Trwy'r Amser
Fe allwn ni weddïo ar unrhyw adeg
gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio’r gred Gristnogol y gallwn ni weddïo ar Dduw ar unrhyw adeg.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen detholiad o wrthrychau sy'n cynrychioli sut rydym yn cyfathrebu â phobl eraill, er enghraifft, ffôn symudol, teclyn walkie-talkie, ffôn cwpan-a-llinyn, neges e-bost wedi ei hargraffu, a llythyr.
- Fe fydd arnoch chi hefyd angen diffiniad o’r gair ‘cyfathrebu’, a’r gair ‘CYFATHREBU’ wedi ei ysgrifennu fesul llythyren y’’n fawr ar ddalennau unigol o bapur neu gerdyn gyda phob llythyren wedi ei hysgrifennu ar wahân (cofiwch mai un llythyren yw ‘TH’.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i naw o blant ddod atoch chi i’r tu blaen. Rhowch un llythyren i bob plentyn ar hap, iddyn nhw geisio gweld pa air y byddan nhw’n gallu ei ffurfio gyda’r llythrennau ‘CYFATHREBU’. Anogwch y gynulleidfa i helpu hefyd trwy roi awgrymiadau i’r naw plentyn.
Os na fydd y plant yn gallu dyfalu beth yw’r gair rydych chi’n gobeithio y byddan nhw’n ei ffurfio, rhowch ambell gliw iddyn nhw i’w helpu. Pan fyddan nhw wedi cael yr ateb (neu pan fyddwch chi wedi dweud wrthyn nhw !) gofynnwch i’r naw sefyll mewn trefn fel ei bod yn bosib i chi sillafu’r gair ‘cyfathrebu’ a’r gynulleidfa i gyd yn gallu gweld. - Holwch y plant beth yw ystyr y gair, ac os oes gennych chi ddiffiniad o’r gair cyfathrebu, fe all un o’r plant ddarllen hwnnw i chi – gallai’r diffiniad fod yn rhywbeth fel ‘trosglwyddo neu gyfnewid gwybodaeth, syniadau, neu deimladau’.
- Siaradwch am y ffyrdd y mae’r plant efallai wedi bod yn cyfathrebu eisoes heddiw, er enghraifft, siarad, ateb ffôn, gwenu, gwneud ystumiau â’r wyneb, ateb y gofrestr, ac ati.
- Dangoswch i’r plant y casgliad sydd gennych chi o rai enghreifftiau o gyfryngau cyfathrebu. Holwch beth sy’n dda, a beth sydd ddim mor dda, ynghylch pob un. Er enghraifft, mae ffôn symudol yn ffordd ardderchog i chi gyfathrebu â phobl eraill, hyd yn oed pan na fyddwch chi gartref; ond mae’n hawdd colli teclyn mor fach, ac ar rai adegau mae gofyn i chi ddiffodd y ffôn ac wedyn does neb yn gallu cysylltu â chi. Mae e-bost yn ffordd dda o gyfathrebu â rhywun os nad dydych chi eisiau tarfu ar y person hwnnw ar y pryd rhag ofn ei fod ef neu hi’n brysur; ond fe allai rhai pobl fod am ddyddiau cyn darllen eu negeseuon e-bost!
- Eglurwch fod pwyntiau cadarnhaol a phwyntiau negyddol yn perthyn i bob ffurf o gyfathrebu, ond does dim un yn gallu rhoi mynediad ar unwaith i chi 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
- Mae Cristnogion yn credu bod Duw ar gael iddyn nhw siarad ag ef bob amser. Maen nhw’n credu nad oes unrhyw foment pan na fydd Duw’n gwrando arnyn nhw. Mae hynny’n gallu dod â chysur mawr i bobl oherwydd eu bod yn teimlo na fyddan nhw byth ar ben eu hunain mewn difri.
Mae Salm 121.4 yn dweud wrthym ni, ‘Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno.’
Amser i feddwl
Fyddwch chi weithiau’n teimlo’n unig? Fyddwch chi weithiau’n teimlo eich bod ar ben eich hun ac yn ofnus? Mae llawer o grefyddau’n credu bod Duw gyda ni bob amser, ac y gallwn ni siarad ag ef ar unrhyw adeg.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti gyda ni bob amser, ac yno bob amser i ni allu siarad â thi.
Diolch dy fod ti yn fy neall i pan fydd pobl eraill ddim yn fy neall.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2016 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.