Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Doethineb Solomon

Gwahanol ffyrdd o wybod

gan Manon Ceridwen James

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio gwahanol fathau o ddysgu yn ogystal â 'doethineb'.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r stori o’r Beibl sy’n cael ei hadrodd yn 1Brenhinoedd 3.16-28, lle mae Solomon yn gorfod penderfynu pa un o'r ddwy wraig sy'n honni i fod yn fam i fabi bach yw mam go iawn y babi. Fe allwch chi ddefnyddio’r addasiad sy’n ymddangos yma yn y Gwasanaeth, y testun o’r Beibl Cymraeg Newydd, neu ddefnyddio testun y teimlwch sy’n fwy addas ar gyfer eich cynulleidfa. Mae’n amlwg fod rhai o'r themâu yn y stori hon yn anodd, felly pa bynnag fersiwn y byddwch yn ei ddefnyddio, mae'n bwysig trin y cynnwys mewn modd sensitif.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen doli babi neu degan meddal wedi ei lapio mewn blanced i chi gael ei ddefnyddio fel y baban yn y ddramodig sy'n ymwneud â'r stori yn y 'Gwasanaeth'.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y gwasanaeth trwy ddweud y byddwch yn rhoi sylw i'r hyn sy'n cael ei alw yn 'ddeallusrwydd gwahanol'.

    Eglurwch fod gwahanol bobl yn dda am wneud pethau gwahanol. Gofynnwch i'r plant, 'Beth y mae'r gair "deallusrwydd" yn ei olygu i chi? Bod yn glyfar? Allwch chi chwarae pêl-droed yn "ddeallus"? A yw'n bosib bod yn dda iawn am arddio, dyweder, neu am wneud ffrindiau newydd?'

    Mae pethau y gallwn fod yn dda am eu gwneud sydd heb fod yn golygu defnyddio geiriau neu ysgrifennu. Mae bod yn dda mewn mathemateg neu ysgrifennu storïau yn yr ysgol yn ddim ond un math o fod yn ddeallus.

  2. Gofynnwch i'r plant dreulio ychydig funudau yn myfyrio'n dawel am yr hyn y maen nhw'n dda am ei wneud. Ydyn nhw'n ystyried eu hunain yn glyfar neu'n ddeallus? Efallai nag ydyn nhw, ond nid yw ein medrau, na'r hyn a wnawn yn dda, o reidrwydd yn gorfod bod yn bethau rydyn ni’n eu cyflawni yn y dosbarth neu yn yr ysgol yn unig.

  3. Trafodwch gyda'r plant y syniad o ‘ddeallusrwydd’ sy'n perthyn i ‘ddoethineb’. A yw'r plant wedi clywed am y gair 'doethineb'? Beth y mae hynny'n ei olygu iddyn nhw?

    Eglurwch ei fod efallai yn rhywbeth i'w wneud â synnwyr cyffredin, neu ynghylch gwybod beth yw’r hyn sy'n iawn i'w wneud mewn gwahanol amgylchiadau. Mae'n ymwneud â gwybod am bobl a'r modd y maen nhw'n meddwl ac yn teimlo.

  4. Adroddwch stori Solomon a'i ddoethineb. Roedd dwy ddynes oedd yn cael ffrae dros un baban. Roedd y ddwy'n hawlio mai nhw oedd piau'r baban ac roedd y naill a'r llall yn gwrthod ildio. Roedd un ddynes yn cofleidio'r baban yn dynn. Roedd y ddynes arall yn edrych yn anhapus iawn. Baban pwy oedd hwn?

    Crëwch ddramodig gyda'r plant fel cymeriadau yn y stori. Dewiswch un plentyn i afael yn dynn yn y ‘baban’, a phlentyn arall hefyd yn ceisio gafael yn y baban, tra bo plentyn arall yn sefyll o'r neilltu gan edrych yn feddylgar.

    Doethineb Solomon wrth wneud dyfarniad

    Ymhellach ymlaen, daeth dwy ddynes . . . gerbron y brenin a sefyll o'i flaen. Fe ddywedodd un ddynes, ‘Os gwelwch yn dda, f'arglwydd, mae'r ddynes hon a minnau yn byw yn yr un ty; a rhoddais innau enedigaeth i blentyn tra roedd hi yn y ty. Yna, ar y trydydd dydd ar ôl i mi roi genedigaeth, fe roddodd y ddynes hon hefyd enedigaeth i blentyn. Roeddem gyda'n gilydd; doedd neb arall gyda ni yn y ty, dim ond y ddwy ohonom oedd yn y ty. Yna bu mab y ddynes hon farw yn ystod y nos, oherwydd ei bod wedi gorwedd arno. Cododd yng nghanol nos a chymryd fy mab i oddi wrthyf tra roedd dy wasanaethyddes yn cysgu. Rhoddodd ef ar ei bron, a gosod ei mab marw hi ar fy mron i. Pan godais i yn y bore i nyrsio fy maban, gwelais ei fod yn farw; ond pan edrychais arno'n ofalus yn y bore, daeth yn glir i mi nad hwn oedd y mab y rhoddais i enedigaeth iddo.’ Ond fe ddywedodd y ddynes arall, ‘Na, fi biau'r mab sydd fyw, ti biau'r un sydd wedi marw.’ Dywedodd y wraig/ddynes gyntaf, ‘Na, ti biau'r mab sydd wedi marw, a fi biau'r mab sydd yn fyw.’ Felly dyma'n nhw'n dadlau gerbron y brenin.

    Yna fe ddywedodd y brenin, ‘Mae un yn dweud, “Hwn sydd fyw yw fy mab i, ac mae dy fab di wedi marw”; tra bo'r llall yn dweud, “Nid felly mae hi! Dy fab di sydd wedi marw, a'r un byw yw fy mab i.” ’ Felly fe ddywedodd y brenin, ‘Dewch â chleddyf i mi’, a daethant â chleddyf gerbron y brenin. Fe ddywedodd y brenin, ‘Rhannwch yn y bachgen sy'n fyw yn ei hanner; yna rhowch hanner i un, a hanner i'r llall.’ Ond fe ddywedodd y ddynes oedd yn fam i'r mab byw wrth y brenin - oherwydd roedd tosturi am ei mab yn llosgi yn ei chalon - ‘Os gweli di'n dda, F'arglwydd, rho'r mab sydd yn fyw iddi; beth bynnag a wnei di paid â'i ladd!’ Fe ddywedodd y llall, ‘Ni chaiff fod yn blentyn i ti na mi; rhannwch ef.’ Yna fe ymatebodd y brenin: ‘Rhowch y bachgen sydd yn fyw i'r ddynes gyntaf; peidiwch â'i ladd. Hi yw ei fam.’ Clywodd holl Israel y farn a gyflwynodd y brenin; ac fe wnaethon nhw sefyll mewn rhyfeddod o'r brenin, oherwydd roedden nhw wedi canfod bod doethineb Duw ynddo, i weithredu cyfiawnder.

  5. Gofynnwch gwestiynau (rhethregol) i'r plant, sy'n gwirio eu dealltwriaeth o brif bwyntiau'r stori. 'Ydych chi'n credu bod Solomon wedi rhoi'r baban i'r ddynes gyntaf neu i'r ail ddynes? Beth wnaeth o?'

    Eglurwch fod penderfyniad Solomon yn un arswydus - galwodd ar filwr i ddod ato (gofynnwch i blentyn arall ymuno â'r ddramodig fel y milwr) a dweud wrtho'r geiriau ysgytiol hyn: torrwch y baban yn ei hanner! Gofynnwch i'r ‘milwr’ i godi ei ddwylo fel pe byddai'n dal cleddyf, yn barod i ‘dorri'r’ baban yn ei hanner.

  6. Trafodwch deimladau'r plant am hyn gyda nhw. A oedd Solomon o ddifrif yn ddoeth i fod wedi dweud hyn? Os nad ydyn nhw wedi clywed y stori o'r blaen, trafodwch ymhellach ac yn fanylach yr arswyd a'r syndod ynglyn â'r hyn a awgrymodd Solomon.

  7. Ewch ymlaen at ran nesaf y stori. Fe ddywedodd y ddynes a oedd yn dal y baban, 'Iawn, ewch ymlaen.' Dywedodd y ddynes arall, 'Na! Rhowch y baban iddi hi. Buasai'n well gennyf ei bod hi'n cael y baban na'i fod yn cael ei ladd.'

    Yna fe ddywedodd Solomon, 'Chi yw'r fam' wrth y ddynes oedd yn fodlon ildio'r baban, ac yna a gafodd ei baban yn ôl. Sut oedd Solomon yn gwybod mai hi oedd y wir fam? Roedd hi'n fodlon gweld y baban yn cael ei fagu gan y ddynes arall oherwydd ei bod hi'n caru'r baban yn angerddol a ddim yn dymuno iddo gael ei niweidio.

    Fe wyddai Solomon y byddai hyn yn digwydd a dyna paham yr oedd yn cael ei weld yn ddoeth, oherwydd ei fod yn deall pobl a'r modd yr oedden nhw'n gweithredu.

  8. Disgrifiwch fel y gallwn ni weithiau fod angen cymorth i wneud y penderfyniadau cywir. Weithiau bydd ein perthnasau hyn neu ein hathrawon yn gwybod beth sy'n iawn mewn sefyllfa neu amgylchiad neilltuol oherwydd eu bod yn hyn ac wedi cael mwy o amser na ni i wneud camgymeriadau a dysgu sut mae pobl yn gweithredu. Mae dysgu sut y gallwn ni ein hunain fod yn ddoeth yn bwysig - yn aml iawn yn bwysicach nag unrhyw ddysgu arall a wnawn yn yr ysgol.

  9. Os ydych chi'n dymuno, gallwch ddod â'r gwasanaeth i ben trwy siarad â'r plant a cheisio meddwl am amgylchiadau neu sefyllfaoedd pryd y bydd bod yn ddoeth yn bwysig yn eu bywydau - yn yr iard chwarae lle mae anghydfod yn digwydd neu gartref mewn cweryl rhwng brodyr a chwiorydd.

    Yn olaf, eglurwch fod doethineb yn ein helpu i wybod sut i fod o gymorth mewn ffrae a pheidio â gwneud y sefyllfa'n waeth. Gofynnwch i'r plant, 'A oes gennych chi storïau eich hunain i'w hadrodd pryd y mae doethineb wedi eich helpu, neu pan wnaethoch chi sylwi ar rywun yn dweud neu’n gwneud rhywbeth doeth?'

Amser i feddwl

Meddyliwch yn awr, am funud bach, am ddoethineb. Sut byddwch chi’n ceisio bod yn ddoeth heddiw . . . yr wythnos hon?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am ddoethineb ac am y ffordd rwyt ti’n ein helpu ni i wybod beth i'w wneud mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Helpa ni i ddysgu'r hyn sy’n cael ei addysgu i ni yn yr ysgol, ond hefyd i ddysgu doethineb yn fwy na dim.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon