Cawl Pwmpen
gan Alan Barker
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried agweddau ar gyfeillgarwch a chydweithrediad.
Paratoad a Deunyddiau
- Ymgyfarwyddwch â’r stori Pumpkin Soupgan Helen Cooper (Corgi, 1999) a threfnwch fod gennych chi gopi o’r llyfr i’w ddangos yn ystod y gwasanaeth.
- Fe fydd arnoch chi angen pwmpen, wedi ei haddurno ar un ochr gydag wyneb hapus ac, ar yr ochr arall, wyneb trist. Neu, fe allech chi wneud llun pwmpen debyg wedi ei thorri allan o gardfwrdd.
Gwasanaeth
- Dangoswch y bwmpen, gan ddangos y ddau wyneb yn eu tro i’ch cynulleidfa, a gwahoddwch y plant i nodi pa emosiynau mae’r ddau ‘wyneb’ yn eu mynegi. Soniwch fod gan bawb ohonom ochr hapus ac ochr drist i'n cymeriad, ac yna cyflwynwch y stori lle mae’r wynebau sy’n gwenu’n troi’n wynebau sy’n gwgu.
- Dangoswch y llyfrPumpkin Soupi’r plant, ac adroddwch y stori iddyn nhw. Mae cath, gwiwer a hwyaden yn dri ffrind sy’n gwneud cawl pwmpen gyda'i gilydd bob dydd. Maen nhw bob amser yn gwneud hynny yn yr un ffordd bob tro, nes mae’r hwyaden un diwrnod yn meddwl y gallai wneud yn well. Maen nhw’n cweryla, ac mae’r ffrae yn gwneud iddyn nhw wahanu oddi wrth ei gilydd, ac maen nhw’n anhapus iawn. Ond y pen draw fe ddaw’r tri yn ôl at ei gilydd unwaith eto i wneud cawl pwmpen fel o’r blaen.
- Gwahoddwch bawb i feddwl am y stori. Gofynnwch i'r plant ddweud eu barn ynghylch beth wnaeth achosi’r anhapusrwydd. Beth mae'r stori yn ei ddweud wrthym am gyfeillgarwch ac am weithio gyda'n gilydd?
Dewch i gasgliad ynghylch y pethau canlynol:
- mae ffrindiau’n cymryd eu tro
- mae ffrindiau’n penderfynu pethau gyda’i gilydd
- mae ffrindiau’n rhoi cyfle i’r rhai eraill roi cynnig arni
- mae ffrindiau’n ofalgar tuag at y naill a’r llall - Gwahoddwch bawb i fyfyrio ar y pwyntiau hyn. Dechreuwch drafodaeth gyda'r plant trwy ofyn, "Felly, sut gallai cymryd eich tro fod yn bwysig yn yr ysgol heddiw? Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi ganiatáu i rywun arall eich helpu chi? Sut y gallwch chi ddweud os yw ffrind yn drist? Beth allech ei wneud er mwyn gwneud pethau’n well?'
- Gorffennwch trwy nodi, os yw’n cymryd dealltwriaeth a chyfeillgarwch i wneud cawl pwmpen arbennig, mae'r un peth yn wir am wneud ysgol arbennig, ffrindiau da, a chael diwrnod da!
Amser i feddwl
Ewch ati i gylchdroi'r bwmpen yn araf a gwahodd y plant i gofio’n dawel am amser pan ddigwyddodd wyneb hapus oedd yn gwenu droi’n wyneb trist oedd yn gwgu. Pa wersi mae’r plant wedi eu dysgu? Sut cafodd cyfeillgarwch oedd wedi torri ei thrwsio?
Meddyliwch am y dywediad hwn, ‘A’r ben ein hunain ychydig y gallwn ni ei wneud; gyda'n gilydd fe allwn ni wneud cymaint’ (awdur anhysbys).
Gweddi,
Arglwydd Dduw,
Weithiau rydyn ni’n genfigennus, ac yn anghofio sut mae eraill yn teimlo.
Yn aml, rydyn ni’n cweryla, ac mae wynebau sy’n gwenu’n troi’n wynebau sy’n gwgu.
Helpa ni i barchu a gofalu am ein ffrindiau, a dysga ni i weithio gyda'n gilydd heddiw a phob amser.
Amen.