Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwaith arbennig (Gwasanaeth o’r gyfres ‘Helo Sgryffi’)

gan Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Dathlu bod gan Dduw rôl arbennig i bob un ohonom ei chwarae.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
  • Fe fydd arnoch chi angen dis mawr hefyd.

Gwasanaeth

1.Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

2. Mae Sgryffi eisiau dweud wrthych chi beth ddigwyddodd ddoe.
Fe ddaeth ffrindiau Liwsi Jên ati i chwarae, ac roedd pawb eisiau cael reid ar gefn Sgryffi.
Ar y dechrau, roedden nhw’n methu penderfynu pwy oedd yn cael mynd yn gyntaf.

Gofynnwch i’r plant sut bydden nhw’n penderfynu pwy fyddai’n gallu mynd yn gyntaf. Oes ganddyn nhw syniadau?Gwrandewch ar rai awgrymiadau.

Yn sydyn, fe gafodd Liwsi Jên syniad. Fe redodd i’r ty i nôl y dis oedd ym mocs y gêm Nadroedd ac Ysgolion.
‘Fe allwn ni rolio’r dis,’ meddai. ‘Yr un sy’n cael y rhif uchaf sy’n cael mynd yn gyntaf!’

Gofynnwch i nifer o blant rolio’r dis mawr sydd gennych chi, a gweld pwy yw’r un fydd yn rholio’r rhif uchaf.

Fe gafodd Cadi, un o ffrindiau Liwsi Jên, y rhif chwech, ac fe ddringodd ar gefn Sgryffi ar unwaith i gael reid. Roedd Sgryffi’n cael hwyl arni, yn trotian o gwmpas buarth y fferm. Roedd yn ofalus i beidio â mynd yn rhy gyflyn, oherwydd doedd arno ddim eisiau i’r marchogion ifanc gwympo!
Fesul un, fe roliodd y ffrindiau'r dis, ac fe gafodd pob un ohonyn nhw gyfle i fynd am reid ar gefn Sgryffi yn eu tro.
Wedyn, roedden nhw’n sefyll i wylio’r lleill yn cael tro, nes yn y diwedd roedd pawb wedi cael cyfle.

3. ‘Gawn ni i gyd fynd eto?’ gofynnodd Sophie.
Edrychodd Liwsi Jên ar Sgryffi, ac roedd yn gallu gweld ei fod wedi blino.
‘Mae angen gorffwys ar Sgryffi erbyn hyn,’ meddai, gan roi mwythau i’w ben yn ofalus, a rhoi dwr iddo mewn bwced i’w yfed, a moronen fawr iddo i’w bwyta!
‘Diolch yn fawr, Sgryffi,’ meddai pawb wedyn a rhoi mwy o fwythau iddo.

Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

4. Flynyddoedd lawer yn ôl, ar adeg arbennig o’r flwyddyn, roedd yr offeiriadon yn y Deml fawr yn Jerwsalem yn cymryd eu tro i fynd i mewn i’r man cysegredig arbennig i weddïo ar Dduw. Dim ond un offeiriad oedd yn cael caniatâd i fynd i mewn i’r man cysegredig hwn bob blwyddyn. Er mwyn penderfynu pa offeiriad oedd yn cael y gwaith arbennig hwnnw, fe fyddai’r offeiriadon yn gwneud rhywbeth tebyg i’r plant yn y stori gawsom ni heddiw am Liwsi Jên a Sgryffi!
Roedd Sachareias yn hen, hen wr pan gafodd ei ddewis i fynd i’r rhan arbennig honno o’r Deml i weddïo. Wrth i Sachareias weddïo, fe glywodd lais yn dweud wrtho, ‘Fe fydd dy wraig di, Elisabeth, yn cael mab, ac fe fyddwch chi’n ei alw’n Ioan. Fe fydd y mab arbennig hwn yn negesydd i Dduw. Fe fydd yn dweud wrth y bobl am y brenin sydd yn dod, ac yn dweud wrthyn nhw am ddweud ei bod hi’n ddrwg ganddyn nhw am y pethau drwg maen nhw wedi eu gwneud.'
Rhwbiodd Sachareias ei lygaid a’i glustiau. Sut yn y byd y gallai hyn ddod yn wir? Roedd Elisabeth ac yntau’n hen, ac yn sicr o fod yn rhy hen i gael baban bach. Siwr ei fod wedi chwerthin yn dawel wrtho’i hun wrth feddwl am y peth!
Ond fe glywodd y llais eto, yn dweud, ‘Yr Angel Gabriel ydw i, ac mae Duw wedi fy anfon i ddweud y newyddion da wrthyt ti. Ond oherwydd dy fod ti ddim yn fy nghredu i, fyddi di ddim yn gallu siarad nes bydd y baban wedi ei eni.'
Roedd y bobl y tu allan i’r man sanctaidd yn disgwyl am Sachareias, ac yn methu â deall ble’r oedd o. O’r diwedd, fe ddaeth allan a sefyll o flaen y bobl. Roedd y bobl yn gallu gweld bod golwg syn arno, ac roedden nhw’n gweld ei fod yn methu siarad â nhw. Beth tybed oedd Sachareias wedi ei weld yn y man sanctaidd?
Fe fyddai’n rhaid iddyn nhw aros nes byddai Sachareias yn gallu dweud wrthyn nhw!
Aeth y misoedd heibio, ac fe gafodd Elisabeth faban bach. Daeth y cymdogion i gyd i weld y baban, a gofyn beth oedd Sachareias ac Elisabeth yn mynd i’w alw. Roedd pawb yn meddwl mai Sachareias fyddai ei enw, yr un fath â’i dad. Ond roedd gan Sachareias gynlluniau eraill! Fe ofynnodd am rywbeth y gallai ysgrifennu arno, ac fe ysgrifennodd mewn llythrennau mawr, ‘Ioan yw ei enw!’ yn union fel roedd yr angel wedi dweud wrtho.
Fe dyfodd Ioan i fod yn rhywun arbennig iawn. Byddwn yn cyfeirio at yr Ioan hwn fel Ioan Fedyddiwr. Roedd Ioan Fedyddiwr yn gefnder i Iesu.

Amser i feddwl

Ydych chi’n meddwl bod Duw’n siarad â ni? Sut rydych chi’n meddwl mae hyn yn digwydd?
Mae Cristnogion yn meddwl bod Duw’n dangos faint mae’n ein caru ni trwy roi byd hardd i ni fyw ynddo a phobl i ofalu amdanom ni.
Maen nhw hefyd yn credu ei fod yn siarad â ni mewn ffyrdd eraill hefyd.
Ambell dro mae angen i ni fod yn dawel a gwrando.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n gwrando arnom ni pan fyddwn ni’n siarad â thi.
Helpa ni i wrando pan fyddi di’n siarad â ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2015    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon