Cariad yw....
Mae cariad yn ymwneud â gweithredoedd y ogystal â geiriau
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried mai agwedd ar y galon yw cariad.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen arweinydd ac un neu fwy o ddarllenwyr, i ddarllen y rhan allan o 1 Corinthiaid 13.4-8, sy’n sôn am beth yw cariad.
- Fe fydd arnoch chi hefyd angen nifer o offerynnau taro, fel gong a symbalau, a threfnwch o flaen llaw i nifer o’r plant eu taro mor swnllyd â phosib pan fydd y plant eraill yn dod i mewn i’r gwasanaeth.
- Ysgrifennwch, neu dangoswch trwy gyfrwng o’ch dewis, y dyfyniad Saesneg canlynol, fel y bydd yn bosib i’ch cynulleidfa gyfan ei weld. ‘I like hugs . . . I like kisses, but what I love is help with the dishes!’
Gwasanaeth
- Gofynnwch i’r plant, rydych chi wedi trefnu gyda nhw o flaen llaw, wneud cymaint o swn ag sy’n bosib gyda’r gong a’r symbalau tra bydd y plant eraill yn dod i mewn i’r gwasanaeth.
- Dechreuwch y gwasanaeth trwy roi eich dwylo dros eich clustiau a dweud yn uchel, ‘Rhowch y gorau i wneud y swn mawr yma, ar unwaith, os gwelwch yn dda!’
Yna, trowch at eich cynulleidfa a dweud, ‘Roeddwn i eisiau i chi gael profiad o swn mawr fel yma am ei fod yn ymwneud â’r hyn rydyn ni’n mynd i sôn amdano heddiw.’
Yn y Beibl, mae’n dweud bod rhai pobl yn gallu bod fel y symbalau aflafar a’r gong swnllyd. Ond nid yw’n golygu bod y bobl hynny â lleisiau taranllyd, mawr. Mewn gwirionedd, fe allai’r bobl hynny ymddangos yn bobl dda, pobl grefyddol hyd yn oed. Fe allen nhw fod yn bobl wybodus a deallus iawn, ac fe allen nhw hefyd fod yn bobl glyfar iawn. Mae’n bosib iddyn nhw fod yn bobl sydd â ffydd ddofn yn yr hyn maen nhw’n ei gredu ac yn ymrwymedig i achosion da. Hefyd, fe allen nhw fod yn bobl sy’n cyfrannu llawer o arian at achosion sy’n cefnogi pobl sy’n dlawd ac mewn angen.
Mae’r Beibl yn dweud, fodd bynnag, os yw pobl yn gwneud pob math o bethau da ondheb fod â chariad, a heb fod yn ofalgar tuag at bobl eraill, yna dim ond gong swnllyd ydyn nhw.
Gofynnwch i’r rhai sy’n taro’r offerynnau wneud hynny unwaith eto am foment.
- Mae bod yn glyfar yn beth gwych iawn, wrth gwrs. Felly hefyd credu’n gryf mewn achos da neu roi cyfraniadau ariannol at elusennau. Ond y peth pwysicaf yw caru ein gilydd.
- Mae rhan adnabyddus iawn o’r Beibl, a gaiff ei ddarllen yn aml mewn gwasanaeth priodas, sy’n disgrifio beth yw gwir gariad.
Gofynnwch i’r darllenydd neu’r darllenwyr ddarllen yr adnodau o 1 Corinthiaid 13.4-8. - Nodwch nad yw’r darlleniad hwn yn sôn am y pethau y byddwn ni’n eu cysylltu fel arfer â chariad – pethau fel cofleidio, cusanau, neu symbol o galonnau, ac ati. Yn hytrach mae’n sôn am bethau fel amynedd, caredigrwydd, a pheidio â brolio. Mae’n sôn am yr agwedd yn ein calon tuag at bobl eraill.
- Dangoswch y dyfyniad i’r plant -‘I like hugs . . . I like kisses, but what I love is help with the dishes!’ – yna gofynnwch y cwestiynau canlynol iddyn nhw.
- Pwy, tybed, allai fod wedi dweud y geiriau hyn?
- Beth yw ystyr y geiriau?
- Ydych chi’n meddwl eu bod yn dweud rhywbeth tebyg i’r adnodau, rydyn ni newydd eu clywed, o’r Beibl?
Amser i feddwl
Meddyliwch am y dyfyniad. Fe allwn ni ddangos ein cariad mewn llawer o wahanol ffyrdd.
Sut gallwn ni heddiw ddangos ein cariad tuag at bobl?
Efallai yr hoffech chi wrando ar amrywiaeth o atebion gan y plant.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti ein bod yn gallu profi cariad.
Diolch am y rhai sy’n amyneddgar tuag atom ni ac yn garedig wrthym ni, y rhai hynny sydd ddim yn hunanol ac sy’n gofalu amdanom. Hefyd, diolch am y rhai hynny sy’n maddau i ni pan fyddwn ni’n brifo eu teimladau, ac sydd eisiau’r gorau i ni bob amser.
Diolch dy fod ti’n ein caru ni’n fawr.
Helpa ninnau i ddangos gwir gariad tuag at eraill hefyd.
Amen.