Tân!
Coffau 350 o flynyddoedd ers Tân Mawr Llundain
gan Alan Barker
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Adrodd stori Tân Mawr Llundain a darparu gwybodaeth am ddiogelwch ynghylch tân.
Paratoad a Deunyddiau
- Trefnwch fod gennych chi ddelwedd rydd o hawlfraint o Dân Mawr Llundain i’w harddangos fel delwedd gefndir, a delwedd hefyd o’r gofeb sy’n nodi’r man lle dechreuodd y tân. Mae’n bosib cael yr adnoddau ar:
- www.fireoflondon.org.uk
- http://tinyurl.com/qhuyenq
- http://tinyurl.com/pgl5zjy - Dewisol: Trefnwch grwp o blant neu aelodau staff i ddarllen y pytiau Newyddion Diweddaraf. . .sydd wedi eu cynnwys yng Ngham 3.Fe allech chi drefnu gwaith celf priodol i gyd-fynd â’r cyflwyniad.
Gwasanaeth
1. Dangoswch y ddelwedd o Dân Mawr Llundain. Eglurwch fod tân dychrynllyd wedi dinistrio llawer o'r ddinas 350 mlynedd yn ôl. Fe ddechreuodd ar 2 Medi yn y flwyddyn 1666 mewn siop pobydd yn Pudding Lane.
2. Eglurwch fod dyn o'r enw Samuel Pepys (sy'n cael ei ynganu fel y gair Saesneg ‘peeps’) wedi gweld y tân ac wedi disgrifio'r hyn a ddigwyddodd yn ei ddyddiadur. Felly mae'n bosib i ni ddychmygu sut y byddai'r trychineb wedi cael ei gofnodi pe byddai newyddion teledu yn bodoli'r dyddiau hynny!
3. Perfformiwch y cyflwyniad canlynol o’r Newyddion Diweddaraf. . .
Dydd Sul 2 Medi
Neithiwr aeth siop pobydd yn Pudding Lane ar dân. Dechreuodd y fflamau gydio ychydig ar ôl hanner nos ac mae wedi lledaenu i dai cyfagos. Llwyddodd pawb ond un o'r bobl oedd ynghwsg yn yr adeilad i ddianc yn ddiogel.
Mae ymdrechion yn dal i gael eu gwneud i geisio diffodd y tân gan ddefnyddio pympiau a bwcedi o ddwr.
Dydd Llun 3 Medi
Mae'r tân a ddechreuodd yn Pudding Lane ddydd Sul wedi ymledu dros ardal eang o Lundain. Mae'r fflamau’n lledaenu o un ty i un arall ac ar draws y strydoedd a'r aleon culion. Mae gwynt cryf yn chwythu gwreichion a mwg du trwchus yn uchel i'r awyr. Mae'n anodd dychmygu sut y bydd modd atal y tân hwn.
Dydd Mawrth 4 Medi
Mae'r tân mawr sydd wedi ysgubo ar draws Llundain y parhau i ymledu. Mae cannoedd o bobl yn dianc rhag y mwg a'r fflamau gyda pha eiddo bynnag y maen nhw'n gallu ei gario. I lawr ar lan Afon Tafwys mae rhai yn llwytho eu heiddo i gychod mewn ymgais i gyrraedd diogelwch. Mae eraill wedi dianc trwy giatiau'r ddinas ac yn byw yn y caeau agored. Mae'r Llynges Frenhinol yn awr yn defnyddio powdwr gwn i ddymchwel tai o flaen y fflamau. Gobeithir y bydd hyn yn creu agendor ac atal y tân rhag ymledu’n bellach.
Dydd Mercher 5 Medi
Ar ôl tri diwrnod, mae'r gwynt wedi gostegu, a thân mawr Llundain dan reolaeth. Cafodd dros 13,000 o gartrefi a bron i 90 o eglwysi eu dinistrio. Yn rhyfeddol, ychydig iawn o bobl sydd wedi marw. Gobeithir y bydd y tân yn cael ei ddiffodd cyn y bore. Mae llawer o bobl yn ddigartref a bydd rhaid ail-adeiladu rhannau helaeth o Lundain.
4. Eglurwch fod y gwaith o ail-adeiladu Llundain wedi cymryd llawer o flynyddoedd i’w gyflawni, a bod adeiladau mwy diogel wedi cael eu cynllunio. Cafodd cofeb dal ei chodi yn y flwyddyn 1677, ychydig bellter o'r fan lle y dechreuodd y tân. Mae'n parhau yn bosib i ymwelwyr ddringo'r 311 o risiau i'r top.
5. Nodwch fod stori Tân Mawr Llundain yn ein hatgoffa o berygl tân. Atgoffwch bawb i beidio byth â:
- chwarae â matsis, tanwyr neu ganhwyllau.
- rhoi unrhyw beth heblaw offer coginio ar ben popty neu hob.
- chwarae neu adael pethau yn agos at dân agored neu wresogydd.
6. Atgoffwch y plant ei bod hi'n bwysig fod pawb yn gwybod beth i'w wneud pe byddai tân yn dechrau.
Ewch dros ddril tân yr ysgol, gan addasu'r pwyntiau canlynol i gyd-fynd â'r rhai sy'n benodol i'r ysgol:
- Os bydd unrhyw un yn gweld mwg neu fflamau, fe ddylen nhw ddweud wrth rywun ar unwaith.
- Os bydd y larwm tân yn canu fe ddylen nhw fynd allan/adael yr adeilad yn dawel ac yn sydyn.
- Dylai'r plant ymgynnull gydag oedolyn yn un o'r mannau ymgynnull.
- Dylai pawb aros yn dawel a diogel.
Eglurwch, pan fydd argyfwng, gall y plant gael cymorth oddi wrth y Gwasanaeth Tân ac Achub trwy gael hyd i ffôn, deialu 999, a rhoi cyfeiriad yr ysgol.
7. Diweddwch trwy annog y plant i gofio am y cyfarwyddiadau diogelwch rhag tân hyn wrth iddyn nhw fwynhau dysgu am y gorffennol.
Amser i feddwl
Gadewch i ni fod yn ddiolchgar am y llawenydd o glywed am y gorffennol ac am y gwersi y gallwn ni eu dysgu o’r hanes.
Gadewch i ni hefyd gofio bod yn ddiolchgar am waith ymladdwyr tân heddiw.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Helpa ni
i ddysgu oddi wrth ddigwyddiadau’r gorffennol,
i gofio cyngor doeth,
a chadw ein gilydd yn ddiogel bob amser.
Amen.