Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ffrind Ffyddlon

Stori Ruth

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried cyfeillgarwch ffyddlon.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gwnewch amlinelliad mawr o ddau unigolyn ar y bwrdd gwyn, gan adael digon o le i ysgrifennu pethau o fewn yr amlinelliad.
  • Hefyd ar y bwrdd gwyn, ysgrifennwch y dyfyniad:‘Mae ffrind da yn cofio’r hyn oedden ni ac yn gallu gweld beth y gallwn ni fod’ (geiriau rhywun anadnabyddus).
  • Nodwch fod cam ychwanegol ar ddiwedd y gwasanaeth ar gyfer Ysgolion Eglwys, y gellir ei gynnwys neu ei adael allan fel y dymunwch.
  • Fe fydd arnoch chi angen delwedd o heulwen a'r modd o’i harddangos yn ystod y rhan 'Amser i feddwl' ar ddiwedd y gwasanaeth.
  • Ac i orffen, fe fydd arnoch chi angen pen glud ryw fath o lud i’w ddangos.

Gwasanaeth

  1. Ydych chi’n gwybod stori Bobby Greyfriars?

    Ci bach oedd Bobby, ac roedd yn caru ei feistr gymaint fel, ar ôl i hwnnw farw, fe dreuliodd y ci bach amser yn gorwedd wrth ymyl bedd ei feistr ym Mynwent Greyfriars yng Nghaeredin. Mae stori Bobby yn un sy'n ein haddysgu am ffyddlondeb. Mae 'ffyddlondeb' yn golygu teyrngarwch, cadernid, bod yn gefn i rywun bob amser, a bod yn ddibynadwy.

  2. Fe fydden ni i gyd yn hoffi cael ffrind fel yna, ond weithiau gall fod yn anodd adnabod gwir ffrind, un sy'n deyrngar ac yn werth ei gadw wrth ein hochr. Weithiau fe allwn ni fod yn ffrind siomedig i eraill.

  3. Dangoswch yr amlinelliad o’r ddau unigolyn ar y bwrdd gwyn.

    Gadewch i ni wrando ar stori o'r Beibl am ddwy wraig wahanol a ddaeth yn ffrindiau drwy ffordd annhebygol.

    Stori Ruth

    Unwaith roedd merch ifanc tua 19 mlwydd oed, roedd y ddynes arall tua 40 mlwydd oed.

    Ysgrifennwch '19' ar un amlinell ar y bwrdd gwyn, a '40' ar y llall.

    Roedd gwr un newydd farw. Y llall oedd ei mam-yng-nghyfraith.

    Ysgrifennwch 'gweddw ifanc' ar yr amlinell sydd â '19' wedi ei nodi arno, a 'mam-yng-nghyfraith' ar y llall.

    Roedd un o wlad Israel. Roedd y llall o wlad a chenedl wahanol.

    Ysgrifennwch 'Bethlehem, Israel' ar yr amlinell gyda '19' a 'gweddw ifanc" arno, ac ysgrifennwch enw’r wlad 'Moab' ar y llall.

    Roedd un yn ifanc, gyda'i holl fywyd o'i blaen. Roedd y llall wedi colli ei gwr a dau o'i meibion, ac roedd wedi gofyn i bobl ei galw'n Mara. Ystyr Mara oedd, ‘Mae Duw wedi gwneud fy mywyd yn chwerw iawn’. Roedd y ddwy yn drist iawn.

    Ysgrifennwch 'ifanc gyda'i bywyd o'i blaen' ar yr amlinell gyda '19' ac ati wedi ei ysgrifennu arno, ac ysgrifennwch 'chwerw' ar y llall.

    Naomi oedd enw'r wraig hyn, a Ruth oedd yr ifancaf.

    Ysgrifennwch 'Ruth' ar yr amlinell gyda '19' ac ati wedi ei ysgrifennu arno, a 'Naomi' ar y llall.

    Ar ôl marwolaeth ei gwr a'i dau fab, fe benderfynodd y wraig hyn, Naomi, ddychwelyd i'w mamwlad, Israel. Fe ddywedodd wrth ei dwy ferch-yng-nghyfraith, 'Ewch chi yn ôl i'ch gwledydd eich hunain a chwiliwch am wyr newydd.'

    Cytunodd un ferch-yng-nghyfraith o'r enw Orpah i wneud hynny, a chusanodd Naomi wrth ffarwelio â hi. Ond, fe lynodd y llall, Ruth, wrth ei mam-yng-nghyfraith, gan ddweud wrthi, 'Paid â'm hannog i'th adael. I ba le bynnag yr ei di, fe fyddaf innau'n mynd. Ble bynnag y byddi di'n aros, fe fyddaf innau'n aros. Dy bobl di fydd fy mhobl i. Dy Dduw di fydd fy Nuw i. Lle byddi di farw y byddaf finnau’n marw.'

    Roedd Ruth mor benderfynol o aros gyda’i mam-yng-nghyfraith fel, o'r diwedd, cytunodd Naomi. Doedd hi ddim yn hawdd i Naomi ddychwelwyd i Fethlehem. Roedd wedi bod yn wraig a mam lawen pan oedd yn byw yno o’r blaen. Roedd ganddi gartref hardd ac roedd wedi bod yn weddol gyfoethog. Yn awr roedd yn mynd yn ei hôl heb ddim byd, yn drist ac yn chwerw.                                                                                             

    Yn aml, fydd pobl sy'n chwerw ddim yn hawdd iawn bod yn eu cwmni! Yn aml iawn, fe fydd pobl sy'n chwerw yn sôn o hyd ac o hyd am ddyddiau da y gorffennol. Maen nhw'n aml yn gweld bai ar bawb a phopeth am eu hanlwc. Ar adegau, fe allan nhw fod yn hunandosturiol, ac mae’n anodd aros yn eu cwmni. Ond dyma'r person yr oedd Ruth wedi penderfynu bod yn ffyddlon iddi – ac wedi penderfynu ei charu a gofalu amdani. Allai pethau ddim bod wedi bod yn hawdd iddi. Doedd dim dyn yn y cartref, a’r dyn a fyddai yn y dyddiau hynny wedi ennill yr arian i'w cynna. Doedd gan Ruth ddim swydd ac, ar ben hynny i gyd, rwy'n credu y byddai llawer o bobl y gymuned yn dymuno osgoi Naomi, a thrwy hynny fe fydden nhw hefyd wedi osgoi Ruth.

    Er gwaethaf y ffaith ei bod yn cael ei hun yn y sefyllfa eithaf anobeithiol hon, fe ofalodd Ruth am ei mam-yng-nghyfraith. Bu'n ffrind iddi ar hyd yr amser a gwnaeth bopeth a ofynnwyd iddi. Ond mae diwedd y stori’n hapus. Yn y pen draw, fe weithiodd pethau'n dda i Ruth, oherwydd fe welodd perthynas i Naomi y rhinweddau prydferth oedd yn perthyn i Ruth, fe syrthiodd mewn cariad â hi a'i phriodi - ac ni fu'n hir cyn i Naomi ddod yn nain!

  4. Gall y stori brydferth hon ddysgu llawer i ni am gyfeillgarwch ffyddlon.
    Roedd Ruth yn gwybod bod ei mam-yng-nghyfraith wedi bod yn wraig garedig a hapus unwaith. Caledi bywyd oedd wedi achosi iddi fynd yn drist, yn ddig ac yn chwerw. O dan y cyfan, yr un person oedd hi.                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                               
    Dangoswch y dyfyniad sydd ar y bwrdd gwyn a’i ddarllen i'ch cynulleidfa.                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                            
    ‘Mae ffrind da yn cofio'r hyn oedden ni, ac yn gallu gweld beth y gallwn ni fod.’ (awdur anadnabyddus).

    Ar ddyddiau pan fydd ein ffrindiau yn ddiserch ac angharedig, yn anffyddlon ac yn gas, fe allwn ni - fel Ruth - geisio cofio’r hyn oedden nhw, a meddwl am yr hyn y gallen nhw fod unwaith eto.

  5. Ar gyfer Ysgolion Eglwys.

    Mae Cristnogion yn credu bod y Beibl yn dweud wrthym mai dyma sut mae Duw. Mae’n ein caru ni bob amser. Mae’n gwybod am yr hyn ydyn ni, ac yn gwybod am beth y gallwn ni fod. Mae’n ffrind sy’n addo glynu gyda ni am byth.

Amser i feddwl

Fe allwn ni, heddiw fod yn un o ddau fath o ffrind.

Dangoswch y ddelwedd o’r heulwen.

Un math o ffrind yw 'Ffrind tywydd braf' – hynny yw, rhywun na allwch chi ddibynnu ar ei gyfeillgarwch ar adegau anodd, dim ond pan fydd popeth yn braf, a phopeth yn ‘heulog’, a phopeth yn hapus ac yn rhwydd.

Dangoswch y glud neu’r pen glud.

Yr ail fath o ffrind yw ‘ffrind pob tywydd' – hynny yw, rhywun a fydd bob amser yn aros gyda chi, ac yn glynu gyda chi, waeth beth fo’r amgylchiadau, ar dywydd drwg neu dywydd teg.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am esiampl Ruth.
Fe fydden ninnau hefyd yn hoffi bod yn ffyddlon yn ein cyfeillgarwch.
Helpa ni heddiw i fod fel Ruth a glynu gyda’n ffrindiau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon