Haf hapus!
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried sut mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae er mwyn gwneud adeg gwyliau’r haf yn adeg hapus i bawb.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen baton fel sy’n cael ei ddefnyddio mewn ras gyfnewid (gwnaiff unrhyw beth yr un siâp os nad oes baton gennych chi) a chadwyn llygad y dydd neu gadwyn bapur.
- Efallai yr hoffech chi hefyd drefnu bod gennych chi gopi o’r fideo YouTube:Dropped baton, sy’n dangos athletwyr yn gollwng y baton yn y gemau Olympaidd, a’r modd o ddangos y fideo yn ystod y gwasanaeth (ar gael ar:www.youtube.com/watch?v=6asJ2q4XWPs). Mae’n para 0.29munud.
Gwasanaeth
1. Eglurwch eich bod yn mynd i ddisgrifio dau ddiwrnod gwahanol, ac rydych chi eisiau i’r plant ddychmygu sut bydden nhw’n teimlo ar bob un o’r dyddiau. Gofalwch bod eich llais yn gwneud i’r senario gyntaf swnio’n ddiflas a’r ail swnio’n gyffrous!
2. Dechreuwch trwy ddisgrifio diwrnod oer, gwlyb a diflas. Mae’n bwrw cymaint o law fel na allwch fynd allan i chwarae. Er enghraifft, ‘Pan wnes i ddeffro un bore Sadwrn roedd yn dal i fod yn dywyll y tu allan. Felly, fe wnes i godi o fy ngwely ac agor y llenni. Roeddwn i’n gallu gweld ei bod yn arllwys y glaw y tu allan – ac roedd pob man yn edrych yn ddiflas. Fe wisgais fy nillad a mynd i lawr y grisiau. Roedd Mam yno, â golwg drist arni. “Roeddwn i wedi bwriadu i ni fynd allan heddiw,” meddai, “ond mae mor wlyb a diflas, mae arna i ofn bydd rhaid i ni aros yma. O leiaf fe alli di dreulio’r diwrnod yn gwneud dy waith cartref!”’
Gofynnwch i’r plant feddwl tybed sut bydden nhw’n teimlo pe bydden nhw yn y sefyllfa honno ar ddiwrnod fel hwn.
3. Nawr, disgrifiwch ddiwrnod gwahanol. Er enghraifft, ‘Fe wnes i ddeffro un bore ac roedd pelydrau’r haul yn llifo i mewn heibio’r llenni. Fe godais o’r gwely, agor y llenni ac agor y ffenestr. Y tu allan roedd yr adar yn canu, ac fe ddaeth arogleuon hyfryd y blodau ar goeden yn yr ardd i mewn trwy’r ffenestr. Fe redais i lawr y grisiau ac allan i’r ardd. Roedd yn fore hyfryd. “Rwy’n meddwl y gwnawn ni aros yma trwy’r bore,” galwodd Mam o’r gegin, “ac wedyn efallai y gallen ni fynd i’r traeth yn y pnawn a chael hufen ia yno!”’
Gofynnwch i’r plant feddwl tybed sut bydden nhw’n teimlo pe bydden nhw yn y sefyllfa honno ar ddiwrnod fel hwn.
4. Rydych chi’n gobeithio bydd y plant wedi nodi y bydden nhw’n teimlo’n drist a siomedig mewn ymateb i’r senario gyntaf, ac yn hapus a chyffrous i’r ail senario.
Pwysleisiwch y gall y tywydd gael effaith fawr ar sut rydyn ni’n teimlo. Yn aml, fe fydd plant yn hoffi tymor yr haf yn yr ysgol pan fyddan nhw’n cael chwarae allan ar y cae a theimlo’n gynnes a hapus yn yr awyr agored. Eglurwch fod hafau hapus er hynny’n ymwneud â mwy o lawer na dim ond tywydd da!
5. Gofynnwch i tua wyth o blant ddod atoch chi i’r tu blaen ac yna lleolwch bob un bellter cyfartal oddi wrth ei gilydd o gwmpas ymyl yr ystafell.
Rhowch y baton i’r plentyn cyntaf gan egluro bod yr wyth plentyn yn mynd i actio rhedeg ras gyfnewid ac yn gwneud hynny’n araf fel pe bydden nhw’n ymddangos mewn ffilm ‘slow motion’. (Os nad yw’r plant yn gyfarwydd â’r hyn sy’n digwydd mewn ras gyfnewid, eglurwch iddyn nhw’n gyntaf beth ddylai ddigwydd.)
Pan fydd y ‘ras’ wedi ei rhedeg, eglurwch fod pob plentyn wedi gorfod pasio’r baton ymlaen i’r nesaf yn ystod y ras. Yn yr un ffordd, fe allwn ninnau basio ein teimladau ymlaen i bobl eraill. Pe byddem ni’n gweiddi ar rywun, mae’n debyg y byddai’r person hwnnw’n teimlo’n ddig wedyn, neu’n ddrwg ei hwyl, ac fe allai yntau neu hithau weiddi ar rywun arall oherwydd hynny. Bydd y person hwnnw wedyn yn gwneud yr un peth i rywun arall, ac fe allai hynny fynd ymlaen ac ymlaen. Os na fyddwn ni’n gadael i rywun chwarae â ni ar yr iard, fe allai ef neu hi deimlo’n drist a bod yn gas wrth rywun arall fyddai’n hoffi chwarae ag ef neu hi. Bydd pobl yn aml yn dilyn ein hesiampl.
6. Eglurwch y gallwn ni, yn yr un ffordd, basio hapusrwydd ymlaen o’r naill i’r llall. Os byddwn ni’n garedig wrth rywun, mae’n debyg y bydd y person hwnnw’n garedig wedyn wrth rywun arall, ac ymlaen. Os gwnawn ni adael i rywun arall chwarae gyda ni ar iard yr ysgol, maen nhw’n debyg o ddilyn ein hesiampl. Mae hyd yn oed dim ond gwên yn debygol o gael ei phasio ymlaen, oherwydd os gwnawn ni i rywun deimlo’n hapus mae’r person hwnnw’n debygol o wneud y person nesaf yn hapus, ac ymlaen.
7. Dangoswch y gadwyn llygad y dydd neu’r gadwyn bapur. Eglurwch fod llawer o bobl yn hoffi eistedd ar y glaswellt yn ystod yr haf yn creu cadwyni o flodau llygad y dydd, ac yn hoffi creu cadwyni papur adeg y Nadolig. Maen nhw’n dlws iawn pan fyddan nhw newydd gael eu creu, ond maen nhw hefyd yn fregus iawn. Torrwch y gadwyn gan ddangos pa mor hawdd yw ei thorri.
Eglurwch ei bod hi yr un mor hawdd torri hapusrwydd pobl. Fe allwn ni frifo teimladau pobl yn yr un ffordd. Pwysleisiwch ei bod hi’n bosib weithiau i rywbeth bach iawn droi diwrnod haf hapus rhywun yn ddiwrnod trist.
8. Rhowch her i’r plant feddwl am eu gweithredoedd. Ydyn nhw’n pasio hapusrwydd ymlaen i bobl eraill yr haf hwn? Ydyn nhw’n meddwl am deimladau pobl eraill, ac yn ceisio’u gorau i gadw pobl ynghyd mewn cadwyn hapus yn hytrach nac mewn cadwyn drist?
Amser i feddwl
Sut gallech chi wneud rhywun arall yn hapus heddiw?
Ydych chi wedi gwneud rhywun yn drist yn ddiweddar? Oes angen i chi fynd at y person hwnnw a dweud ei bod hi’n ddrwg gennych chi, a gwneud pethau’n iawn eto?
Cofiwch, mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae er mwyn gwneud haf y naill a’r llall yn hapus! Mae’n rhywbeth sy’n ein gwneud ninnau deimlo’n dda hefyd!
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am yr holl bobl sy’n fy ngwneud i’n hapus.
Diolch am y dyddiau haf braf pan fyddwn ni’n gallu chwarae allan a theimlo’n gynnes a chyffrous.
Helpa fi i wneud fy rhan i wneud haf pawb arall hefyd yn haf hapus.
Diolch fy mod i’n gallu dod â hapusrwydd i eraill trwy wneud peth mor syml â gwenu.
Amen.