Mae pwyntiau uchel ac isel mewn bywyd
Stori Ruth a Naomi, rhan 1
gan Charmian Roberts
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Ystyried y gred bod Duw’n gofalu amdanom bob amser.
Paratoad a Deunyddiau
- Meddyliwch am wyliau pan ddigwyddodd pethau da a phethau oedd ddim cystal, a rhannwch yr hanes â’r plant.
- Efallai yr hoffech chi gasglu ychydig o ddilladau syml i’w defnyddio, fel belt, sgarff, clogyn neu bethau dim ond fel awgrymiad ar gyfer y cymeriadau, ond fydd dim angen gwisg lawn.
- Fe fydd arnoch chi angen dau arwydd mawr – un gyda’r gair 'Bethlehem' arno a’r llall â’r gair 'Moab' arno. Gosodwch y rhain gyferbyn â’i gilydd bob ochr i’r ystafell. Fe fyddwch chi hefyd angen taflen fawr o bapur wedi ei gosod yn y tu blaen, a phin ffelt.
- Ymgyfarwyddwch â’r stori o’r Beibl yn y rhan o lyfr Ruth 1.1-17, sy’n sôn am Ruth yn aros yn ffyddlon gyda Naomi. Fe allwch chi ddefnyddio’r fersiwn o’r stori sydd yma yn rhan y gwasanaeth, neu adrodd y stori yn eich geiriau eich hun.
- Ar gyfer yr ‘Amser i feddwl’, efallai yr hoffech chi oleuo cannwyll i helpu’r plant ganolbwyntio yn ystod yr amser tawel.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i'r plant feddwl am wyliau y gallen nhw fod wedi bod arno, a’i fwynhau. Yna siaradwch gyda nhw am wyliau y gwnaethoch chi ei fwynhau. Disgrifiwch rhai o'r pethau da, ac ambell beth oedd ddim cystal, a ddigwyddodd ar y gwyliau hwnnw, fel, 'Fe es i i Sbaen, ond fe fethais i ddal yr awyren. Fe wnes i aros mewn gwesty hyfryd, ond fe gefais fy mrathu gan slefren fôr', neu enghreifftiau o ddigwyddiadau tebyg.
Gofynnwch i'r plant sôn am rai pethau da a rhai pethau oedd ddim cystal ynghylch eu gwyliau. - Nodwch weithiau ein bod yn dewis sôn am y pethau da hynny sy'n digwydd i ni, ond mae bywyd yn aml yn cynnwys pethau da yn ogystal â phethau sydd ddim mor dda.
Eglurwch i’r plant eich bod am ddweud stori wrthyn nhw am rywun oedd â llawer o bethau drwg wedi dod i'w rhan, ond fe ddaeth rhai pethau da hefyd. Gofynnwch iddyn nhw geisio nodi, wrth i chi ddweud y stori, pa bryd y bydd y pethau da yn digwydd a pha bryd y bydd pethau drwg yn digwydd. Mae’n bosib iddyn nhw ddangos hyn trwy roi bawd i fyny a rhoi bawd i lawr pan fyddan nhw’n sylw ar rywbeth da neu rywbeth drwg. - Dywedwch wrth y plant bod y stori wedi ei lleoli ym Methlehem, yna pwyntiwch tuag at yr arwydd. Gofynnwch i'r plant beth y maen nhw'n ei wybod eisoes am y lle hwn. Efallai y byddan nhw'n ei gysylltu â genedigaeth Iesu. Gadewch iddyn nhw wybod fod y stori hon wedi digwydd amser maith yn ôl, ymhell cyn genedigaeth Iesu.
- Gofynnwch am wirfoddolwyr i ddod ymlaen i chwarae rhannau Naomi, Elimelech, Mahlon a Chilion, Ruth ac Orpa. Defnyddiwch y props syml - un peth ar gyfer bob cymeriad.
Ruth a Naomi
Roedd gwraig o'r enw Naomi yn byw mewn tref o'r enw Bethlehem gyda'i gwr, Elimelech, a'i dau fab, Mahlon a Chilion.
Nawr roedd Bethlehem yng ngwlad Jwdea, y tir lle'r oedd yr Israeliaid wedi byw yn dilyn eu cyfnod fel caethweision yn yr Aifft, a dyma'r lle yr oedd gan bawb fel arfer, ddigonedd i'w fwyta. Yn anffodus, un diwrnod roedd newyn yn y wlad honno (eglurwch ystyr y gair 'newyn' i’r plant), ni chafwyd unrhyw law ac o ganlyniad ni thyfodd y cnydau, ac felly doedd dim digon o fwyd i bawb. Roedd y bobl yn newynog iawn.
Penderfynodd Elimelech ymadael â Bethlehem a symud ei deulu ymhell i ffwrdd i wlad arall o'r enw Moab, lle nad oedd newyn a lle roedd digonedd o fwyd ar gyfer pawb.
Pwyntiwch at yr arwydd ‘Moab’ a gofynnwch i'r actorion gerdded yn araf tuag ato.
