Chwilio
Mae rhai pethau’n werth chwilio amdanyn nhw
gan Laurence Chilcott
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Deall mai’r pethau rydyn ni’n gwneud yr ymdrech fwyaf i ddod o hyd iddyn nhw yw’r pethau mwyaf gwerthfawr i’w cael, a’u dathlu.
Paratoad a Deunyddiau
- Dim angen paratoi o flaen llaw.
Gwasanaeth
1.Adroddwch y stori ganlynol.
Yn gyntaf, fe wnaeth Claire y sylw arferol, ‘Nawr ble wnes i ei roi?’ oedd hi.
Wedyn fe ddywedodd, ‘Mae'n rhaid ei fod yma yn rhywle.’
Wedi hynny roedd hi mewn panig llwyr!
Nid oedd Claire yn gallu cael hyd i'w llyfr Cemeg, a Chemeg oedd y wers gyntaf y diwrnod hwnnw.
Unrhyw bwnc arall ac ni fyddai pethau mor ddrwg, ond roedd gan Mr Wilson, yr athro Cemeg, dipyn o enw gwael. Roedd o'n athro da, ond fe fyddai'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn gwneud yn siwr nad oedden nhw'n gwneud dim i’w dynnu’n groes. Roedd ei rythu deifiol a'i sylwadau sarcastig yn chwedlonol! Dim ar unrhyw gyfrif y gallai Claire ei wynebu a dweud wrtho ei bod hi wedi colli ei llyfr. Fe fyddai'n gwylltio'n gacwn!
Fe wyddai ei mam bod rhywbeth o'i le cyn gynted ag y daeth Claire i lawr y grisiau o'i llofft.
‘Beth sy'n bod?’ gofynnodd.
‘Alla' i ddim dod o hyd i'm llyfr Cemeg,’ atebodd Claire, gan sychu deigryn o gornel ei llygad.
‘Wyt ti wedi chwilio'n iawn?’ gofynnodd ei mam, gan wybod faint o weithiau yr oedd pethau ‘coll’ wedi dod i'r fei o dan ei gwely neu ym mhen draw’r drôr.
‘Rydw i wedi edrych ym mhob man,’ atebodd Claire yn boenus. ‘Beth fydd Mr Wilson yn ei ddweud?’
Chwiliodd Claire a'i mam drwy ei bag ysgol, edrych ar y silffoedd llyfrau rhag ofn, chwilota dan y gwely ac agor pob drôr a chwpwrdd, ond doedd dim golwg o'r llyfr Cemeg.
Yn y pen draw, roedd hyd yn oed mam Claire yn gorfod cytuno nad oedd yn debygol y bydden nhw’n dod o hyd i'r llyfr.
‘Y cyfan alli di ei wneud yw ymddiheuro i Mr Wilson. Dweud wrtho y gwnei di dalu am lyfr newydd a chopïo'r cyfan o'r nodiadau,’ meddai gan godi ei hysgwyddau. ‘Efallai na fydd yn hapus iawn dy fod wedi bod mor ddiofal ac wedi colli dy lyfr, ond fedri di wneud dim mwy na hynny.’
Yn anfoddog, cytunodd Claire. Wyddai hi ddim sut y buasai'n wynebu Mr Wilson, ond fe wyddai hefyd bod ei mam yn iawn.
Pan ddaeth yr amser i Claire ddod adref, roedd ei mam wrth y ffenest yn edrych arni'n cyrraedd. Roedd hi wedi bod yn meddwl am ei merch drwy'r dydd ac yn ceisio dyfalu sut roedd Mr Wilson wedi ymateb.
Edrychai Claire yn ddigon llawen, ac yn debycach iddi hi ei hun, wrth iddi gerdded i fyny'r llwybr at y ty a gwaeddodd ei chyfarchiad arferol wrth ddod i mewn drwy'r drws: 'Haia Mam, dw' i adre! Beth sy' na i de?'
‘Wel? Be oedd gan Mr Wilson i’w ddweud?’ gofynnodd ei mam yn bryderus.
‘Doedd neb â’u llyfrau Cemeg,’ meddai Claire, â gwên wylaidd. ‘Roedd o wedi eu cymryd nhw i mewn i'w marcio, ac roeddwn i wedi anghofio hynny'n llwyr!’
2. Waeth pa mor ddyfal y byddai Claire wedi dal ati i chwilio, fyddai hi byth wedi cael hyd i'w llyfr gartref. Roedd hi'n chwilio am rywbeth nad oedd ar goll. Fodd bynnag, pan fyddwn ni o ddifrif yn colli rhywbeth sy'n werthfawr gennym neu sy'n bwysig i ni, fe fyddwn ni’n mynd ati'n ddyfal i chwilio amdano nes y byddwn ni wedi dod o hyd iddo. Pan gawn ni hyd iddo, rydyn ni wrth ein bodd ac yn ddiolchgar, ac yn falch o gael dweud wrth bawb pa mor llawen ydyn ni.
3. Fe ddywedodd Iesu stori am fugail oedd â 100 o ddefaid ganddo. Un diwrnod pan oedd y bugail yn cyfrif y defaid yn ei braidd fe welodd bod un ar goll. Roedd pob dafad yn werthfawr iddo, felly ar ôl iddo sicrhau bod y 99 dafad arall yn saff, fe aeth i chwilio am yr un oedd ar goll. Yn siwr i chi, ymhen amser fe ddaeth o hyd i'r ddafad golledig - roedd hi wedi crwydro ac wedi cael ei dal mewn llwyn o ddrain, ac roedd yn ei dal yn gaeth gyda'i gwlân trwchus wedi bachu yn y drysi. Fe ryddhaodd y ddafad a'i chario i ddiogelwch, at weddill y praidd. Roedd y bugail mor llawen fel y dywedodd wrth ei ffrindiau i gyd am yr hyn oedd wedi digwydd.
4. Nawr, pam y gwnaeth Iesu adrodd stori fel hon? Wel, mae Cristnogion yn credu ei fod eisiau i ni wybod ein bod ni'n arbennig iawn yng ngolwg Duw. Weithiau gallwn grwydro a dilyn ein ffyrdd ein hunain, a chael ein dal mewn pob math o broblemau – dweud anwiredd, bod yn angharedig, meddwl am neb arall ond ni ein hunain, a gwneud pethau y gwyddom sydd ddim yn iawn i’w gwneud. Dydy Duw ddim yn ein caru ni fymryn yn llai pan wnawn y pethau hyn, ond mae o eisiau i ni droi yn ôl tuag at wneud y pethau iawn. Bydd Duw yn ein helpu i ddod yn ôl ar y llwybr iawn, a bydd yn dathlu pan fydd hynny'n digwydd. Ac, yn union fel roedd y ddafad yn hapus i gael bod yn ôl gyda’r defaid eraill, felly y byddwn ninnau hefyd yn falch o gael bod yn ôl gyda ffrindiau.
Amser i feddwl
Beth sy'n werthfawr gennym ni?
Sut y byddem yn ymateb pe byddai’r peth hwnnw yn mynd ar goll?
Mae pobl yn chwilio am iachâd oddi wrth heintiau, yn chwilio am ddealltwriaeth well o'r bydysawd, yn chwilio am ffynonellau newydd o ynni. Weithiau gall pobl fod yn siomedig, ond mae'r chwilio'n dal i fynd yn ei flaen.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni yn ein hymdrech i ddeall mwy amdanom ni ein hunain, am ein byd, ac am dy gariad di tuag atom ni. Helpa ni i ddeall mwy am yr hyn sydd o wir werth.
Rydyn ni’n gweddïo am bawb sy’n chwilio am ffyrdd i helpu pobl sy’n sâl neu mewn angen.
Bendithia bawb sy’n treulio’u bywyd yn gwasanaethu eraill.
Amen.