Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cael te efo fi?

Pobl sy’n dylanwadu ar ein bywyd

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried y dylanwad y mae pobl eraill yn ei gael ar ein bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymgyfarwyddwch â’r stori o’r Beibl, yn y rhan o Efengyl Luc 19.1-10, sy’n sôn am Sacheus yn newid ei ffordd o fyw ar ôl cwrdd ag Iesu.

Gwasanaeth

Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i ddweud stori wrthyn nhw.

Rhywun yn cael te efo Sacheus

Doedd Sacheus ddim yn ddyn poblogaidd iawn. Doedd casglu trethi ar ran llywodraeth rymus, a oedd yn ceisio concro’r byd i gyd, ddim yn mynd i’w wneud yn ddyn poblogaidd, na fyddai? Yn ychwanegol at hynny, roedd Sacheus yn dipyn o fwli, a doedd ei ffordd o drin y bobl ddim yn glên iawn. Roedd yn twyllo’r bobl hefyd, ac yn cadw llawer o’r arian roedd o’n eu casglu yn ei boced ei hun.  Ydych chi’n gallu dychmygu sut un oedd o felly? Doedd Sacheus ddim yn ddyn dymunol o gwbl.

Un diwrnod, fe glywodd Sacheus am y dyn oedd wedi bod yn denu torfeydd mawr i wrando arno’n pregethu. Ac roedd y dyn hwnnw’n achosi cryn gynnwrf wrth ddysgu pethau gwahanol i’r hyn y byddai arbenigwyr yn y Gyfraith a'r offeiriaid yn y temlau yn ei ddysgu i’r bobl. Doedd dim gwahaniaeth gan Sacheus am hynny, gan nad oedd yn poeni am bethau felly beth bynnag, ond roedd wedi clywed hefyd bod y dyn arbennig hwn wedi gallu iachau pobl, mae'n debyg, wedi rhoi ei olwg yn ôl i ddyn dall, wedi gallu gwneud i ddyn cloff gerdded yn iawn, a hyd yn oed wedi gallu gwella gwallgofddyn. Waeth beth oedd yn bod ar y bobl hyn, roedd o’n gallu eu gwella! Doedd dim byd o'i le ar Sacheus, doedd o ddim yn sâl, ond roedd yn chwilfrydig iawn. . . Roedd arno eisiau gweld y dyn arbennig hwn!

Felly, ar y diwrnod neilltuol hwn, fe aeth Sacheus i weld drosto'i hun. Pe byddech chi wedi gofyn iddo pam roedd eisiau mynd, fyddai Sacheus ddim wedi gallu dweud wrthych chi. Efallai mai dim ond oherwydd chwilfrydedd, efallai ei fod yn ofni y byddai’n colli ychydig o gyffro os na fyddai’n mynd, neu efallai ei fod wedi meddwl y byddai'n gyfle da i weld pobl yr oedd arnyn nhw rywfaint o arian iddo! Beth bynnag oedd y rheswm, fe benderfynodd fynd i wrando ar y dyn arbennig yn siarad.

Cyn gynted ag y gwnaeth Sacheus gerdded allan o’i dy, fe sylweddolodd nad oedd hynny’n mynd i fod yn hawdd. Roedd y dref yn llawn dop o bobl! Roedd pawb wedi clywed y byddai’r dyn neu’r athro arbennig hwn yn ymweld â'r ardal, ac roedd pobl o'r pentrefi cyfagos hefyd wedi ymuno â'r bobl leol yn y stryd. Roedd yn amlwg fod yr athro wedi cyrraedd o flaen, ond doedd Sacheus ddim yn gallu ei weld? Dim gobaith. Doedd Sacheus ddim yn ddyn tal iawn, a byddai’n teimlo o dan anfantais bob amser mewn sefyllfaoedd o'r fath. Pan oedd yn fachgen, roedd yn gallu gwthio ei ffordd i'r tu blaen bob tro, a doedd neb yn ymddangos eu bod yn gwrthwynebu hynny rhyw lawer. Felly, fe geisiodd wneud yr un peth y tro hwn. Pe byddai wedi bod yn rhywun arall, o bosibl y byddai’r bobl wedi gadael iddo fynd heibio iddyn nhw, ond wrth weld pwy oedd yn ceisio gwthio roedden nhw’n dal eu penelinoedd allan i’w rwystro ac yn dweud y drefn. Doedden nhw ddim yn fodlon gadael iddo fynd drwodd.

