Brenin o’r diwedd (Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi’)
gan Revd Sylvia Burgoyne
Addas ar gyfer
- Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Ein hatgoffa fod Duw yn cadw ei addewidion.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
- Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
- Atgoffwch eich hun o’r stori am Samuel a Dafydd a ddefnyddiwyd yn y tri gwasanaeth blaenorol yn y gyfres 'Helo Sgryffi' ('Peidiwch â barnu yn ôl yr ymddangosiad', 'Creu cerddoriaeth' a 'Bod yn genfigennus') fel y gallwch alw’r stori a’r digwyddiadau i gof gyda’r plant yn y 'Gwasanaeth', yng Ngham 3.
- Os yn bosibl, dewch â ffon bugail neu lun o ffon bugail i ddangos i'r plant. Mae llun o ffon ar gael ar:http://tinyurl.com/ho5ujpb
Gwasanaeth
- Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!'
Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau!
- Un diwrnod, fe ddaeth, Liwsi Jên i mewn i’r stabl yn cario ffon bugail.
Dangoswch y ffon bugail i’r plant. Holwch y plant ydyn nhw’n gallu meddwl tybed pam mae bagl y ffon wedi cael ei wneud y siâp hwn.
Chwifiodd Liwsi Jên y ffon er mwyn i Sgryffi gael ei gweld.
‘Edrych beth mae Dad wedi ei roi i mi heddiw, Sgryffi!’ meddai yn llawn cyffro. ‘Mae Dad wedi rhoi chwech o wyn i mi hefyd i ofalu amdanyn nhw. Roedd o wedi addo ers talwm y byddwn i un diwrnod yn gallu bod yn fugail pe byddwn i’n gweithio’n galed. A, do, rydw i wedi gweithio’n galed, wyt ti’n cytuno efo fi, Sgryffi?’
Nodiodd Sgryffi ei ben a dweud, ‘Hi-ho, hi-ho!’ yn bendant. Ers pan oedd Liwsi Jên yn ferch fach, roedd Sgryffi wedi bod yn sylwi arni’n gwylio’i thad yn casglu’r defaid at ei gilydd gyda help Bob, eu ci defaid. Nawr, fe fyddai hi ei hun yn gallu rhoi gorchmynion i Bob, a chwibanu er mwyn i Bob wybod i ba gyfeiriad roedd angen iddo fynd.
Fe fyddai Liwsi Jên bob amser yn hoffi’r adeg o’r flwyddyn pan oedd yr wyn bach yn cael eu geni, a byddai’n gwylio’r defaid yn rhoi genedigaeth i’r wyn. Ambell dro, fe fyddai dafad yn cael mwy nag un oen, ac efallai na fyddai ganddi ddigon o laeth ond i fwydo dim ond un oen. Ar yr adegau hynny, fe fyddai Mr Bryn yn dangos i Liwsi Jên sut i fwydo’r wyn bach oedd angen llaeth gyda photel. Fe fydden nhw’n cael potel nes bydden nhw wedi tyfu’n ddigon mawr i fynd i bori yn y cae eu hunain. Fe fyddai Liwsi Jên wrth ei bodd yn bwydo’r wyn bach â’r llaeth o’r botel!
Erbyn hyn roedd tad Liwsi Jên yn teimlo ei bod wedi tyfu’n ddigon mawr i gael rhai anifeiliaid ei hunan i ofalu amdanyn nhw. Roedd hi eisoes wedi dangos ei bod yn gallu gofalu am Sgryffi. Roedd Mr Bryn yn falch iawn o’i ferch.
Teimlai Liwsi Jên yn bwysig iawn wrth iddi arwain ei hwyn bach hi i ymuno â gweddill y defaid yn y cae ar y ddôl. Safodd Sgryffi wrth y giât, yn gwylio Liwsi Jên yn cerdded drwy’r borfa gyda’i ffon fugail, a Bob y ci wrth ei hymyl a chwech o wyn yn eu dilyn.
Roedd Sgryffi hefyd yn teimlo’n falch iawn o Liwsi Jên.
‘Hi-ho, hi-ho!’ meddai’n uchel eto er mwyn gwneud yn siwr bod Liwsi Jên yn clywed pa mor falch oedd o!
Tynnwch y pyped oddi am eich llaw.
- Gadewch i ni wrando ar stori o’r Beibl am fachgen o’r enw Dafydd. Efallai eich bod yn cofio bod Dafydd wedi cael gwybod y byddai’n frenin ryw ddiwrnod ar ôl teyrnasiad y Brenin Saul.
Lawer o flynyddoedd yn ôl roedd Samuel wedi dod i Fethlehem i ddweud wrth Dafydd, y bugail ifanc, fod Duw wedi ei ddewis i fod yn frenin nesaf gwlad Israel. Roedd llawer o bethau wedi digwydd ers hynny. Ydych chi’n gallu meddwl am rai pethau rydyn ni wedi eu clywed amdanyn nhw yn y stori hyd yma?
- Roedd Dafydd yn aml yn canu’r delyn er mwyn tawelu’r brenin Saul pan fyddai’n teimlo mewn hwyliau drwg.
- Fe drechodd Dafydd y Philistiaid mewn brwydr.
- Fe ddaeth Dafydd yn herwr (outlaw) ac fe guddiodd am fod y Brenin Saul cenfigennus eisiau ei ladd.
- Gwrthododd Dafydd ladd y brenin pan gafodd y cyfle i wneud hynny.
Ar ôl yr holl drafferth a gafodd Dafydd gyda’r Brenin Saul, efallai y byddech chi’n meddwl y byddai Dafydd yn falch iawn o glywed pan fu farw’r Brenin Saul. Ond wyddoch chi beth? Roedd Dafydd yn drist iawn. Ar y dechrau, doedd Dafydd ddim yn gwybod beth i'w wneud, felly fe weddïodd ar Dduw a gofyn iddo beth a ddylai ei wneud. Dywedodd Duw wrtho ei bod yn ddiogel iddo fynd yn ôl adref, ac fe wnaeth y bobl yno ei groesawu yn ei ôl a’i goroni fel eu brenin. Roedd llawer o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i Samuel ddweud wrth Dafydd y byddai, un diwrnod, yn frenin. Nawr, roedd yr addewid wedi dod yn wir! Ac felly, roedd Dafydd yn gwybod bod Duw bob amser yn cadw ei addewidion.
Amser i feddwl
Rydyn ni i gyd yn gwneud addewidion.
Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gallu meddwl am addewid y maen nhw wedi ei wneud ryw dro. Efallai eu bod wedi addo tacluso eu hystafell, mynd â’r ci am dro, bod yn garedig wrth ffrind, neu wedi addo peidio â gwneud rhywbeth oedd ddim yn iawn, o bosib, neu rywbeth felly.
Ydyn ni’n cadw ein haddewidion? Ambell dro, mae’n anodd gwneud rhywbeth rydych chi wedi addo ei wneud. Mae angen i ni feddwl o ddifrif cyn i wneud addewid i rywun.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti bob amser yn cadw dy addewid.
Diolch dy fod ti wedi addo bod gyda ni bob amser.
Amen.