Saying Goodbye at the End of Term
Meddwl am bethau’n dod i ben, a beth mae’n ei olygu i ddweud ffarwel.
gan Manon Ceridwen Parry (revised, originally published in 2010)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl am bethau’n dod i ben, a beth mae’n ei olygu i ddweud ffarwel.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch restr o wahanol ffyrdd o ddweud ffarwel mewn gwahanol ieithoedd (gwelwch rhif 3).
Gwasanaeth
- Eglurwch ei bod hi bron yn ddiwedd y tymor (neu’n ddiwedd blwyddyn ysgol) a’ch bod chi eisiau dweud ffarwel wrth rai o’r disgyblion.
- Soniwch y byddai’n ddiddorol sylwi ar wahanol ffyrdd o ddweud ffarwel mewn gwahanol ieithoedd.
Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu dweud ffarwel mewn unrhyw iaith arall. Ailadroddwch bob gair ac annog pawb i’w hailadrodd gyda chi. (Dyma gyfle i ddathlu’r amrywiaeth o ddiwylliant/ieithoedd sydd yn yr ysgol.) - Eglurwch fod ystyr gwahanol i ambell gyfarchiad ffarwelio, pe byddech chi’n eu cyfieithu’n llythrennol. (Dangoswch y rhestr geiriau ac egluro’u tarddiad.) Mae’r geiriau i gyd yn golygu ffarwel, ond mae ystyr ychydig yn wahanol i bob un.
- hwyl fawr Cymraeg Llawer o hwyl
- good bye Saesneg Duw fo gyda chi (God be with you)
- adios Sbaeneg Rydych chi’n mynd at Dduw
- au revoir Ffrangeg Nes byddwn ni’n cwrdd nesaf
- auf wiedersehen Almaeneg Nes byddwn ni’n gweld ein gilydd nesaf
- aloha iaith Hawaii Cariad a heddwch (i ddweud helo a ta ta)
- ciao Eidaleg Fi yw dy gaethwas. Fe fydda i yno i ti
(i ddweud helo a ta ta)
- shalom Hebraeg Tangnefedd / heddwch
Pwysleisiwch mor hyfryd yw dymuno ‘heddwch’ a ‘hwyl’ a ‘chariad’ i’r naill a’r llall wrth i ni wrth i ni ymadael â’n gilydd. - Ond mae ffarwelio’n gallu bod yn anodd ambell dro, ac weithiau fe fyddwn ni’n dweud rhywbeth doniol er mwyn gwneud pethau’n haws. ‘Wela i di wedyn.’ . . . ‘Dim os bydda i wedi dy weld ti’n gyntaf!’
Mae dywediad poblogaidd yn Saesneg , ‘See you later’. Ond pe byddwn i’n dweud, ‘See you later, alligator’, fyddech chi’n gwybod beth i’w ddweud fel ateb? Yr ateb yw, ‘In a while, crocodile’ (daw’r dywediad o gân boblogaidd a ryddhawyd yn 1955 gan Bill Haley and the Comets, wedi’i hysgrifennu gan Bobby Charles). - Ond, hyd yn oed ar ôl clywed yr holl wahanol eiriau, mae un arall da yn Gymraeg rydw i’n hoff iawn ohono, dydw i ddim wedi sôn amdano, sef ‘Da bo chi’. Pam rydw i’n hoff o’r dywediad yma? Am mai’r ystyr yw ‘Duw fo gyda chi’, fel y Saesneg ‘Good bye’. A dyna beth yw fy nymuniad i chi dros y gwyliau sydd o’n blaenau ni -‘Duw fo gyda chi i gyd.’
Amser i feddwl
Gweddi
Rydyn ni’n diolch i ti, Dduw,
am yr holl ieithoedd mae pobl yn gallu eu siarad
ac rydyn ni wedi dysgu amdanyn nhw heddiw.
Helpa ni i ddangos heddwch a chariad tuag at ein gilydd.
Rydyn ni’n gweddïo y byddwn ni’n cael llawer o hwyl dros y gwyliau
ac y byddwn ni’n cofio, ble bynnag y byddwn ni,
dy fod ti yno gyda ni hefyd.
Cân/cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir
Efallai yr hoffech chi lwytho i lawr y gân, ‘See you later, alligator’ gan Bill Haley and the Comets, i’w chwarae wrth i’r plant fynd allan o’r gwasanaeth.
Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2016 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.