Safodd Sacheus ar ei flaenau ei draed, ond doedd o ddim yn gallu gweld. Edrychodd o’i gwmpas am rywbeth i sefyll arno, ac yna fe welodd goeden. Wrth gwrs, fe allai ddringo i ben y goeden! Oherwydd ei fod yn fyr, roedd wedi arfer gallu dringo i ben pethau yn rhwydd iawn. Felly, mewn dim amser, roedd Sacheus i fyny yn eistedd ar gangen y goeden ac roedd yn gallu gweld yn glir dros ben y bobl oedd o'i flaen. Roedd yn dal i fod yn methu clywed popeth, ond roedd yn gallu dal darnau o’r sgwrs, ac roedd yn ddigon hapus i allu gweld beth oedd yn digwydd yn unig.

A dyna pryd y sylwodd Sacheus fod yr athro wedi edrych i fyny i’w gyfeiriad. Dim ond am foment y gwnaeth o edrych, ond roedd Sacheus yn gwybod ei fod wedi ei weld. Mewn ffordd ryfedd fe ddechreuodd Sacheus ddymuno y byddai wedi aros ar y ddaear yng nghefn y dorf, oherwydd roedd yr edrychiad hwnnw wedi gwneud iddo deimlo ychydig yn anghyfforddus. Daliodd yr athro ati i siarad am ychydig, ac yna fe ddechreuodd gerdded drwy'r dorf, ac fe gerddodd yn syth tuag ato nes roedd yn sefyll o dan y goeden lle’r oedd Sacheus! Edrychodd yr athro i fyny ato. Fyddai Sacheus byth yn anghofio’r llygaid hynny’n edrych arno. Nid dim ond cipolwg fel o’r blaen, y tro hwn roedd yn edrychiad a oedd yn ymddangos fel pe byddai’n edrych yn syth at ei galon, a doedd Sacheus ddim yn siwr ei fod yn ei hoffi hynny!

Yna, fe siaradodd yr athro. Edrychodd Sacheus y tu ôl iddo’i hun, gan feddwl efallai bod rhywun arall wedi dringo’r goeden ato. Ond, na, roedd yr athro’n siarad yn uniongyrchol ag ef. ‘Tyrd i lawr o ben y goeden,’ dywedodd. ‘Rydw i’n mynd i ddod i dy dy di i gael pryd o fwyd heddiw.’

Bu bron iawn i Sacheus syrthio o ben y goeden! Ond fe ddaeth i lawr, gan deimlo’n ddryslyd, ond eto’n teimlo ei fod wedi cael anrhydedd ar yr un pryd. Roedd yn arferiad yn y wlad honno, gan bobl, i gynnig lletygarwch i unrhyw un a ofynnai am gael lle i aros neu ofyn am bryd o fwyd. Ond doedd neb erioed wedi gofyn i Sacheus a gai fynd ato ef i’w dy, doedd Sacheus ddim wedi arfer cael ymwelwyr. Doedd neb byth yn mynd i’w dy. Meddyliodd, a oedd ganddo ddigon o fwyd yn y ty? A oedd y lle yn daclus? Fe gafodd blwc sydyn o banig pan gofiodd nad oedd wedi gwneud ei wely'r bore hwnnw! Wel, roedd yn rhy hwyr bellach.

