Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Crym y gwynt (Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi’)

gan by Revd Sylvia Burgoyne

Addas ar gyfer

  • Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Archwilio ystyr y Pentecost.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
  • Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
  • Fe fydd arnoch chi hefyd angen detholiad o wrthrychau sy’n cael eu heffeithio gan y gwynt neu gan awyr yn cael ei chwythu, fel melin wynt, rhubanau, chwiban, recorder a channwyll.

Gwasanaeth

  1. Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’

    Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.

    Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!

  2. Roedd hi wedi 9 o’r gloch ar fore Sadwrn, ac roedd Sgryffi’n teimlo fod arno eisiau bwyd yn ofnadwy. Roedd yn methu â deall ble’r oedd Liwsi Jên. Roedd arno eisiau ei frecwast! DechreuoddSgryffi alw’n uchel, ‘Hi hi, hi ho!’

    Holwch y plant ydyn nhw’n gallu dyfalu ble’r oedd Liwsi Jên.

    Roedd Liwsi Jên yn dal yn ei gwely! Doedd hi ddim yn teimlo fel codi. Roedd y diwrnod yn edrych yn llwyd a diflas y tu allan, ac roedd ei gwely’n gynnes, yn glyd, a diogel.

    Holwch y plant ydyn nhw, ambell waith yn teimlo fel cael aros yn y gwely braf am ychydig mwy o amser yn y bore.

    Yn sydyn, fe glywodd Liwsi Jên Sgryffi’n galw. Fe ddringodd allan o’i gwely ac agor y ffenest.

    ‘Sgryffi!’ galwodd arno. ‘Bydd rhaid i ti aros. Dwi ddim yn barod eto!’

    Roedd hi bron yn10 o’r gloch pan gerddodd Liwsi Jên ar draws y buarth a rhoi ei frecwast i Sgryffi. Roedd Sgryffi’n teimlo’n drist. Fe fyddai bob amser yn edrych ymlaen at bob bore Sadwrn pan fyddai dim rhaid i Liwsi Jên fynd i’r ysgol, ac y byddai’n dod i gadw cwmni iddo fo. Ond heddiw, doedd hi ddim yn ei hwyliau arferol. Doedd hi ddim yn teimlo fel gwneud unrhyw beth.

    ‘Hi hi, hi ho!’ gweryrodd Sgryffi’n dawel.

    ‘OK, Sgryffi,’ dywedodd Liwsi Jên. ‘Fe allwn ni fynd am dro bach sydyn.’

    Dringodd Liwsi Jên ar gefn Sgryffi ac fe aethon nhw’n araf i gyfeiriad y ddôl wrth ymyl yr afon fach. Roedd pob man yn rhyfeddol o dawel a llonydd, ac roedd hyd yn oed yr adar bach yn ddistaw.

    Yna, yn sydyn, fe ddechreuodd y tywydd newid. Ar y dechrau, fe gododd awel dyner, ond yn fuan wedyn roedd y gwynt yn chwythu’n gryf. Fe benderfynodd Liwsi Jên droi Sgryffi yn ei ôl er mwyn iddyn nhw fynd adre. Roedd hi’n gallu teimlo nerth y gwynt y tu ôl iddyn nhw wrth iddyn nhw groesi’r ddôl. Roedd Sgryffi’n gallu teimlo’r gwynt yn ei chwythu o’r tu ôl iddo hefyd, ac fe ddechreuodd drotion yn gynt ac yn gynt. Roedd fel petai’r gwynt yn chwarae gyda nhw. Roedd y gwynt yn eu gwthio ymlaen. Roedd yn amhosib aros yn llonydd. Mewn eiliad roedd hwyliau Liwsi Jên wedi newid yn hollol. Roedd hyn yn hwyl!

    ‘We hei . . . rydyn ni’n hedfan. . .ymlaen â ni, Sgryffi!’ galwodd ar dop ei llais, a’i gwallt yn chwifio yn y gwynt. ‘Rydyn ni’n mynd yn gyflymach ac yn gyflymach!’

    ‘Hi hi, hi ho!’ gweryrodd Sgryffi, yn llawn cyffro.

    Mewn dim amser bron, roedden nhw’n ôl ar fuarth y fferm. Roedd bochau Liwsi Jên yn goch a’i llygaid yn disgleirio. Roedd y gwynt wedi chwythu’r cymylau llwyd i ffwrdd ac roedd wedi chwythu’r hwyliau drwg i ffwrdd, roedd yr awyr yn las, ac roedd yr haul wedi dechrau tywynnu a Lwisi Jên yn hapus eto.

    ‘Dyna hwyl, ’nde Sgryffi! Wyt ti ddim yn cytuno?’ gofynnodd Liwsi, gan roi mwythau i Sgryffi. ‘Dwi’n teimlo’n hapus iawn! Mae heddiw’n mynd i fod yn ddiwrnod da wedi’r cwbl!’

    Wrth gwrs, fe nodiodd Sgryffi a dweud ‘Hi ho, hi ho!’ Roedd yntau’n teimlo’n hapus hefyd!

    Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.

  3. Nawr, gadewch i ni wrando ar stori o’r Beibl y byddai Pedr, un o ddisgyblion arbennig Iesu, yn hoffi ei hadrodd wrthym ni.

Roedden ni wedi bod yn teimlo’n drist iawn ar ôl i Iesu farw ar y groes. Ond dri diwrnod wedyn, fe ddaeth Iesu’n ôl yn fyw, ac fe ddaeth i siarad â ni. Fe wnaethon ni rannu pryd o fwyd gyda’n gilydd hyd yn oed! Fe wnaeth hynny i ni deimlo’n hapus iawn. Ar ôl 40 diwrnod, fe aeth Iesu yn ei ôl i’r nefoedd. Ond cyn iddo fynd, fe wnaeth addewid i ni na fyddai’n ein gadael ar ben ein hunain. Fe wnaeth addo y byddai’n anfon cynorthwyydd, sef ei Ysbryd Glân, i fod gyda ni am byth.

Doedden ni ddim yn deall yn iawn beth oedd Iesu’n ei olygu, ond roedden ni’n credu’r hyn roedd yn ei ddweud wrthym ni, felly fe wnaethon ni aros iddo gyflawni ei addewid. Roedden ni’n aros mewn ystafell i fyny’r grisiau mewn adeilad yn Jerwsalem, yn meddwl tybed beth fyddai’n digwydd nesaf. Roedden ni wedi cloi’r drysau i’r ystafell. Roedden ni’n rhy ofnus i fynd allan i’r stryd rhag ofn i’r milwyr ein harestio fel y gwnaethon nhw arestio Iesu.

Mae’n anodd disgrifio beth ddigwyddodd wedyn. Roedd fel petai gwynt cryf wedi rhwygo i mewn i’r ystafell. Fe chwythodd y gwynt hwn drosom ni i gyd, ond doedden ni ddim yn teimlo’n oer. Yn hytrach, roedd pob un ohonom yn teimlo’n gynnes braf, fel pe baem yn cael ein cynhesu gan lawer o fflamau bychain o dân. Yn sydyn, roedden ni’n teimlo fel pobl hollol wahanol. Doedden ni ddim yn gallu aros yn yr ystafell ddim mwy, wedi ein cloi yno. Fe wnaeth grym y gwynt ein hanfon allan i’r strydoedd, ac roedd arnom ni eisiau gweiddi ar bawb, ‘Dydi Iesu ddim wedi marw. Mae Iesu’n fyw! Mae wedi fy llenwi â grym, a does arna i ddim ofn mwyach!'

Dyna ddiwrnod rhyfeddol oedd hwnnw, a dim ond dechrau oedd hyn ar antur fawr wnaeth barhau am weddill ein hoes. Roedd yn rhaid i ni gael dweud wrth bawb, ym mhob man, am Iesu.

Doedd hyn ddim yn hawdd, ond roedd yr Ysbryd Glân gyda ni bob amser yn ein cadw ni’n gryf.

Amser i feddwl

Gwahoddwch y plant i ddangos effaith y gwynt ar yr eitemau dydd gennych chi wedi eu casglu ynghyd. Ceisiwch eu hannog i deimlo cynhesrwydd yr aer pe bydden nhw’n anadlu’n dyner ar gefn eu llaw.

Gweddi
Annwyl Dduw Dad,
Diolch i ti am y gwynt.
Diolch i ti, er na allwn ni weld y gwynt, ein bod ni’n gallu gweld yr effaith mae’n gallu ei gael.
Diolch i ti bod y gwynt yn gallu gwneud i frigau’r coed siglo, ac yn gallu gwneud i’r cymylau symud ar draws yr awyr.

Gofynnwch i’r plant ychwanegu eu hawgrymiadau hwythau.

Er nad ydyn ni’n gallu dy weld di, Dduw, helpa ni i fod yn ddewr pan fyddwn ni’n teimlo’n ofnus.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon