Negeseuwyr arbennig
Negeseuon gan angylion
gan Alison Thurlow
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Meddwl am angylion a’u rôl yn stori’r Nadolig.
Paratoad a Deunyddiau
- Dewisol: paratowch sleidiau gyda lluniau’r angel yn ymddangos i Mair, er enghraifft oddi ar y wefan http://tinyurl.com/nnv25c9
- Dewisol: paratowch sleidiau gyda lluniau’r angylion yn ymddangos i’r bugeiliaid, er enghraifft oddi ar y wefan http://tinyurl.com/py2yptm
- Dewisol: dangoswch y cwestiynau sydd i’w gweld yn yr adran ‘Amser i feddwl’.
Gwasanaeth
1. Cyflwynwch y gwasanaeth trwy ddweud ein bod, yn yr addoliad heddiw, yn mynd i feddwl am anfon a derbyn negeseuon. Gofynnwch i'r disgyblion droi at y person sydd agosaf atyn nhw a threulio dau funud yn trafod y nifer o wahanol ffyrdd y gallan nhw feddwl amdanyn nhw o anfon negeseuon.
Gwrandewch ar rai o’r ymatebion.
2. Eglurwch y gallwn ganfod, mewn llawer rhan yn y Beibl, hanes Duw yn rhoi negeseuon i bobl, ond nid anfon neges destun y mae Duw na gadael neges ar Facebook! Un ffordd y mae Duw yn anfon negeseuon yw trwy anfon angel – mae angel yn fath o negesydd nefolaidd. Yn stori'r Nadolig mae pedair neges yn cael eu rhoi i wahanol bobl gan angylion.
Fe ddywedodd angel wrth hen wr, Sachareias, fod ei wraig Elisabeth yn mynd i gael baban. Cyfnither Mair yw Elizabeth.
Fe ddywedodd yr Angel Gabriel wrth Mair ei bod hi yn mynd i gael baban.
Mae angel yn dweud wrth Joseff fod baban Mair yn faban arbennig oddi wrth Dduw, ac y dylen nhw ei alw Iesu.
Mae nifer o angylion yn dweud wrth fugeiliaid oedd allan ar ochr bryn y dylen nhw fynd i weld y baban Iesu.
3. Rydym yn mynd i glywed yn awr yr hyn yr oedd dwy o'r negeseuon hynny’n ei ddweud mewn ychydig mwy o fanylder.
Yn y stori gyntaf, mae'r Angel Gabriel yn ymweld â Mair.
Dangoswch y llun os byddwch yn ei ddefnyddio.
Anfonodd Duw yr Angel Gabriel i dref o'r enw Nasareth, yng Ngalilea, er mwyn rhoi neges i ferch ifanc o'r enw Mair.
‘Helo Mair! Rwyt ti'n ferch ifanc freintiedig iawn - mae'r Arglwydd gyda thi! Paid â bod ofn - mae gan Dduw waith arbennig i ti. Fe fyddi di'n cael baban, a'i enw fydd Iesu. Bydd ef hefyd yn cael ei alw’n Fab y Goruchaf Dduw. Bydd Duw yn ei wneud yn frenin, fel ei hynafiad Dafydd, ond bydd ef yn frenin arbennig y bydd ei deyrnas yn parhau am byth!
Rwy'n gwybod nad wyt ti wedi priodi hyd yn hyn, ond bydd Ysbryd Glân Duw yn dod arnat a bydd dy faban yn Fab Duw. Os yw hyn yn ymddangos yn amhosibl, mae gen i rywbeth arall i ddweud wrthyt: mae dy gyfnither Elizabeth, sydd yn hen iawn, hefyd yn feichiog! Gyda Duw does ddim byd yn amhosib!’
Roedd Mair mewn tipyn o syndod ac yn ddryslyd, ond fe ddywedodd wrth yr angel, ‘Dyma lawforwyn yr Arglwydd. Bydded i mi yn ôl dy air di.’ Neu mewn geiriau eraill, ‘Iawn, bydded i bethau fod fel rwyt ti’n dweud.’
4. Yn yr ail stori mae angylion yn ymddangos i nifer o fugeiliaid gyda neges bwysig iddyn nhw.
Dangoswch y llun os byddwch yn ei ddefnyddio.
Roedd bugeiliaid allan ar y bryniau wrth ymyl Bethlehem yn gofalu am eu defaid pan, yn sydyn, ymddangosodd golau llachar yn yr awyr a siaradodd angel gyda nhw. ‘Peidiwch ag ofni,’ meddai'r angel. ‘Rwy'n dod â newyddion da i chi - newyddion da i'r holl bobl. Heddiw cafodd baban arbennig, eich Gwaredwr, ei eni ym Methlehem. Os ewch chi yno, byddwch yn cael hyd i'r baban hwn wedi ei rwymo mewn cadachau ac yn gorwedd mewn preseb.’
Yn sydyn fe ddisgleiriodd yr awyr yn fwy llachar fyth nes ei bod yn ymddangos yn llawn o angylion. Roedden nhw i gyd yn canu'r gân hon: ‘Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith u rhai sydd wrth ei fodd.’
Pan aeth yr angylion oddi wrthyn nhw, fe brysurodd y bugeiliaid i Fethlehem ac fe gawson nhw hyd i'r baban Iesu gyda Mair a Joseff, yn union fel yr oedd yr angel wedi ei ddweud.
Amser i feddwl
Roedd y ddwy neges a gyhoeddodd yr angylion yn rhai go arbennig, felly gadewch i ni roi ychydig o feddwl i rai o'r pethau y gwnaethon nhw eu dweud. Trowch at y person nesaf atoch a cheisiwch ateb y cwestiynau sy'n dilyn.
Dangoswch y cwestiynau os byddwch yn eu defnyddio.
- Pam ydych chi'n meddwl bod negeseuon yr angylion i Mair yn ogystal â'r bugeiliaid wedi dechrau gyda'r geiriau ‘Peidiwch ag ofni.’
- Pam ydych chi'n meddwl fod y neges am enedigaeth Iesu wedi cael ei rhoi i bobl gyffredin fel y bugeiliaid, ac nid i bobl bwysicach fel llywodraethwyr neu frenhinoedd?
- O wrando ar y ddwy stori yma, beth fyddech chi'n ei ddweud oedd y neges arbennig am y Nadolig?
Gwrandewch ar rai o’r ymatebion.
Un enw a roddir i Iesu mewn rhannau eraill o'r Beibl yw ‘Immanuel’. Weithiau rydyn ni'n gweld y gair hwn wedi ei ysgrifennu ar gardiau Nadolig. Mae ‘Immanuel’ yn air sydd â neges ynddo'i hun: mae'n golygu ‘Duw gyda ni’. Ar y cyfnod cyffrous a phrysur hwn o'r flwyddyn, pan ydym yng nghanol pob math o baratoadau at y Nadolig, fe fyddai'n dda i ni sefyll yn ôl weithiau a meddwl am yr hyn yr ydym yn ei ddathlu o ddifrif.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am y neges arbennig a roddodd yr angel i Mair.
Diolch i ti am holl gyffro’r Nadolig.
Helpa ni bob amser i gofio mai dathlu geni Iesu Grist rydyn ni ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
Diolch mai Immanuel yw Iesu – Duw gyda ni.
Amen.
Cân/cerddoriaeth
Efallai y gallech chi ddewis carol sy’n cyfeirio at yr angylion.