Wrth iddyn nhw fynd at y ty, fe sylweddolodd Sacheus bod y dorf yn dilyn. Roedd yn gallu clywed y bobl yn grwgnach, ac roedd yn teimlo'n anghyfforddus iawn. Roedden nhw’n sôn am y math o ddyn oedd Sacheus, ac yn dweud eu bod yn synnu’n fawr fod yr athro hwn yn dewis bwyta gyda dyn mor dwyllodrus. Nid oedd Sacheus yn hoffi hyn yr oedd yn ei glywed, ac roedd yn teimlo’n anesmwyth iawn, gan obeithio nad oedd yr athro wedi clywed unrhyw beth. Roedd yn falch iawn o allu cyrraedd drws y ty mewn un darn.

Beth yn union a ddigwyddodd yn y ty y diwrnod hwnnw, does neb yn gwybod yn iawn. Ond fe wyddom fod Sacheus wedi dweud ei fod yn teimlo cywilydd am yr hyn yr oedd wedi bod yn ei wneud, a’i bod hi’n ddrwg ganddo. Ond roedd yn teimlo rhyddhad hefyd, ac yn teimlo’n obeithiol i gyd ar yr un pryd. Dim un waith y gwnaeth yr athro ei gondemnio am iddo fod yn hunanol, na’i ddwrdio am ei fod wedi bod yn twyllo’r bobl - doedd dim rhaid iddo, am fod Sacheus yn sydyn yn ymwybodol iawn ei fod wedi bod yn ymddwyn mewn ffordd anghywir. Siaradodd yr athro am gariad a maddeuant a theimlai Sacheus fel pe bai pwysau mawr wedi cael ei godi oddi ar ei ysgwyddau.

Pan ddaeth Sacheus a'r athro allan o’r ty, roedd y dorf yn dal i aros a doedden nhw ddim yn ymddangos unrhyw faint hapusach nag oedden nhw cyn hynny. Fe gafodd y bobl eu synnu pan wnaethon nhw weld ychydig o wên gynnes ar wyneb Sacheus. Edrych yn gas a sarrug y byddai fel arfer, ac yn gwgu ar bawb. Ond fe gawson nhw eu synnu’n fwy pan wnaethon nhw glywed beth oedd gan Sacheus i’w ddweud.

‘Gwrandewch,’ meddai Sacheus. ‘Mae pethau’n mynd i fod yn wahanol o hyn ymlaen. Rydw i’n mynd i roi hanner fy nghyfoeth i’r tlodion, ac yn achos unrhyw un y gwnes i ei dwyllo rydw i’n mynd i roi pedair gwaith beth bynnag y gwnes i ei ddwyn oddi arnyn nhw yn ôl iddyn nhw.’

Roedd pethau’n bendant yn wahanol. Roedd Sacheus wedi cwrdd ag Iesu, ac fe fyddai Sacheus yn ddyn gwahanol am byth wedyn.

Amser i feddwl

Mae’r Testament Newydd yn disgrifio llawer o bobl y cafodd eu bywyd ei newid ar ôl iddyn nhw gwrdd ag Iesu. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu, hyd yn oed heddiw, yn gallu newid bywyd pobl.

Mae pob un ohonom yn gallu cael dylanwad ar fywyd pobl eraill. Fe allwn ni ddylanwadu arnyn nhw er gwell ac er gwaeth.Meddyliwch am eich ffrindiau. Sut maen nhw’n gallu dylanwadu er gwell, ac er gwaeth?

Meddyliwch am eich bywyd eich hun. Ydych hi’n ddylanwad da ar y rhai sydd o’ch cwmpas chi?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am stori Sacheus.
Diolch bod cwrdd ag Iesu wedi newid ei fywyd.
Helpa ni i fod yn ddylanwad cadarnhaol ar y bobl sydd o’n cwmpas.
Helpa ni i fod yn fwy meddylgar, yn fwy amyneddgar, ac yn fwy ystyriol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon