Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth sy'n gwneud ffrind da?

Stori Ruth a Naomi, rhan 2

gan Charmian Roberts

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried beth mae’n ei olygu i fod yn ffrind da.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dau arwydd mawr – un gyda’r gair 'Bethlehem' arno a’r llall â’r gair 'Moab' arno. Gosodwch y rhain gyferbyn â’i gilydd bob ochr i’r ystafell.
  • Ymgyfarwyddwch â’r stori o’r Beibl yn y rhan o lyfr Ruth 1.1-17, sy’n sôn am Ruth yn aros yn ffyddlon gyda Naomi. Fe allwch chi ddefnyddio’r fersiwn o’r stori sydd yma yn rhan y gwasanaeth, neu adrodd y stori yn eich geiriau eich hun.
  • Efallai yr hoffech chi arddangos y geiriau a ddywedodd Ruth wrth Naomi:‘Paid â’m hannog i’th adael, na throi’n ôl oddi wrthyt, oherwydd i ble bynnag yr ei di, fe af finnau; ac ymhle bynnag y byddi di’n aros, fe arhosaf finnau; dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th Dduw di fydd fy Nuw innau. Lle y byddi di farw, y  byddaf finnau farw ac yno y’m cleddir’(Ruth 1:16-17).
  • Os byddwch chi’n defnyddio’r gwasanaeth hwn fel rhan o gyfres, efallai yr hoffech chi atgoffa eich hun o’r rhan flaenorol - ' Mae pwyntiau uchel ac isel mewn bywyd’ –er mwyn gallu cyfeirio at ran gyntaf y stori pan fyddwch chi’n dod at ran 5 y gwasanaeth hwn.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i'r plant beth maen nhw'n ei feddwl sy'n gwneud ffrind da. Gwrandewch ar amrywiaeth o ymatebion.

  2. Wedyn, gofynnwch y cwestiynau canlynol iddyn nhw.

    - Pe byddai ffrind yn eich gwahodd am ddiwrnod i lan y môr, a fyddech chi'n awyddus i fynd?
    - Pe byddai ffrind i chi heb lanhau caets y gwningen, ei anifail anwes, ers mis ac yn eich gwahodd chi i'w helpu gyda'r dasg honno, a fyddech chi'n awyddus i wneud hynny?

    Nodwch ei bod hi'n haws bod yn ffrindiau â rhywun pan fydd pethau'n mynd yn hwylus a ninnau'n mwynhau ein hunain yn hytrach na phan fydd pethau ddim mor hawdd a dymunol.

  3. Gofynnwch i'r plant a oes ganddyn nhw unrhyw enghreifftiau o adegau pan oedd ffrindiau wedi bod yn driw iddyn nhw. Darllenwch yr enghreifftiau sy’n dilyn ynghylch cyfeillgarwch, a gofynnwch i'r plant i ddangos a ydyn nhw'n meddwl bod rhywun wedi bod yn ffrind da ai peidio trwy ddefnyddio eu bawd ar i fyny, neu ar i lawr, fel arwydd.

    - Roedd Mark yn drist iawn yn yr ysgol un diwrnod oherwydd bod ei anifail anwes, 'bochdew', wedi marw. Gofynnodd ei ffrind Seb a fyddai'n cael eistedd wrth ei ochr y diwrnod hwnnw a dywedodd jôc wrtho er mwyn codi ei galon.
    - Cafodd Karen ei gwahodd i barti pen-blwydd Saira, ond ni allai fynd oherwydd bod ei theulu'n ymweld â'i nain y diwrnod hwnnw. Digiodd Saira gyda Karen a dweud wrthi na fyddai'n siarad gyda hi eto.
    - Roedd Joel a Sam yn chwarae gyda phêl-droed Joel. Ciciodd Sam y bêl mor galed fel ei bod wedi hedfan dros y ffens. Aeth Joel yn flin iawn gyda Sam a throdd ar ei sawdl yn wyllt a mynd adref.
    - Sylwodd Gordon fod geneth arall yn annifyr bob amser â'i ffrind Dawn, ac yn chwerthin am ei phen o hyd. Penderfynodd Gordon ddweud wrth yr athrawes am yr hyn a oedd yn digwydd.

  4. Dywedwch wrth y plant fod y stori heddiw yn dangos i ni enghraifft o rywun oedd yn ffrind da iawn.

    Os ydych yn defnyddio hwn fel rhan o gyfres ac yn dymuno gwneud hynny, yna ail-ymwelwch â'r rhan gyntaf o stori 'Ruth a Naomi' o'r gwasanaeth sydd wedi ei gyflwyno eisoes, sef 'Mae pwyntiau uchel ac isel mewn bywyd.'

    Stori Ruth a Naomi (parhad)

    Penderfynodd Naomi ei bod hi'n amser dychwelyd i'w thref enedigol, Bethlehem. Roedd hi wedi bod i ffwrdd oddi yno ers amser hir ac roedd wedi clywed bod y newyn drosodd a bod bwyd ar gael yno i'w fwyta. Pan glywodd ei dwy ferch-yng-nghyfraith, Ruth ac Orpa, fod Naomi yn gadael, fe wnaeth y ddwy benderfynu mynd gyda hi. Ar y ffordd, fodd bynnag, fe ddywedodd Naomi wrthyn nhw am aros ym Moab gyda'u teuluoedd eu hunain. ‘Pam dod gyda mi, ferched?’ gofynnodd. ‘Rydych chi’n ifanc. Fe allech chi aros yma ym Moab gyda'ch teuluoedd a phriodi unwaith eto. Fe af finnau'n ôl i Fethlehem ar fy mhen fy hun.'

    Roedd Orpa yn caru Naomi a dechreuodd grïo. Ond, fe benderfynodd, y byddai hi’n mynd yn ei hôl adref, at ei theulu ac at ei thraddodiadau ei hun, Felly, fe gofleidiodd ei mam-yng nghyfraith, ffarwelio â hi, a mynd yn ôl i Foab.

    Pwyntiwch at yr arwydd ‘Moab’.

    Fodd bynnag, fe arhosodd Ruth gyda Naomi a gwrthododd ildio. Yna, fe wnaeth yr addewid mwyaf rhyfeddol. Fe addawodd y byddai'n gadael popeth ar ei hôl er mwyn mynd gyda'i mam-yng-nghyfraith yn ôl i Fethlehem. Mewn gwirionedd, fe addawodd na fyddai byth yn gadael Naomi tra byddai hi byw.

  5. Os ydych chi wedi dewis arddangos y geiriau a lefarwyd gan Ruth, darllenwch nhw yn y fan hon. Darllenwch yr adnodau o’r Beibl neu dyma aralleiriad o’r geiriau hynny: ‘Peidiwch â gofyn i mi eich gadael chi! Gadewch i mi ddod gyda chi. I ba le bynnag yr ewch chi, fe af innau; ble bynnag y byddwch chi’n byw, fe fyddaf innau'n byw yno. Bydd eich pobl chi yn bobl i mi, a bydd eich Duw chi yn Dduw i mi. Ble bynnag y byddwch chi’n marw, y byddaf finnau’n marw, ac yno y byddaf yn cael fy nghladdu.’

  6. Pwysleisiwch y ffaith bod Ruth wedi rhoi'r cyfan oedd ganddi er mwyn cael mynd gyda Naomi. Fe ddangosodd gyfeillgarwch anghyffredin tuag at Naomi.

Amser i feddwl

Anogwch y plant i feddwl am eu ffrindiau. A ydyn nhw eu hunain yn ffrindiau da i blant eraill? Oes modd iddyn nhw fod yn ffrindiau gwell? Sut byddai modd iddyn nhw ddangos i'w ffrindiau eu bod yn bwysig yn ei golwg?


Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am ein ffrindiau.
Diolch i ti am esiampl Ruth yn y stori hon.
Helpa ni i fod yn ffrindiau da, ar adegau hapus ac ar adegau mwy anodd.
Diolch dy fod ti, beth bynnag fydd yn digwydd i ni, eisiau bod yn ffrind i ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon