaol pethau, fel y gwnaeth Joshua a Caleb, ac nid edrych ar bethau negyddol fel y gwnaeth y deg arall. Anogwch y plant i geisio meddwl am bopeth sy’n newydd fel posibiliadau cyffrous bob amser.
Dangoswch y ddelwedd o’r awgrymiadau, os byddwch yn dymuno eu defnyddio.
Amser i feddwl
Eglurwch i’r plant eich bod yn awr yn mynd i ddangos pedair delwedd iddyn nhw a allai gynrychioli addasu i sefyllfa newydd.
Dangoswch y ddelwedd o’r pos jig-so, y cwilt, y tapestri a’r grwp o blant ysgol.
Gofynnwch i’r plant edrych ar y delweddau a phenderfynu pa un fydden nhw’n ei hoffi orau i’w hatgoffa er mwyn eu helpu i feddwl am setlo yno wrth iddyn nhw ddechrau yn eu hysgol neu ddosbarth newydd ym mis Medi.
Ar ôl cyfnod byr o dawelwch i’r plant gael cyfle i feddwl, gofynnwch iddyn nhw rannu eu syniadau gyda’r un sy’n eistedd agosaf atyn nhw. Gwrandewch ar rai o’u hatebion.
Gweddi
Dangoswch ddelwedd o’r Fendith Wyddelig draddodiadol hon.
Eglurwch fod geiriau’r weddi heddiw’n addasiad o eiriau bendith Wyddelig draddodiadol, a’ch bod chi eisiau i’r plant ddarllen hon gyda’i gilydd gan wneud y symudiadau priodol neu’r arwyddion Makaton, os dymunwch.
Bydded i’r ffordd godi i’ch cyfarfod.
Bydded y gwynt fod bob amser i’ch cefn.
Bydded i’r haul dywynnu’n gynnes ar eich wyneb;
a’r glaw ddisgyn yn dyner ar eich meysydd, a nes y byddwn yn cyfarfod eto
bydded i Dduw eich dal chi yng nghledr ei law.
Amen.