Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae maddau'n bwysig

Josie a Jake yn dysgu am faddeuant

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dysgu am rym maddeuant a pha mor bwysig yw peidio â dal dig

Paratoad a Deunyddiau

  • Tagiau rydych chi’n eu rhoi ar fagiau wrth deithio, a llinyn ynghlwm wrthyn nhw.
  • Balwnau (gwiriwch y wybodaeth ynghylch alergedd).

Gwasanaeth

1. Casglwch y plant ynghyd i wrando ar y stori ganlynol.

2. Adroddwch y stori: Josie a Jake yn dysgu am faddeuant.

Roedd Josie a Jake yn ffrindiau mawr. Roedden nhw wedi bod yn mynd i’r Cylch Meithrin gyda’i gilydd pan oedden nhw’n ddwy oed. Yna, roedden nhw wedi bod yn mynd gyda’i gilydd i’r Dosbarth Meithrin yn yr ysgol. Roedden nhw wedi bod yn y Dosbarth Derbyn wedyn, ac yn awr roedden nhw’n blant mawr yn yr ysgol gynradd, ac yn dal i fod yn ffrindiau da.

Roedd Josie’n teimlo’n ddiflas bore heddiw. Doedd dim byd fel pe bai’n mynd yn iawn iddi. Ar ei ffordd i’r ysgol, roedd Aaron wedi reidio ei feic heibio iddi trwy bwll o ddwr, a’r dwr wedi sblasio dros ei theits coch newydd. Wedyn, doedd ei ffrind Lucy ddim eisiau sefyll yn ei hymyl yn y rhes cyn mynd i’r dosbarth. Roedd Josie wedi ceisio ymddangos fel pe byddai ddim yn malio, ond ar y tu mewn roedd hi’n teimlo'n ddig iawn.

‘Bore da, blant,’ meddai Mrs Donaldson, eu hathrawes. ‘Heddiw, rydyn ni’n mynd i siarad am y Flwyddyn Newydd. Mae hi’n ddechrau mis Ionawr. Mae’n flwyddyn newydd sbon. Mae’r Nadolig wedi bod ac wedi mynd, a nawr mae llawer o bethau diddorol eraill o’n blaen.’
‘Ar ddechrau blwyddyn’, ychwanegodd Mrs Donaldson, ‘fe fydd pobl yn aml yn cymryd amser i feddwl am beth hoffen nhw ei wneud yn wahanol yn ystod y flwyddyn newydd.
'Weithiau fe fyddan nhw’n gwneud addewidion, yn addo iddyn nhw’u hunain y byddan nhw’n gwneud rhywbeth yn wahanol i’r hyn wnaethon nhw yn ystod y flwyddyn flaenorol. Fe fydd rhai pobl yn dweud rhywbeth fel, "Rydw i’n mynd i fwyta llai o siocledi." Mae’n debyg mai’r bobl sydd wedi bwyta gormod o bethau melys dros y Nadolig fyddai’r bobl hyn!
Fe fydd rhai pobl yn dweud, "Rydw i’n mynd i gadw’n heini eleni. Llai o wylio’r teledu a mwy o fynd am dro."
Fe fydd rhai pobl eraill yn dweud rhywbeth fel, "Dyma’r flwyddyn pan fyddaf i’n astudio o ddifri ac yn llwyddo yn fy ngwaith ysgol."
Efallai bydd rhai yn dweud, "Rydw i’n mynd i fod yn fwy clên wrth fy mrawd neu fy chwaer, neu ffrindiau."
Rydyn ni’n galw’r penderfyniadau hyn yn ‘addunedau’. Mae adduned yn golygu eich bod yn penderfynu gwneud rhywbeth, ac o ddifri yn bwriadu cadw at hynny. Heddiw, fe allwn ni ysgrifennu ein haddunedau Blwyddyn Newydd ni ein hunain.'

Rhoddodd Mrs Donaldson label bag i bob plentyn a gofyn iddyn nhw ysgrifennu ar y label unrhyw adduned yr hoffen nhw ei gwneud. Ymhen ychydig, roedd pawb wrthi’n brysur yn ysgrifennu – pawb ond Josie. Roedd hi’n dal yn i fod yn teimlo’n ddiflas ac yn methu meddwl am unrhyw beth i’w ysgrifennu. Roedd hi’n methu meddwl am rywbeth newydd, dim ond yn gallu cofio am hen bethau. Y pethau oedd wedi digwydd y bore hwnnw - pethau oedd wedi gwneud iddi deimlo’n ddig.

Roedd Aaron yn brysur yn ysgrifennu ei adduned ef. Roedd Josie’n teimlo’n anniddig wrth edrych arno. Roedd Lucy’n brysur yn ysgrifennu ei hadduned hithau. Ochneidiodd Josie’n drist. Fe arhosodd Mrs Donaldson wrth fwrdd Josie.
‘Wyt ti’n ei chael hi’n anodd meddwl am adduned, Josie?’ gofynnodd Mrs Donaldson yn garedig.
Nodiodd Josie.
‘Rydw i’n gallu gweld bod dy deits di’n wlyb. Wnest ti ddisgyn ar dy ffordd i’r ysgol?’
‘Naddo,’ meddai Josie’n flin. ‘Aaron wnaeth reidio’i feic heibio i mi a mynd drwy bwll o ddwr a sblasio’r dwr drosof fi.’
‘O! Dwi’n gweld!’ meddai Mrs Donaldson.
Edrychodd Aaron ar y ddwy.
‘Sori, Josie,’ meddai. ‘Doeddwn i ddim yn gwneud hynny’n fwriadol.’
‘A dydi Lucy ddim eisiau bod yn ffrindiau efo fi ychwaith,’ meddai Josie wedyn.
‘Ond fi yw dy ffrind gorau di Josie!’ atebodd Lucy, gan edrych yn syn.
‘Gadewch i ni aros am foment, blant,’ awgrymodd Mrs Donaldson. ‘Faint ohonoch chi sydd â’r cardiau Nadolig yn dal i fyny yn hongian o gwmpas y ty? Faint ohonoch chi sydd â’r goeden Nadolig a’r addurniadau yn dal i fyny? Faint ohonoch chi sy’n dal i fwyta’r twrci? Dychmygwch, pe bydden ni’n gadael y goeden Nadolig a’r addurniadau i fyny rownd y flwyddyn. Dychmygwch, pe bydden ni’n bwyta cig twrci a dim byd arall rownd y flwyddyn. Fe fyddai rhywbeth o’i le, ydych chi ddim yn cytuno? Mae’r Nadolig a gwyliau’r Nadolig wedi pasio, ac mae’n amser symud ymlaen a gwneud rhywbeth arall. Mae hon yn wers bwysig i ni. Dydyn ni ddim yn gallu dechrau Blwyddyn Newydd heb adael i’r hen un fynd.’

Gwenodd Mrs Donaldson ar Josie wrth fynd ymlaen i sgwrsio â’r plant, fel hyn.
‘Yn achos Josie, fe wnaeth ei diwrnod hi ddechrau’n chwithig heddiw. Dychmygwch pe byddai hi’n dal i feddwl am y siomedigaethau hyn a’r teimladau diflas yfory eto a’r diwrnod wedyn, a thrwy fis Chwefror a hyd yn oed ar hyd y flwyddyn tan y Nadolig nesaf. Sut rydych chi’n meddwl y byddai hi’n teimlo erbyn hynny?’
Dechreuodd Josie chwerthin. ‘Yn ddiflas iawn, iawn, mae’n debyg,’ dywedodd yn dawel.
‘Ie, rydw i’n siwr y bydden ni i gyd yn teimlo’n flin iawn erbyn hynny,’ meddai Mrs Donaldson wedyn. ‘Oes rhywun yn gallu awgrymu beth fyddai’n bosib i Josie ei wneud?’
‘Fe ddylai Aaron a Lucy ddweud sori,’ awgrymodd Melanie.
‘Dyna ateb da!’ meddai Mrs Donaldson. ‘Ond mae rhywbeth arall hefyd.’
‘Fe fyddai angen i mi faddau iddyn nhw,' dywedodd Josie’n dawel eto.
‘Ardderchog,’ meddai Mrs Donaldson.
Ac aeth pawb ymlaen â’i waith eto.
‘Fe allai hynny fod yn adduned gen i,’ meddyliodd Josie. ‘Fe fyddwn i’n gallu gadael y teimladau diflas yma i fynd wedyn. Fe fyddwn i’n gallu penderfynu maddau i Aaron am wlychu fy nheits, ac fe fyddwn i’n gallu penderfynu maddau i Lucy am beidio bod yn bartner i mi bore heddiw.’

Ar ddiwedd y wers, fe roddodd Mrs Donaldson falwn i bob plentyn er mwyn iddyn nhw gael clymu eu hadduned wrth eu balwn.
‘Fe wnawn ni osod y balwnau o gwmpas yr ystafell ac fe fyddan nhw’n gwneud i’r dosbarth edrych yn lliwgar a deniadol eto,’ dywedodd Mrs Donaldson wrth edrych  o’i chwmpas. ‘Ond Josie, rydw i eisiau i ti wneud rhywbeth arbennig gyda dy falwn di. Gawn ni i gyd fynd gyda’n gilydd a mynd â hi allan?’
Gwyliodd y plant wrth i Josie adael i’w balwn fynd. Cododd y balwn i fyny ac i fyny i’r awyr, yn uwch ac yn uwch, nes yn y diwedd roedden nhw’n methu ei gweld.
Teimlai Josie’n hapus mewn ffordd ryfedd.
‘Welwch chi, blant,’ eglurodd Mrs Donaldson, ‘pan fyddwn ni’n maddau i rywun ac yn gadael i deimladau annifyr a siomedigaethau fynd, a gallu anghofio amdanyn nhw, rydyn ni’n teimlo’n rhydd unwaith eto - yn union fel balwn Josie. Nawr, fe gawn ni i gyd fynd yn ôl i’r dosbarth  i gael ein ffrwythau a’n diod ganol bore. Rwy’n siwr fod pob un ohonoch yn eu haeddu erbyn hyn.’

Amser i feddwl

A oes unrhyw 'hen bethau' mae angen i ni adael iddyn nhw fynd cyn y gallwn ni fwynhau blwyddyn newydd?
Fel yn achos Josie, a oes unrhyw un y mae angen i ni faddau iddo ef neu hi?

Awgrymwch fod y plant yn codi label bagiau ar y ffordd allan o’r gwasanaeth, er mwyn gallu cofnodi eu haddunedau eu hunain. Ac efallai yr hoffech chi eu clymu wrth falwnau fel y gwnaeth Josie a phlant ei dosbarth yn y stori.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n dymuno i ni gael bod yn rhydd a mwynhau bywyd.
Rwyt ti’n gwybod ein bod yn gwneud llawer o gamgymeriadau, ond rwyt ti bob amser yn barod i faddau i ni am y pethau hynny.
Helpa ni i faddau i eraill pan fyddan nhw’n brifo ein teimladau ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon