Heriau Newydd
Gwneud yn fawr o bob cyfle
gan the Revds Trevor and Juliet Donnelly (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2006)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Annog y plant i wneud yn fawr o bob cyfle a bod yn barod i wynebu heriau newydd.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen rhestr o ddeg o wahanol heriau syml. Fe allwch chi feddwl am rai eich hunan, defnyddio’r rhai sy’n cael eu rhoi i chi yma yng Ngham 2 y Gwasanaeth, neu addasu’r rheini i fod yn briodol ar gyfer eich cynulleidfa chi. Os byddwch chi’n defnyddio’r rhai sy’n cael eu hawgrymu, fe fydd arnoch chi angen rhai balwnau modelu, lyfr clawr caled a cherddoriaeth addas ar gyfer dawnsio iddi.
- Hefyd, efallai yr hoffech chi lunio ‘Tystysgrifau Llwyddiant’ ar gyfer y plant fydd yn llwyddo i gyflawni’r heriau, ond dewisol fyddai hynny.
Gwasanaeth
- Cyflwynwch y thema ‘heriau’ – hynny yw, profion neu gystadlaethau sy’n gofyn i ni wneud ein gorau i gyrraedd nod penodol.
- Dywedwch wrth y plant fod gennych chi ambell her iddyn nhw. Darllenwch eith rhestr o heriau gan ofyn am wirfoddolwr i wneud pob her yn ei thro.
Defnyddiwch y rhestr ganlynol, neu eich rhestr eich hunan.
- Canu ‘Mi welais Jac-y-do’.
- Gosod llyfr ar eich pen, a cherdded deg cam heb afael yn y llyfr, a heb iddo ddisgyn.
- Dweud dau beth neis wrth un o’ch athrawon.
- Cymryd arnoch fod yn unrhyw anifail o’ch dewis chi, a gofyn i weddill y plant ddyfalu pa anifail ydych chi.
- Dweud jôc.
- Adrodd tabl 7.
- Gwneud model â’r balwns.
- Dawnsio am 30 siliad.
- Dysgu gair o ryw iaith arall (sydd ddim yn un o brif ieithoedd yr ysgol) i’r gynulleidfa.
- Gwneud 10 naid seren neu 5 ‘press-up’.Wedyn, os byddwch chi’n dymuno gwneud hynny, cyflwynwch Dystysgrif Llwyddiant i bob un o’r plant fydd wedi cyflawni’r tasgau.
- Siaradwch am heriau y gallai’r plant fod yn eu hwynebu o ddydd i ddydd – ymuno â chlybiau ar ôl ysgol, rhoi cynnig ar chwaraeon newydd, symud i fyw i dy arall, gwneud ffrindiau newydd, a hyd yn oed y cyfleoedd a’r heriau a allai ddod i’w rhan pan fyddan nhw ar eu gwyliau.
Eglurwch fod llawer o bethau da yn dod i ran pob un ohonom yn ystod ein bywyd, fel cwrdd â’r gwahanol bobl sy’n byw ochr yn ochr â ni, y gwahanol brofiadau rydyn ni wedi eu cael, ac mae’r byd cyfan gennym i’w archwilio, i ddysgu amdano, ac i’w fwynhau.
Ambell waith, fel yr heriau sydd wedi eu cyflawni yn y gwasanaeth heddiw, fe allai’r hyn a fydd yn dod i’n rhan fod ychydig yn anodd, neu efallai braidd yn frawychus hyd yn oed. Yr unig ffordd i fynd i’r afael â her yw camu ymlaen a gwneud yr hyn sydd raid ei wneud – pa un ai canu ‘Mi welais Jac-y-do’ fyddai hynny, neu siarad â rhyw rai rydyn ni’n cwrdd â nhw am y tro cyntaf, neu unrhyw her arall y gallwn ni fod yn ei hwynebu yn y dyfodol.
Amser i feddwl
Caewch eich llygaid a threuliwch foment yn meddwl yn dawel am unrhyw her sydd o’ch blaen . . . rhyw dasg anodd rydych chi’n ei hwynebu . . .
Nawr, dychmygwch eich hunan yn cyflawni’r her honno . . .
Dychmygwch fod yr her hon yn eich gwneud yn gryfach ac yn ddoethach . . . a theimlwch yn gadarnhaol eich bod yn mynd i wneud y gorau, a llwyddo.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr holl gyfleoedd rwyt ti wedi eu rhoi i ni.
Helpa ni i wneud yn fawr o’n hamser yn yr ysgol, i ddysgu ac i fwynhau popeth posib.
Helpa ni i annog eraill i wneud eu gorau, hefyd.
Rydyn ni’n gweddïo dros bawb sy’n teimlo’n nerfus am yr heriau newydd sydd o’u blaen.
Boed iddyn nhw dyfu trwy brofiadau newydd, a dod o hyd i lawenydd ym mha beth bynnag a fydd yn dod i’w rhan.
Amen.