Dal Ati
Archwilio gwerth dyfalbarhau.
gan The Revd Guy Donegan-Cross
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio gwerth dyfalbarhau.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen pluen, ac anrhegion bach fel gwobrau syml.
- Dewisol: darn o fetel, morthwyl, llif, a channwyll.
Gwasanaeth
- Gofynnwch am dri gwirfoddolwr. Fesul un, coswch drwyn pob un gyda’r bluen, gan amseru pa un sy’n gallu dal hiraf heb rwbio’i drwyn! Rhowch wobr syml i’r tri.
- Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n dda am allu dal ati, neu’n dda am allu goddef rhywbeth. Weithiau rydych chi’n gorfod gwneud hynny. Adroddwch y stori yma, gan ddefnyddio cymhorthion gweledol, os yn bosib.
Un tro, roedd darn o haearn, a oedd yn gryf iawn ac yn galed iawn. Roedd sawl un wedi ceisio torri’r darn haearn, ond roedd pob un wedi methu.
‘Fe allaf i dorri’r haearn,’ meddai’r fwyell. Disgynnodd y fwyell yn drom ar y darn haearn dro ar ôl tro, ond yr unig beth oedd yn digwydd oedd bod y fwyell yn mynd yn hollol ddi-fin, ac fe roddodd y gorau i geisio torri’r bar haearn.
‘Gad i mi wneud,’ meddai’r llif. Ac fe lifiodd y llif yn ôl ac ymlaen ar hyd ymyl yr haearn, yn ôl ac ymlaen, nes roedd dannedd y lli wedi camu ac wedi torri. Fel y fwyell o’i blaen, rhoddodd y llif y gorau i geisio torri’r haearn, a disgyn i’r ochr.
‘O!’ meddai’r morthwyl, ‘Fe wyddwn i na fyddech chi’n llwyddo. Fe ddangosaf fi i chi sut mae gwneud hyn!’ Ond gyda’r trawiad cyntaf, fe hedfanodd pen y morthwyl i ffwrdd. Roedd y darn haearn yn dal yr un fath, heb newid dim, yn galed a chryf.
‘Tybed a ddylwn i roi cynnig arni?’ holodd y fflam fechan. ‘Anghofia’r peth!’ meddai’r fwyell, y llif a’r morthwyl gyda’i gilydd. ‘Beth allet ti ei wneud? Rwyt ti’n rhy fach ac yn rhy wan.’
Ond, doedd y fflam ddim am wrando arnyn nhw. Yn hytrach fe gyrliodd ei hun am y bar haearn a’i gofleidio, heb symud, nes y toddodd yr haearn o dan ddylanwad di-ildio ac anorchfygol y fflam. - Mae’r Beibl yn dweud, ‘Nid yw cariad yn darfod byth.’ Ac mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi dal ati, hyd yn oed pan oedd bywyd yn galed iawn – pan oedd pobl yn ei wrthwynebu, yn ei erlid, ac wrth iddo farw hyd yn oed – am ei fod yn ein caru ni. Dyna pam y mae Cristnogion yn credu nad yw Duw byth yn rhoi’r gorau iddi.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Gofynnwch i’r plant feddwl am rywbeth gwirioneddol anodd sy’n eu hwynebu ar hyn o bryd - efallai bod ganddyn nhw ryw waith sy’n anodd ei ddeall, efallai eu bod yn ceisio bod yn ffrindiau â rhywun, neu rywbeth felly. Yn eu ffordd eu hunain, fe allan nhw ofyn i Dduw eu helpu i ddal ati.
Gweddi
Diolch nad wyt ti byth yn rhoi’r gorau i ni, hyd yn oed pan fyddwn ni’n gweld bywyd yn anodd.
Helpa ni i ddal ati, ac i ddyfalbarhau, hyd yn oed pan fyddwn ni’n teimlo'n wan iawn ac ar fin rhoi’r gorau iddi.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Mai 2003 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.