Gweddi'r Arglwydd
Beth mae Gweddi’r Arglwydd yn ei olygu i wahanol bobl?
gan Alison Thurlow
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Archwilio beth mae Gweddi’r Arglwydd yn ei olygu i wahanol bobl.
Paratoad a Deunyddiau
- Trefnwch fod y delweddau canlynol gennych chi a’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:
- John Mahony, ar:http://tinyurl.com/qfawlzv
- milwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf, ar:http://tinyurl.com/onpudgm
- Rob Parsons, ar: https://muddypearl.com/wp-content/uploads/2016/01/rob-parsons.jpg
- Mae’n bosib dod o hyd i ddelweddau sy’n cyd-fynd â geiriau Saesneg Gweddi’r Arglwydd ar y wefan:www.slideshare.net/bristolcyp/the-lords-prayer-traditionalfe allech chi ddangos y rhain os dymunwch chi, ond dewisol fyddai hynny.
Gwasanaeth
- Yn ystod y gwasanaeth hwn, byddwn yn ystyried Gweddi'r Arglwydd - y weddi arbennig honno a ddysgodd Iesu i'w ddisgyblion, sydd â'i geiriau i'w gweld yn rhan y Testament Newydd o'r Beibl. Yn benodol, byddwn yn rhoi sylw i’r hyn y mae Gweddi'r Arglwydd wedi ei olygu i wahanol bobl.
- Yn gyntaf, fodd bynnag, fe hoffwn glywed rhai o'r syniadau sydd gennych chi am weddi. Fe hoffwn i chi yn gyntaf droi at y person sydd agosaf atoch a rhoi cynnig ar ateb y cwestiynau canlynol.
- Beth yw ystyr y gair ‘gweddi’?
- Pa fath o bethau y gallwn ni eu cynnwys mewn gweddi?
- A yw'n well ein bod yn darllen gweddi o lyfr neu’n cyfansoddi gweddi ein hunain?
- Pa bryd y byddech chi’n adrodd gweddi?
Gwrandewch ar amrywiaeth o atebion.
- Cafodd Gweddi'r Arglwydd ei hysgrifennu bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl, ond mae pobl ledled y byd i gyd yn parhau i'w hadrodd mewn eglwysi bob Sul ac mewn ysgolion, ac yn eu cartrefi. Fe feddyliais i y byddai'n ddiddorol ceisio canfod pam fod y weddi hynafol hon yn parhau i fod yn bwysig i bobl heddiw. Felly, fe lwyddais i gael hyd i dri adroddiad byr yn sôn am adegau pryd roedd Gweddi'r Arglwydd wedi bod yn bwysig iawn i wahanol bobl.
- Dangoswch y ddelwedd o John Mahony.
Ar yr 11 o fis Medi 2001, roedd John Mahony, is-gyrnol wedi ymddeol ym myddin yr UDA yn gweithio ar bedwerydd llawr ar bymtheg adeilad enfawr yn Efrog Newydd oedd yn cael ei alw’n 'The World Trade Center' . Yn sydyn, ac yn annisgwyl iawn, fe gafodd yr adeilad ysgytiad nerthol gan achosi i bawb oedd ar eu traed golli eu cydbwysedd. Ar y dechrau fe feddyliodd John Mahony bod daeargryn wedi digwydd, er roedd ei hyfforddiant milwrol yn dweud wrtho nad daeargryn oedd o ac mai rhywbeth arall oedd wedi achosi'r broblem.
Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin wrth benderfynu faint o wybodaeth yr ydych am ei thrafod yng nghyd-destun 9/11, oherwydd fe allai rhai o'r plant deimlo’n frawychus ac nid oes angen mynd i fanylder mawr ynghylch y digwyddiad at bwrpas y gwasanaeth hwn.
Roedd angen i John, a'r rhai oedd yn cyd-weithio'n agos ag ef, fynd allan o'r adeilad cyn gynted ag yr oedd modd. Felly fe wnaethon nhw symud i gyfeiriad y grisiau a oedd yn llawn o fwg. Gyda phobl ofnus llawn panig o'i gwmpas ym mhob man a phawb yn dyfalu tybed a oedd yn mynd i oroesi ai peidio, cafodd John ei hun yn adrodd geiriau Gweddi'r Arglwydd drosodd a throsodd.
Roedd John yn gyfarwydd ag adrodd Gweddi'r Arglwydd bob dydd, ac roedd ail-adrodd ei geiriau yn ymddangos fel pe byddai'n rhoi sefydlogrwydd iddo ar y diwrnod neilltuol hwnnw. Fe ddywedodd John ymhellach ymlaen, ‘Ar y grisiau gwlyb a llawn mwg hynny mewn adeilad oedd ar dân, gyda mil o bobl ofnus o'm cwmpas, fe wnes i deimlo rhyw ryfeddod. Fe deimlais i dangnefedd Duw ac roeddwn yn gwybod, er gwaethaf y canlyniad corfforol, y byddai popeth yn iawn.’
