Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Llawer o Dân Gwyllt!

Mae Noson Tân Gwyllt yn fwy o hwyl pan fyddwn ni’n cofio bod yn ofalus

gan Jan Edmunds (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2005)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu Noson Tân Gwyllt ac atgoffa ein hunain am beryglon tân gwyllt.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch y cwestiynau canlynol i’r plant.

    - Pwy sy’n gallu dweud beth sy’n digwydd ar y 5ed o Dachwedd?
    - Pam rydyn ni’n cynnau coelcerthi ac yn tanio tân gwyllt ar yr adeg hon?

    Treuliwch ychydig o amser yn sôn am stori Guy Fawkes - neu Guto Ffowc fel rydyn ni’n ei alw yn Gymraeg.

  2. Dangoswch y delweddau o’r tân gwyllt.
    Holwch y plant ydyn nhw’n adnabod y gwahanol fathau o dân gwyllt. Gofynnwch iddyn nhw beth yw eu hoff dân gwyllt, a faint ohonyn nhw sydd wedi gweld arddangosfa tân gwyllt enfawr.

  3. Eglurwch fod tân gwyllt yn cael eu defnyddio mewn gwledydd ledled y byd, a bydd pobl sy’n dilyn gwahanol grefyddau yn eu defnyddio’n aml ar adegau o ddathlu. Rydyn ni’n cysylltu tân gwyllt â dathlu a chael hwyl, a phawb yn cael eu cyfareddu wrth weld y fflachiadau a’r lliwiau’n pefrio yn yr awyr.

  4. Mae llawer o bobl yn mwynhau edrych ar y tân gwyllt, yn enwedig plant, ond mae yna rhai sy'n arswydo wrth feddwl am Noson Tân Gwyllt. Gall llawer o anifeiliaid gael eu dychryn, ac mae rhai pobl yn mynd yn ofnus iawn hefyd. Cyflwynwch y stori hon am un digwyddiad o'r fath.

    Stori Digby’r ci
    Ci bach oedd Digby, daeargi bach annwyl iawn, a oedd yn ddim ond wyth mis oed. Roedd yn byw gyda Mandy a'i rhieni. Roedd yn gi bach hapus dros ben, yn fywiog, a phob amser yn ysgwyd ei gynffon. Roedd Mandy ac yntau’n ffrindiau mawr. Roedd Mandy’n teimlo’n llawn cyffro am fod ei phen-blwydd ar y 5ed o Dachwedd, ac roedd ei rhieni wedi dweud y gallai gael parti coelcerth a gwahodd ei ffrindiau i ddod yno.
    O'r diwedd, fe ddaeth y diwrnod. Cafodd Mandy lawer o gardiau drwy'r post. Roedd Digby yn cael hwyl fawr yn chwarae gyda’r papur lapio ar ôl i Mandy agor ei anrhegion. Roedd Digby’n methu’n lân â deall beth oedd yr holl gyffro y diwrnod hwnnw! Tua 5:30 y noson honno, dechreuodd ffrindiau Mandy gyrraedd, gan ddod â mwy o anrhegion a thân gwyllt i ychwanegu at y casgliad o rai yr oedd ei rhieni eisoes wedi eu prynu.
    Rhedodd Digby i'w croesawu, ond doedden nhw ddim yn gwneud cymaint o ffwdan ohono ag arfer. Roedd Mandy hyd yn oed yn ymddangos bod ganddi fwy o ddiddordeb mewn agor ei anrhegion a siarad am y tân gwyllt. Doedd Digby ddim yn gallu deall a dechreuodd deimlo ei fod yn cael ei anwybyddu. Dechreuodd bwdu a gorweddodd ar y mat yn y lolfa. Doedd neb y cymryd unrhyw sylw ohono.
    Ffroenodd Digby. Roedd rhywbeth yn arogli’n dda. Roedd Dad yn paratoi selsig, tatws trwy'u crwyn a chawl. Os oedd pawb arall yn mynd i'r ardd, fe fyddai yntau'n mynd, hefyd! Ac wrth iddo roi ei ben allan drwy'r drws cefn, fe allai Digby weld gwawr wych, oren y goelcerth. Wrth iddo fynd yn nes, gallai deimlo’r gwres yn dod o’r tân. Mae'n gwneud swn cracio a phoeri. Doedd Digby ddim yn hoffi hynny. Doedd neb yn sylwi arno. Roedden nhw’n rhy brysur yn edrych i fyny i'r awyr pan oedd y rocedi mawr yn sgrechian ar eu ffordd i fyny i’r entrychion. Yn sydyn, dyna ergyd enfawr wrth i'r roced fawr ffrwydro’n gawod o sêr coch, glas ac arian.
    Roedd Digby wedi dychryn yn ofnadwy! Ble gallai fynd i guddio? Roedd eisiau dianc rhag y swn a mynd yn ddigon pell oddi yno. Fe aeth i banig a rhuthro drwy giât yr ardd, yr oedd rhywun, yn ddiofal iawn, wedi ei gadael ar agor. Nawr, roedd allan ar y ffordd. Yr oedd yn ymddangos fel pe byddai angenfilod mawr yn rhuo heibio iddo gyda'r hyn a oedd yn ymddangos fel llygaid llachar, enfawr. Doedd Digby ddim yn sylweddoli mai ceir oedd y pethau hyn a oedd yn gwibio heibio! Rhuthrodd yn ôl i ardd rhywun arall. O na, roedd tân arall yno! Mae'r swn clecian a bangio yn parhau a sgrechiadau tân gwyllt yn codi’n wyllt uwch ei ben. Swatiodd Digby dan y gwrych oedd yn ymyl. Roedd yn crynu, yn methu anadlu, ac yn ofnus iawn. Digby druan! Doedd o ddim yn deall beth oedd yn digwydd. Doedd o erioed wedi cael profiad o'r fath o'r blaen. Doedd o ddim yn meiddio symud.
    Cyn hir, fe glywodd lais ysgafn rhywun yn siarad ag ef. Daeth llaw i lawr i fwytho ei ben, a theimlodd ei hun yn cael ei godi’n dyner o'r lle’r oedd yn cuddio. 'O gi bach, druan!' meddai llais caredig. Fe gariodd gwraig oedrannus Digby i mewn i'w chartref cynnes. Mae hi'n cofleidio’r ci bach ofnus ac yn ceisio ei gysuro. 'Rydw i'n gwybod sut rwyt ti’n teimlo, greadur bach,' meddai hi. 'Mae rhai ohonom ni sydd ddim yn mwynhau Noson Tân Gwyllt, a'r holl swn sy’n digwydd o’n cwmpas ni. Mae'n dda dy fod ti’n gwisgo coler a chyfeiriad arni, fel fy mod yn gwybod ble rwyt ti’n byw. Fe wna i fynd â ti adre yn y bore. Rydw i’n rhy ofnus i fynd allan eto heno.’
    Roedd y tân gwyllt olaf wedi ffrwydro a holl ffrindiau Mandy wedi gadael. Dyna pryd y cofiodd Mandy am Digby. Galwodd ato, ond nid oedd yn dod. Roedd hi'n edrych ymhobman amdano. Lle y gallai fod? Ymunodd pawb yn y chwilio, ond i ddim pwrpas. Roedd Mandy’n teimlo’n drist iawn. Roedd yn ofni na fyddai hi byth yn gweld ei chi bach hi eto. Fe ffoniodd ei thad yr heddlu. Fe fu’n rhaid i Mandy ddagreuol fynd i'r gwely, ond doedd hi ddim yn gallu cysgu.
    Y bore wedyn, roedd Mandy’n ceisio bwyta ychydig o frecwast pan ganoch cloch y drws ffrynt. Rhuthrodd Mandy at y drws. Yno roedd y wraig oedrannus yn sefyll gyda chi bach ychydig yn nerfus yn swatio yn ei breichiau. 'O, Digby!' gwaeddodd Mandy. 'Be ddigwyddodd i ti? Druan bach â thi.’
    Gwahoddodd rhieni Mandy y wraig oedrannus i mewn i’r ty. Roedden nhw i gyd yn ddiolchgar iawn iddi am achub Digby. Teimlai Mandy mor euog, fyddai hi byth mor ddifeddwl eto.
    Wnaeth y ci bach byth wella o’r ofn mawr oedd ganddo o synau uchel, ond roedd wedi dod o hyd i ffrind newydd yn yr hen Mrs Bennett. Fe fyddai ef a Mandy yn mynd i’w gweld yn aml. Daeth Mandy yn berson llawer mwy meddylgar a mwy gofalgar. Pan ddaeth Noson Tân Gwyllt, yn ei thro, y flwyddyn wedyn, fe wnaeth ei rhieni roi gwahoddiad i Mrs Bennett ddod i’w cartref i eistedd gyda Digby. Roedd y ddau yn teimlo'n llawer mwy diogel yng nghwmni rhywun arall tra roedd y tân gwyllt yn parhau i gael eu tanio er mwyn i eraill eu mwynhau - y tu allan.

  5. Diweddwch y gwasanaeth gyda rhywfaint o gyngor am ddiogelwch tân gwyllt. Dylai tân gwyllt bob amser gael eu goleuo gan oedolyn cyfrifol. Arddangosfeydd mawr sydd wedi'u trefnu yw’r dewis gorau, yn aml, a’r rhai mwyaf diogel hefyd, gyda chyfarwyddiadau clir i bawb ynghylch ble i sefyll yn ddigon pell oddi wrth y tân gwyllt ond yn ddigon diogel i allu eu gweld a’u mwynhau.

Amser i feddwl

Mae stori Digby y ci yn dangos yn union sut mae anifeiliaid yn gallu cael eu dychryn, ac mae rhai pobl hefyd yn gallu bod yn ofnus ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Beth fyddwch chi'n ei wneud i ddangos eich bod yn ofalus ar y Noson Tân Gwyllt eleni?

Gweddi
Wrth i’r coelcerthi losgi, fe fyddwn ni’n clywed clecian mawr ac yn gweld rocedi’n saethu i’r awyr.
A bydd tân gwyllt o bob math yn goleuo’r tywyllwch.
Arglwydd, cadw ni’n ddiogel ar y Noson Tân Gwyllt hon, a helpa ni i fwynhau'r hwyl.
Ond atgoffa ni fod Noson Tân Gwyllt yn gallu bod yn ddychrynllyd ac yn frawychus i rai.
Helpa ni i ystyried y pethau y gallwn ni eu gwneud
er mwyn cysgodi eraill rhag eu hofnau, fel y byddan nhw hefyd yn gallu mwynhau.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon