Pwysigrwydd dweud 'Diolch' (Gwasanaeth o’r gyfres ‘Helo Sgryffi’)
gan Revd Sylvia Burgoyne
Addas ar gyfer
- Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Ystyried pa mor bwysig yw diolch i bobl am fod yn garedig wrthym.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
- Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
Gwasanaeth
1.Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!'
Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.
Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!
2. Roedd Sgryffi’n pryderu. Roedd Liwsi Jên wedi mynd i’r ysgol fel arfer fore Llun, ond roedd Mr Bryn wedi bod yn ei nôl ac wedi dod â hi adre eto cyn amser cinio.
Oes gan rywun unrhyw syniad beth tybed oedd wedi digwydd i Liwsi Jên?
Doedd Liwsi Jên ddim wedi gweld Sgryffi’n edrych arni dros giât y cae am fod Mrs Bryn, mam Liwsi Jên, wedi rhedeg allan o’r ty at y car, ac wedi mynd â Liwsi Jên yn syth i’r ty.
Fe fyddai Liwsi Jên yn arfer dod â bwyd i Sgryffi amser te. Ond heddiw, Mr Bryn oedd wedi dod â bwyd iddo ac wedi mynd ag ef yn ôl i’r stabl o’r cae. Wrth iddo frwsio Sgryffi, fe ddywedodd Mr Bryn: 'Mae arna i ofn y bydd yn rhaid i ti fodloni ar gael dy fwydo a dy frwsio gen i am ychydig o ddyddiau, Sgryffi. Mae Liwsi Jên â brech yr ieir arni, ac mae’n rhaid iddi aros yn y ty.'
Teimlai Sgryffi’n drist. Roedd yn gweld colli ei ffrind, Liwsi Jên. Fe fyddai’n trotian ar draws y buarth ac yn sefyll yn ymyl ffenestr llofft Liwsi Jên.
‘Hi-ho! Hi-ho!’ galwodd, gan obeithio y byddai Liwsi Jên yn ei glywed.
Oes gan rywun unrhyw syniad beth tybed oedd Sgryffi eisiau ei ddweud wrth Liwsi Jên?
Ar y trydydd bore, roedd Liwsi Jên yn edrych allan trwy’r ffenest pan ddaeth Sgryffi heibio.
‘O, Sgryffi, rydw i wedi fy ngorchuddio â smotiau coch sy’n cosi,’ eglurodd Liwsi Jên. ‘Ond rydw i’n teimlo’n well heddiw. Mae Mam yn dweud y bydda i’n cael dod allan am dro bach pnawn ’ma, os bydd yr haul yn gwenu.’
Roedd Sgryffi’n hapus iawn pan glywodd hynny. Yn y pnawn, fe eisteddodd Liwsi Jên wrth y bwrdd picnic. Meddyliodd Sgryffi ei bod yn edrych yn ddoniol gyda smotiau coch dros ei hwyneb a’i breichiau a’i choesau. ‘Mae’r smotiau dros fy nghefn ac ar fy mol i hefyd, Sgryffi,’ meddai Liwsi Jên. ‘Mae Mam yn dweud na chaf i fynd yn ôl i’r ysgol nes bydd y smotiau wedi diflannu. Maen nhw’n heintus!'
Oes unrhyw un yn gwybod beth yw ystyr y gair ‘heintus’? Ydych chi’ n gallu meddwl am unrhyw afiechyd heintus arall?
Yn sydyn, fe ddechreuodd Liwsi Jên chwerthin. ‘Paid â phoeni, dwi ddim yn meddwl y galli di ddal brech yr ieir, Sgryffi!’ meddai.
Roedd Sgryffi wrth ei fodd yn cael cwmni Liwsi Jên wrth iddi fod gartref bob dydd. Roedd y tywydd yn braf a heulog, ac roedd Mrs Bryn yn rhoi llawer o bethau i Liwsi Jên eu gwneud i’w chadw’n brysur tra roedd hi’n eistedd allan gyda Sgryffi.
Oes gan rywun syniad beth tybed oedd rhai o’r pethau yr oedd Liwsi Jên yn eu gwneud?
Pan fyddai Mrs Bryn wedi gwneud ei gwaith ty i gyd, a Tomos bach yn cysgu yn y pnawn, fe fyddai’n darllen stori i Liwsi Jên, neu fe fydden nhw’n chwarae gemau fel Ysgolion a Nadroedd, ac yn cael diod o sudd oer i’w yfed. Roedd Sgryffi’n awyddus i ofalu am Liwsi Jên hefyd, felly roedd yn mynd â hi am dro ar ei gefn o amgylch y buarth ac ar draws y cae.
Ar y pnawn Gwener, ar ôl i Mrs Bryn orffen darllen stori, fe ddywedodd wrth Liwsi Jên, ‘Mae’r smotiau wedi diflannu i gyd erbyn hyn Liwsi Jên. Fe fyddi di’n gallu mynd yn ôl i’r ysgol dydd Llun.'
'Hwre!' gwaeddodd Liwsi Jên. 'Fe fydda i’n gallu chwarae gyda fy ffrindiau unwaith eto! Diolch Mam am ofalu amdanaf fi pan oeddwn i’n sâl ac am fy ngwneud i’n well eto. A diolch i ti, Sgryffi, am fod yn ffrind gorau i mi!'
CofleidioddLiwsi Jên ei Mam a chofleidio Sgryffi wedyn. Roedd hi’n teimlo’n falch iawn bod ganddi rai fel nhw i ofalu amdani.
Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.
3. Gadewch i ni wrando ar stori o’r Beibl am rai pobl wnaeth anghofio dweud diolch, er bod Iesu wedi bod yn garedig iawn wrthyn nhw.
Roedd deg dyn yn dioddef o’r gwahanglwyf wedi dod i weld Iesu. Fe symudodd ffrindiau Iesu oddi wrthyn nhw’n sydyn iawn ac mor bell ag yr oedden nhw’n gallu oddi wrth y deg claf. Doedd ar y ffrindiau ddim eisiau dal yr afiechyd heintus hwnnw oedd ar y dynion.
Ond, fe siaradodd Iesu’n garedig â’r deg dyn, ac fe ddywedodd wrthyn nhw, ’Ewch yn ôl i’r lle rydych chi’n aros ynddo, ac fe fyddwch chi’n well yn fuan.’
Wrth i’r dynion gerdded yn ôl i’r fan lle roedden nhw’n gorfod aros dros dro am eu bod yn dioddef o’r afiechyd heintus, fe wnaethon nhw weld bod eu croen dolurus wedi gwella! Roedden nhw’n methu â disgwyl i gael mynd yn ôl i’w cartrefi eu hunain at eu teuluoedd, oherwydd nawr doedden nhw ddim yn heintus.
Ond, fe arhosodd un dyn, a throi rownd, er mwyn mynd yn ei ôl at Iesu. Roedd arno eisiau dweud ‘Diolch yn fawr’ wrth Iesu.
Roedd Iesu’n falch iawn o’i weld, ond yn drist iawn hefyd nad oedd y naw dyn arall wedi dod yn ôl i ddweud ‘Diolch’ wrtho am eu gwella.
Amser i feddwl
Ydych chi’n gallu meddwl am bobl yr hoffech chi ddiolch amdanyn nhw?
Ydych chi’n gallu meddwl am bethau eraill yr hoffech chi ddiolch amdanyn nhw?
Gadewch i ni gofio dweud diolch heddiw!
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am y bobl sy’n gofalu amdanom ni pan fyddwn ni’n sâl.
Diolch am ddoctoriaid, nyrsys, mamau, tadau, athrawon, neiniau a theidiau[gofynnwch i’r plant gynnwys eu hawgrymiadau eu hunain yma . . . ]ac am yr holl bobl sy’n gofalu amdanom i gyd.
Amen.