Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae’r Cynllun yn Datblygu

Stori Ruth a Naomi, rhan 5

gan Charmian Roberts

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried bod Cristnogion yn credu bod gan Dduw gynllun ar gyfer ein bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen tun bisgedi sy'n cynnwys cerrig mân neu ddarnau bach o frigau; cyflenwad o fisgedi (gwnewch yn siwr bod y rhain yn cydymffurfio â pholisïau eich ysgol ynghylch alergedd); potel persawr; blanced neu siôl; a doli babi.
  • Fe fydd arnoch chi angen rhywfaint o ‘brops’ hefyd sy'n gysylltiedig â phriodas, megis conffeti, fêl a modrwyau priodas. Fe fyddai delweddau o’r props hyn yr un mor addas hefyd.
  • Mae'n bosibl y byddwch yn dymuno ymgyfarwyddo â'r gwasanaethau blaenorol yn y gyfres hon am Ruth a Naomi:

Dyma’r cysylltiadau i’r fersiynau Saesneg. Mae’r fersiynau Cymraeg i’w cael hefyd ar adran Gymraeg y wefan:
- ‘Mae pwyntiau uchel ac isel mewn bywyd’, ar gael ar at: http://cymru.assemblies.org.uk/pri/2478/mae-pwyntiau-uchel-ac-isel-mewn-bywyd
-‘Beth sy'n gwneud ffrind da?’, ar gael ar at: http://cymru.assemblies.org.uk/pri/2514/beth-sy-n-gwneud-ffrind-da
- ‘Gofalu am bobl dlawd’, ar gael ar at: http://cymru.assemblies.org.uk/pri/2527/gofalu-am bobl-dlawd
- ‘Helping others’, ar gael ar at:http://www.assemblies.org.uk/pri/2620/helping-others

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y tun bisgedi i'r plant a dywedwch eich bod yn mynd i roi bisged i'r person cyntaf sy'n gallu enwi tri o'r bobl sy'n ymddangos yn y stori Feiblaidd am Ruth. Dewiswch blentyn i ateb ac, os ydyw'n ateb yn gywir, gwahoddwch ef neu hi i ddod ymlaen i dderbyn y fisged.
    Fodd bynnag, pan fydd y plentyn yn agor y tun mae'n cael ei synnu!  Yn lle'r bisgedi, y cyfan sydd yn y tun yw cerrig bach neu frigau. Gofynnwch i'r plentyn a yw wedi cael syrpreis, ac os ydyw, a oedd yn syrpreis da neu un gwael. Yna, gwobrwywch y plentyn â bisged o ffynhonnell wahanol, neu os yw’n well gennych chi rhowch sticer i’r plentyn am eich helpu yn lle rhoi bisgeden. Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw wedi cael syrpeis da neu ddrwg ryw dro, a gofynnwch i rai o'r plant  rannu'r profiadau hynny â gweddill y gynulleidfa.

  2. Atgoffwch y plant fod llawer o ddigwyddiadau a oedd yn peri syndod i’w cael yn stori Ruth. Bu rhai o'r digwyddiadau a oedd yn peri syndod yn ddigwyddiadau da, ond bu rhai eraill yn ddigwyddiadau gwael. Defnyddiwch hyn fel cyfle i ail-ymweld â'r stori - gweler y gwasanaethau sydd wedi eu rhestru uchod yn yr adran 'Paratoad a deunyddiau'. Clywsom sut y gwnaeth Duw helpu Ruth a Naomi trwy ddarparu bwyd i'w fwyta, a heddiw, rydym yn gweld sut mae cynllun Duw ar gyfer Ruth a Naomi’n dechrau datblygu.

  3. Dywedwch wrth y plant, yn y stori heddiw, mae rhywun yn cael ei synnu'n enfawr. A ydyn nhw'n gallu dyfalu pwy tybed? Dangoswch y botel bersawr, y blanced, y fêl a'r conffeti (neu unrhyw gyfarpar arall y gwnaethoch chi benderfynu ei ddefnyddio) a gofynnwch i'r plant godi eu llaw pan fyddan nhw’n clywed am un o'r gwrthrychau hynny yn cael ei grybwyll yn y stori wrth i chi ei hadrodd.

