Creawdwr Ffyddlon
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Ystyried beth yw ystyr ffyddlondeb a sut y mae ffyddlondeb Duw’n cael ei arddangos yn y greadigaeth.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch gasgliad o ddail yr hydref
- Delwedd oddi ar Google o olygfa brysur ar draeth, ac un arall o draeth â’r llanw allan
- Binocwlar
- Paratowch ddau o’r plant hynaf i gymryd rhan gyda’r sgriptiau
- Dyfyniad o’r Beibl (Genesis 8.22)
Gwasanaeth
- Gofynnwch y cwestiynau canlynol:
Ydych chi’n hoffi coed? Sut maen nhw’n gwneud i chi deimlo? Ydych chi’n hoffi dringo coed?
Ydych chi’n hoffi’r môr? Ydych chi wedi bod ar lan y môr ryw dro? Beth ydych chi’n hoffi ei wneud yno?
Ydych chi’n hoffi edrych ar y sêr? Ydych chi’n gwybod enwau unrhyw sêr? - Actiwch y senario ganlynol:
Plentyn: (yn dod i mewn yn edrych yn anhapus)
Arweinydd: Beth sy’n bod . . .?
Plentyn:(yn dangos y casgliad o ddail yr hydref)Rwy'n gofidio am fy mod wedi dod o hyd i’r rhain o dan y goeden hardd sydd yn y parc lle cefais i bicnic yno yn yr haf.
Arweinydd: Mae lliwiau’r dail yn dlws iawn.
Plentyn: Ond mae’r dail yn dechrau marw, ac yn fuan iawn fe fydd y goeden wedi marw hefyd. Chawn ni byth bicnic eto o dan y goeden hardd honno.
Gofynnwch i'r plant a yw hyn yn wir, a nodwch mai dyma sy’n digwydd bob amser yn yr hydref. Bydd dail ffres yn tyfu ar y goeden yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Mae bob amser wedi bod fel hyn, byth ers pan wnaeth Duw greu’r coed. Mae'r Beibl yn sôn am hyn fel a ganlyn:
‘Tra pery’r ddaear, ni pheidia pryd hau a medi, oerni a gwres, haf a gaeaf, dydd a nos.’ (Genesis 8.22) - Ar gyfer y senario nesaf, dangoswch y ddelwedd o draeth gyda’r llanw i mewn.Wnaeth unrhyw un chwarae ar lan y môr yn rhywle yn ystod gwyliau’r haf?
Dangoswch y ddelwedd o draeth gyda’r llanw allan.
Arweinydd: 'O na! Mae’r môr wedi diflannu, fyddwn ni byth yn gallu padlo yn y môr neu ymdrochi byth eto!'
Gofynnwch i'r plant a yw hyn yn wir, a nodwch mai dyma sy’n digwydd bob dydd. Mae’r llanw’n dod i mewn ac yn mynd allan. Mae hynny wedi digwydd ers yr adeg y gwnaeth Duw greu’r môr. (Ar wahân i hanes Noa, wrth gwrs!) - Actiwch y senario nesaf:
Plentyn: (yn dod i mewn gan gario binocwlar, yn edrych yn anhapus)
Arweinydd: Beth sy’n bod?
Plentyn: Rwy'n gofidio am fy mod i wedi mynd â’r binocwlar allan neithiwr i edrych ar y sêr, ac maen nhw wedi diflannu. Roedden nhw’n arfer bod mor hardd, ac erbyn hyn maen nhw i gyd wedi mynd. Wna i byth yn eu gweld yn disgleirio eto.
Gofynnwch i'r plant a yw hyn yn wir, a nodwch fod y sêr bob amser yno. Weithiau efallai y bydd cymylau’n cuddio’r sêr a hyd yn oed yn cuddio’r haul a'r lleuad o’n golwg ambell dro, hefyd. Mae bob amser wedi bod fel hyn ers yr adeg y gwnaeth Duw greu’r sêr. - Mae Cristnogion yn credu mai Duw sydd wedi gwneud y coed, y tonnau a'r sêr, a bod Duw yn Dduw ffyddlon. Mae hynny'n golygu bod Duw yn ddibynadwy; mae'n golygu y gallwch chi ddibynnu arno i fod yr un fath bob amser, ac yno bob amser, ac yn Dduw sydd byth yn newid.
Amser i feddwl
Dewiswch un peth a welsoch chi heddiw sy'n eich atgoffa o ffyddlondeb Duw.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am dy greadigaeth hardd ac am yr hyn y mae'n ei ddysgu i ni am dy ffyddlondeb.
Diolch dy fod wedi ei chreu oherwydd dy fod yn ei hoffi ac oherwydd dy fod eisiau i ni ei mwynhau hefyd.
Helpa ni i ofalu am dy greadigaeth hardd.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Medi 2015 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.