Yn drist iawn, ychydig amser ar ôl iddyn nhw gyrraedd Moab, bu farw Elimelech, gwr Naomi (gall yr actor naill ai fynd yn ôl i’w le i eistedd neu orwedd yn llonydd ar lawr), felly gadawyd Naomi yn weddw gyda'i dau fab, Mahlon a Chilion. Fe benderfynodd y ddau fab briodi, pan oedden nhw'n ddigon hen, â dwy eneth Foabaidd, un o'r enw Ruth ac un o’r enw Orpa. Ar ôl ychydig flynyddoedd o fyw'n hapus ym Moab, bu farw Mahlon a Chilion (gall y ddau actor yma 'farw' yn yr un modd), gan adael Naomi heb ei gwr, a nawr heb ei dau fab hefyd.
Ymhen ychydig, penderfynodd Naomi ei bod hi'n amser iddi fynd yn ôl i'w thref enedigol, Bethlehem. Roedd wedi clywed bod pethau wedi gwella yno a bod y newyn ar ben - roedd bwyd i'w fwyta. Pan ddywedodd Naomi wrth ei dwy ferch-yng-nghyfraith ei bod hi am fynd yn ôl i Fethlehem, fe benderfynodd y ddwy i fynd gyda hi. Ond, fel yr oedden nhw'n barod i ymadael â Moab, fe oedodd Naomi am foment. Trodd at ei merched-yng-nghyfraith a dywedodd wrthyn nhw, ‘Pam rydych yn dod gyda mi, ferched? Fe fyddai'n well o'r lawer i chi pe byddech chi’n aros yma yn Moab. Mae eich teuluoedd yn byw yma ac rydych chi’n ifanc - fe allech chi briodi unwaith eto! O ddifrif, rwy'n credu y dylech chi droi yn ôl a mynd yn ôl i Moab a gadael i mi fynd i Fethlehem ar fy mhen fy hun .’
Cymerwch saib yn y stori ar y pwynt hwn a gofynnwch i'r plant pa resymau sy'n dod i'w meddwl a fyddai o blaid i'r merched aros yn Moab.
Cofnodwch y rhesymau hyn ar daflen fawr o bapur. Gofynnwch i ddwy ochr yr ystafell gymryd ochr o blaid Naomi neu o blaid Ruth ac Orpa. Gofynnwch iddyn nhw geisio dwyn perswâd ar y cymeriadau i newid eu meddwl trwy sibrwd rhesymau'n uchel wrthyn nhw - gall y rhesymau sydd wedi eu nodi ar gyfer dwy ochr y neuadd weithredu fel anogeiriau i’r plant.
Efallai y byddwch yn dymuno i'r plant i ddechrau'n dawel a chynyddu'n uwch wrth iddyn nhw ddwyn perswâd ar y cymeriadau i newid eu meddwl! Os ydych yn gwneud hyn, byddai'n syniad da sefydlu yn gyntaf bod gennych chi arwydd y byddwch yn ei roi er mwyn dynodi pa bryd y dylai'r plant roi'r gorau i annog!
Ewch ymlaen â’r stori.
Roedd Orpa yn teimlo’n drist a chollodd lawer o ddagrau wrth gofleidio ei mam-yng-nghyfraith, ond penderfynodd y dylai ddychwelyd adref at ei theulu a'i thraddodiadau. Ond fe benderfynodd Ruth fynd gyda Naomi. Gwrthododd ymadael â hi a gwnaeth yr addewid mwyaf syfrdanol i Naomi. Fe addawodd y byddai'n gadael yr holl bethau eraill hyn y tu cefn iddi a mynd gyda'i mam-yng-nghyfraith. Mewn gwirionedd, fe addawodd na fyddai byth yn gadael Naomi am weddill eu bywyd. - Ail-drafodwch y pethau da a'r pethau drwg a ddigwyddodd i Naomi yn y stori.
Gofynnwch i'r plant ddweud sut roedden nhw’n meddwl oedd Naomi’n teimlo. - Gorffennwch trwy egluro bod pethau trist yn digwydd yn ein byd, ac yn ein bywyd ninnau, ambell dro, ac mae'n gallu ymddangos bod Duw wedi ymbellhau oddi wrthym ac fe allen ni feddwl nad yw'n malio amdanom. Dyna o bosib oedd Naomi yn ei feddwl, ond, fel y gwelsom ar ddiwedd y stori, a byddwn yn canfod mwy o'r hanes ymhellach ymlaen, fe arhosodd Ruth gyda Naomi ac mae Duw yn malio ac yn bresennol gyda hi, er bod pethau yn anodd iawn iddi am gyfnod.
Amser i feddwl
Gadewch i ni dreulio ychydig o amser yn myfyrio'n dawel ar yr hyn yr ydym wedi ei glywed heddiw.
Goleuwch gannwyll os byddwch yn ei defnyddio.
Meddyliwch am y pethau da a'r pethau drwg sydd wedi digwydd neu sydd yn digwydd yn eich bywyd.
Cofiwch, mae yna bobl y gallwch gael sgwrs â nhw os ydych yn teimlo’n drist, felly cofiwch siarad gyda nhw os oes rhywbeth yn eich poeni.
Mae'n dda iawn hefyd gallu rhannu'n llawenydd gyda'n gilydd.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Duw,
Rydyn ni’n gwybod fod bywyd yn gallu bod yn anwastad, gyda phwyntiau uchel a phwyntiau isel.
Diolch i ti am y llawer o bethau da sydd yn ein bywyd.
Atgoffa ni i geisio help yn ystod yr adegau anodd.
A helpa ni i rannu ein hapusrwydd hefyd gyda phobl eraill.
Diolch dy fod ti gyda ni yn ystod yr adegau da a’r adegau drwg.
Amen.