Stori Ruth a Naomi (parhad)

Roedd Naomi mor falch bod ganddi ei merch-yng-nghyfraith, Ruth, i ofalu amdani. Bu Ruth yn help mawr iawn iddi ar y daith hir yn ôl i Fethlehem. A thrwy loffa, roedd y ddwy wedi gallu cael  gafael ar ddigon o fwyd i'w fwyta. Roedd Naomi’n dymuno gwneud rhywbeth ar gyfer Ruth, er mwyn cael ei had-dalu am yr holl garedigrwydd yr oedd wedi ei ddangos tuag ati.

Nawr, yn y dyddiau hynny yn Israel, nid oedd merched yn cael hawl i ddal swydd ac ennill arian iddyn nhw eu hunain. Felly, oherwydd nad oedd gwr gan y naill na'r llall, fe fyddai'n rhaid iddyn nhw eu dwy ddibynnu ar garedigrwydd pobl eraill er mwyn cael bwyd a lloches.

‘Pe byddai Ruth ddim ond yn gallu cael gwr!’ meddyliodd Naomi. ‘Yna, fe fyddai'n hapus ac yn ddiogel a byddai ganddi bob amser ddigon i'w fwyta.’
Dechreuodd Naomi feddwl . . .

Un diwrnod, galwodd Naomi ar Ruth i ddod ati, ac fe ddywedodd wrthi, ‘Fy merch, onid yw'n amser i mi gael hyd i gartref i ti lle byddi'n hapus? Wel, Rydw i wedi cael syniad! Wyt ti'n cofio Boaz, ein perthynas, a fu mor garedig wrthyt ti pan fuest ti'n lloffa yn ei faes?  Wel, bellach mae'r cynhaeaf drosodd, a bydd ef a'i ddynion yn dyrnu'r haidd heno ar y llawr dyrnu. Ruth, rhaid i ti ymolchi, gwisgo dy wisg orau a rhoi dipyn o bersawr (daliwch y botel i fyny)a mynd i lawr i'r llawr dyrnu. Ond cadw dy hun yn y cysgodion! Paid â gadael i neb dy weld nes y bydd Boaz wedi gorffen bwyta ac yfed, ac y bydd wedi rhoi ei hun i orffwys. Yna, ymgripia tuag ato, symud y gorchudd oddi ar ei draed a gorwedd wrth ei draed. Bydd ef yn dweud wrthyt beth i'w wneud.’

Meddyliodd Ruth fod yr hyn yr oedd ei mam-yng-nghyfraith yn gofyn iddi ei wneud, yn beth od iawn, ond er hynny fe ufuddhaodd. Gwisgodd ei dillad gorau, rhoi ychydig o bersawr ar ei chorff (daliwch y botel i fyny eto) ac aeth i lawr i gyfeiriad y llawr dyrnu. Yno, gwelodd Boaz gyda'r dynion eraill, yn bwyta ac yfed, ac yn gwarchod y domen fawr o rawn roedden nhw wedi ei ddyrnu. Cadwodd yn y cysgodion hyd nes y gwelodd Boaz yn gorwedd i gysgu, a phan roedd hi'n sicr ei fod yn cysgu, ymgripiodd tuag ato, symudodd y gorchudd oddi ar ei draed a gorwedd i lawr wrth ei draed.

Ymhen ychydig, cafodd Boaz ei ddychryn gan rywbeth. Deffrodd yn sydyn a rhyfeddodd wrth ddarganfod Ruth yn gorwedd wrth ei draed!

Dywedodd Ruth wrtho, ‘Taena gornel dy flanced (daliwch y blanced i fyny)drosof, gan mai ti yw’r un sydd wedi ein helpu ni, ac rwyt ti’n berthynas i mi.’

  1. Gofynnwch i'r plant pa ddigwyddiadau oedd yn peri syndod yn y stori hon. Synnwyd Boaz yn fawr iawn! Gallai’r hyn roedd Ruth yn ei wneud ymddangos braidd yn ddieithr i ni, ond dyna oedd y traddodiad yn y wlad honno. Mae llawer o draddodiadau sy'n ymwneud â phriodas fel, er enghraifft, pan fydd dyn yn ymostwng ar un ben-glin i ofyn i ferch ei briodi, neu brynu modrwy ac ati. Pan ddywedodd Ruth, ‘Taena gornel dy blanced drosof,' yr hyn yr oedd hi'n ei feddwl o ddifrif oedd, ‘Boaz, a wnei di fod yn gynorthwywr ac amddiffynnwr i mi, yn wr i mi?’

Stori Ruth a Naomi (parhad)

Roedd Boaz wrth ei fodd pan sylweddolodd fod Ruth yn dymuno ei briodi ac aeth ati ar frys i drefnu'r briodas. Roedd Boaz yn ddyn cyfoethog, a hefyd yn ddyn a oedd yn caru Duw ac yn ufuddhau i'w ddeddfau. Gwyddai, trwy briodi Ruth y byddai hefyd yn cymryd ei mam-yng-nghyfraith, Naomi, i'w gartref ac yn gofalu amdani hithau hefyd. Fe ddaeth dydd y briodas. Ymwisgodd y briodferch a'r priodfab eu dillad gorau(daliwch y fêl i fyny)a gwnaethant eu haddewidion y naill i’r llall i fyw ynghyd a gofalu am ei gilydd am byth. Bu dathlu mawr (daliwch y conffeti i fyny)a gwledda ymhell i'r nos. Roedd Boaz a Ruth yn hapus dros ben.

Ychydig amser yn ddiweddarach, beichiogodd Ruth a chafodd fabi – bachgen bach (daliwch y ddol i fyny). Dyna hapus oedd Naomi wrth iddi ddal ei hwyr bach yn ei breichiau a gofalu amdano. Fe wnaeth y merched a oedd o gwmpas Naomi a Ruth foli Duw gan ddweud, ‘Gwelwch sut mae Duw wedi gofalu amdanoch chi, Naomi! Daethoch i Fethlehem heb ddim ond tristwch yn eich calon, ac yn awr edrychwch! Mae gennych chi wyr bach hardd! Fe wnaeth Ruth, eich merch-yng-nghyfraith, a ddangosodd gymaint o gariad tuag atoch, roi i chi'r anrheg fwyaf gwerthfawr i gyd!’

Atgoffwch y plant y bu llawer o ddigwyddiadau oedd yn peri syndod yn stori Ruth. Bu rhai o'r digwyddiadau oedd yn peri syndod yn dda, ond bu rhai yn ddrwg. Defnyddiwch hyn fel cyfle i ail-ymweld â'r stori - gweler y gwasanaethau sydd wedi eu rhestru uchod yn 'Paratoad a deunyddiau'. Clywsom sut y gwnaeth Duw helpu Ruth a Naomi trwy ddarparu bwyd i'w fwyta, a heddiw, rydym yn gweld sut y mae cynllun Duw ar gyfer Ruth a Naomi yn dechrau datblygu.

Amser i feddwl

Rhoddodd Ruth a Naomi eu hymddiriedaeth yn Nuw i'w helpu. Roedden nhw'n ymwybodol gymaint yr oedd ef wedi eu helpu yn eu bywyd eisoes, ac roedden nhw'n gwybod fod gan Dduw gynllun da ar eu cyfer. Yn y stori heddiw, gwelsom fel yr oedd cynllun Duw ar gyfer Ruth yn parhau i ddatblygu, trwy'r pethau syml yr oedd hi’n eu gwneud, a'r cariad a ddangosodd tuag at ei mam-yng-nghyfraith. Daeth Ruth i Fethlehem heb ddim – nawr roedd hi wedi cael ei theulu ei hun!

Mae Cristnogion yn credu fod gan Dduw gynllun ar gyfer bywyd pob un ohonom ninnau hefyd. Maen nhw'n credu fod Duw eisiau i ni fyw bywyd rhyfeddol, a bydd ein cynlluniau'n datblygu wrth i ni garu a helpu pobl eraill.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch bod dy gynlluniau di ar gyfer Ruth yn rhai da.
Diolch bod gennyt ti gynlluniau da ar gyfer ein bywyd ninnau hefyd.
Helpa ni i ymddiried ynot ti wrth i ni weld dy gynlluniau di ar ein cyfer yn datblygu.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon