Olion bysedd unigryw
Mae gan bob un ohonom hunaniaeth unigryw
gan Guy Donegan-Cross (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Annog y plant i fwynhau eu hunaniaeth unigryw.
Paratoad a Deunyddiau
Fe fydd arnoch chi angen rhai lluniau o olion bysedd a'r modd o’u harddangos. Mae delwedd o dair enghraifft ar gael ar:http://tinyurl.com/jnyrvnf
Gwasanaeth
- Dangoswch y delweddau o’r olion bysedd.
Nodwch rai o nodweddion yr olion bysedd. - Gofynnwch i’r plant edrych ar flaen eu bysedd eu hunain. A yw blaen pob bys yr un fath? Ydyn nhw'r un fath â blaenau bysedd yr un sy’n eistedd agosaf atyn nhw?
- Rhannwch y ffeithiau canlynol ynghylch olion bysedd.
- Mae olion bysedd yn cael eu ffurfio ymhell cyn i berson gael ei eni, yn y cyfnod pan fydd yn ddim ond ychydig wythnosau oed yn y groth.
- Nid yw olion bysedd yn newid wrth i chi dyfu’n hyn.
- Os bydd rhywun yn cael toriad ar flaen ei fys, fe fydd yr ôl bys yn tyfu’n ôl yn union fel ag yr oedd cyn hynny.
- Mae olion bysedd gefeilliaid unfath (identical twins) yn wahanol hyd yn oed.
- Does neb yn y byd ag olion bysedd yn union yr un fath â rhywun arall.
- Rydych chi’n unigryw! - Adroddwch y stori ganlynol.
Roedd torrwr cerrig yn byw lawer o flynyddoedd yn ôl a oedd yn anfodlon ag ef ei hun a'i safle mewn bywyd. Un diwrnod, aeth heibio ty lle’r oedd masnachwr cyfoethog yn byw. Trwy'r porth agored, roedd yn gallu gweld llawer o eiddo cain y masnachwr ac ymwelwyr pwysig a oedd wedi dod yno.
‘Dyna rymus yw’r masnachwr!’ meddyliodd y torrwr cerrig. Teimlodd yn genfigennus iawn, a dymunodd allu bod fel y masnachwr. Pe cai fod yn fasnachwr ni fyddai'n rhaid iddo fyw bywyd torrwr cerrig unig wedyn.
Yna, er mawr syndod iddo, fe ddaeth ei ddymuniad yn wir. Yn sydyn, daeth yn fasnachwr, yn mwynhau mwy o bethau moethus a mwy o rym nag a freuddwydiodd erioed a fyddai’n bosib. Roedd yn awr yn destun eiddigedd ac yn cael ei gasáu'r gan y rhai oedd ddim mor gyfoethog ag ef ei hun.
Ychydig yn ddiweddarach, roedd allan yn cerdded am dro pan gafodd ei basio gan swyddog pwysig a oedd yn cael ei gario mewn cadair sedan, yng nghwmni ceidwaid, ac roedd y swyddog yn cael ei hebrwng gan filwyr yn curo gongiau. Ac roedd pawb, waeth pa mor gyfoethog oedden nhw, yn ymgrymu’n isel wrth i’w orymdaith basio.
‘Dyna rymus yw’r swyddog hwn!’ meddyliodd. ‘Fe hoffwn i fod yn swyddog pwysig!’
Yn sydyn, daeth ei ddymuniad yn wir eto. Daeth yn swyddog pwysig, a oedd yn cael ei gario i bobman yn ei gadair sedan a oedd wedi ei haddurno’n grand â brodwaith cain. Gallai weld fod y bobl o'i gwmpas yn ei ofni ac yn ei gasáu, ac roedd pob un ohonyn nhw’n gorfod ymgrymu iddo wrth iddo eu pasio.
Roedd hi'n ddiwrnod poeth o haf ac roedd yn teimlo’n ddyn anghyfforddus iawn yn y gadair sedan chwyslyd. Edrychodd i fyny at yr haul. Roedd yr haul yn disgleirio’n falch fel arfer yn yr awyr, heb gael ei effeithio gan ei bresenoldeb. Doedd dim ots gan yr haul am y swyddog pwysig.
‘Dyna rymus yw’r haul!’ meddyliodd y dyn. ‘Fe hoffwn i pe mai fi fyddai’r haul!’
Yn sydyn, fe newidiodd ac yna ef oedd yr haul, yn disgleirio’n danbaid i lawr ar bawb, roedd mor grasboeth roedd y caeau’n mynd fel diffeithwch, ac roedd yn cael ei felltithio gan y ffermwyr a'r llafurwyr.
Ond wedyn, fe symudodd cwmwl du enfawr rhyngddo ef a'r Ddaear, fel na allai ei oleuni ddisgleirio mwy ar bopeth a oedd oddi tano.
‘Dyna rymus yw’r cwmwl storm!’ meddyliodd. ‘Fe hoffwn i fod yn gwmwl storm!’
Ac yna, ef oedd y cwmwl, yn anfon cenllif o law i lawr, gan achosi llifogydd mawr dros y caeau a’r pentrefi. Unwaith eto, cafodd ei felltithio gan bawb ar y ddaear oddi tano.
Ond yn fuan wedyn, teimlodd ei fod yn cael ei wthio i ffwrdd gan rym mawr, ac fe sylweddolodd mai’r gwynt oedd yno.
‘Dyna rymus yw’r gwynt!’ meddyliodd. ‘Fe hoffwn i fod yn wynt!’
Yna, fe gafodd ei ddymuniad, ac mewn eiliad roedd yn wynt, yn chwythu mor gryf nes bod y llechi a’r teils yn dod oddi ar doeau’r tai, a choed mawr yn cael eu diwreiddio. Roedd yn cael ei gasáu a’i ofni gan bawb oedd oddi tano.
Ar ôl ychydig, fodd bynnag, fe ddaeth wyneb yn wyneb â rhywbeth nad oedd yn symud, ni waeth pa mor gryf yr oedd yn chwythu yn ei herbyn - beth oedd yno ond craig enfawr.
‘Dyna rymus yw’r graig!’ meddyliodd. ‘Fe hoffwn i fod yn graig!’
Yna, fe ddaeth yn graig, yn fwy cadarn nag unrhyw beth arall ar y Ddaear.
Fodd bynnag, wrth iddo sefyll yno, clywodd swn morthwyl yn taro cyn i mewn i'r graig solet a theimlai ei hun yn cael ei newid.
‘Beth allai fod yn fwy grymus na fi, y graig?’ meddyliodd. Edrychodd i lawr ac oddi tano fe welodd ddyn a oedd yn torri cerrig, ie torrwr cerrig! - Gofynnwch i'r plant beth ddylai'r torrwr cerrig fod wedi ei wneud ar ddechrau'r stori.
Pwysleisiwch fod pob person yn unigryw ac yn arbennig. Weithiau, mae'n rhaid i ni ddysgu bod yn fodlon ac yn hapus ynghylch bod y person yr ydyn ni. - Dewisol: mae'r Beibl yn dweud bod Duw yn ein hadnabod ni, hyd yn oed cyn i ni gael ein geni (Salm 139.16). Nid oes rhaid i ni fod fel unrhyw un arall. Rydyn ni’n unigryw ac arbennig, bob un ohonom!
Amser i feddwl
Mae gan bob un ohonom ein holion bysedd ein hunain, yn wahanol i unrhyw un arall sydd yn y byd. Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi gwneud pob un ohonom yn wahanol i bawb arall yn y byd. Rydyn ni i gyd yn unigolion. Mae angen i ni ddysgu sut i fod yn ni ein hunain!
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am fy ngharu i fel yr ydwyf.
Diolch nad oes unrhyw un arall yn union yr un fath â fi.
Diolch fod gen ti gynllun ar fy nghyfer i fy hun.
Amen.
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2017 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.