I John, roedd adrodd Gweddi'r Arglwydd ar y diwrnod anoddaf ei fywyd yn gymorth iddo, gan roi iddo deimlad cryf o dangnefedd Duw. - Dangoswch y ddelwedd o’r milwr o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dangosodd ymchwil ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf y flwyddyn ddiwethaf bod llawer o filwyr yn eu dyddiaduron, ac yn y llythyrau yr oedden nhw'n eu hanfon adref, yn dweud cymaint yr oedden nhw'n gwerthfawrogi geiriau'r Beibl. Fe ddywedodd llawer un bod y gweddïau ysgrythurol fel Gweddi'r Arglwydd, neu'r salmau, yn gallu darparu geiriau o atgyfnerthiad i’w morâl cyn i'r milwyr fentro dros ben ochr y ffos er mwyn ymuno â'r frwydr. Roedden nhw hefyd yn gallu bod yn ffynhonnell o gysur pan oedd ffrind wedi cael ei ladd.
Roedd llawer o'r milwyr a oedd yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn gwybod geiriau Gweddi'r Arglwydd ar eu cof, ac fe fydden nhw'n adrodd y weddi pan fyddai bywyd ar faes y gad yn frawychus, yn anodd neu'n ysgytiol. Yn debyg i John Mahony, roedd adrodd Gweddi'r Arglwydd yn ystod cyfnodau anoddaf eu bywyd yn eu helpu - roedd yn ymddangos bod hyn yn rhoi cysur iddyn nhw. - Dangoswch y ddelwedd o Rob Parsons.
Mae Rob Parsons yn awdur Cristnogol adnabyddus sydd wedi ysgrifennu sawl llyfr am fywyd teuluol. Yn un o'i lyfrau, mae'n disgrifio'r adeg pan aeth i ymweld â'i fam, oedd dros ei naw deg oed ac yn byw mewn cartref nyrsio. Roedd hi wedi bod yn wraig fywiog a gweithgar iawn, ond ar adeg yr ymweliad nid oedd yn gallu cofio nifer o bethau, ac yn aml roedd ychydig yn ddryslyd. Roedd yna un peth, fodd bynnag, yr oedd hi bob amser yn gallu ei gofio. Gwrandewch ar y geiriau hyn o un o lyfrau Rob:
'And then I will tuck the bedclothes in around her, and straighten the top sheet, bend to kiss her and say, "Shall we say prayers?" And then a strange thing will happen: this woman who can scarcely string three words together will take my hand and in a strong voice say word-perfect the prayer she said with me each night as she put me to bed, "Our Father, who art in heaven, hallowed be thy name . . ."’
Gallai'r wraig oedrannus hon, oedd yn cael trafferth cofio llawer o bethau, gofio Gweddi'r Arglwydd o hyd. Yr oedd hi wedi hen arfer ei hadrodd cyn i'w chof ddechrau pallu, ac roedd hyn yn dod â llawer o gysur iddi.
Amser i feddwl
Tybed pa un o'r storïau hyn sydd orau gennych? Trowch at y person sy'n eistedd agosaf atoch a dywedwch yn dawel wrtho ef neu hi pa un yw hi a phaham.
Efallai yr hoffech chi ddweud wrth y plant pa stori rydych chi’n ei hoffi orau, a pham.
Mae pob un o'r storïau hyn yn sôn am bobl a oedd yn gwybod Gweddi'r Arglwydd yn iawn – roedd y weddi’n un yr oedden nhw wedi ei dysgu pan oedden nhw'n blant - ac roedd y ffaith ei bod mor gyfarwydd iddyn nhw yn eu galluogi i'w hadrodd mewn amrywiaeth o amgylchiadau er mwyn dod â thangnefedd, cysur a diogelwch iddyn nhw.
Efallai rhyw ddydd y bydd modd i'r un weddi ddod â chysur a heddwch i bob un ohonom ni. Efallai un diwrnod y byddwch yn adrodd y weddi y gwnaethoch chi ei dysgu yn yr ysgol pan ddaw angen arnoch i ddod o hyd i heddwch, cysur neu ddiogelwch.
Gweddi
Dangoswch y delweddau sy’n cyd-fynd â geiriau Saesneg Gweddi’r Arglwydd, os byddwch chi’n dymuno gwneud hynny.
Adroddwch Weddi’r Arglwydd, gan annog y plant i ddweud y brawddegau gyda chi, gan feddwl am bob brawddeg wrth i chi eu hadrodd gyda’ch gilydd.