Gadewch i ni gadw’n ffit!
Cadw’n iach a mwynhau ein hunain
gan Penny Hollander (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried ein cyfrifoldeb i gadw’n iach a mwynhau ein hunain ar yr un pryd.
Paratoad a Deunyddiau
- Casglwch rai delweddau o wahanol fathau o weithgarwch corfforol a threfnwch fodd o ddangos y rhain yn ystod y gwasanaeth. Mae enghreifftiau ar y gwefannau canlynol, sy’n cynnwys:
- rhedeg, ar gael ar:http://tinyurl.com/j5lsl6n
- beicio, ar gael ar:http://tinyurl.com/hu2cr5u
- sgipio, ar gael ar:http://tinyurl.com/z8v2otb
- nofio, ar gael ar:http://tinyurl.com/zqtuno5 - Fe fydd arnoch chi hefyd angen copi o'r cwis ffitrwydd sy'n cael ei ddefnyddio yng Ngham 1 y Gwasanaeth, neu rai cwestiynau y byddwch wedi eu paratoi eich hunan sy’n ymwneud ag ymarfer corff.
Gwasanaeth
- Eglurwch i'r plant eich bod yn mynd i gychwyn y gwasanaeth gyda chwis i gael gwybod faint maen nhw’n ei wybod am y pwysigrwydd o wneud ymarfer corff. Mae pedwar ateb posib i bob un o’r cwestiynau.
- Os ydyn nhw’n credu mai'r ateb yw (a), fe ddylen nhw roi eu dwylo ar eu pen.
-Os ydyn nhw’n credu mai'r ateb yw (b), fe ddylen nhw blethu eu breichiau.
-Os ydyn nhw’n credu mai'r ateb yw (c), fe ddylen nhw roi eu dwylo ar eu hysgwyddau.
-Os ydyn nhw’n credu mai'r ateb yw (d), fe ddylen nhw roi eu dwylo ar eu pengliniau.
Gofynnwch y cwestiynau canlynol.
Sawl diwrnod yr wythnos y dylech chi geisio gwneud gweithgaredd corfforol?
(a) Un diwrnod yr wythnos
(b) Pum diwrnod yr wythnos
(c) Saith diwrnod yr wythnos
(d) Tri diwrnod yr wythnos
Yr ateb cywir yw (c).
Pa fath o ymarfer corff y dylech ei wneud?
(a) Nofio.
(b) Rhedeg.
(c) Chwarae pêl-droed.
(d) Unrhyw weithgaredd, cyn belled â’i fod yn ymarfer corff!
Yr ateb cywir yw ( (d).
Pa fath o weithgareddau eraill y dylech eu gwneud?
(a) Gwylio’r teledu.
(b) Gorwedd ar eich gwely.
(c) Chwarae ar y cyfrifiadur.
(d) Unrhyw weithgaredd, cyn belled â’i fod yn golygu bod angen symud y corff cyfan.
Yr ateb cywir yw ( (d).
Sut y dylech chi fod yn teimlo ar ôl ymarfer?
(a) Yn hollol flinedig ac yn methu â sefyll.
(b) Yn iawn – ac yn barod am ragor o ymarfer!
(c) Ychydig allan o wynt, ond yn gallu dod atoch eich hun ymhen ychydig.
(d) Yn teimlo fel bwyta pryd mawr o fwyd a sawl bar o siocled.
Yr ateb cywir yw (c). Ni ddylech deimlo yn rhy ymlaciedig oherwydd mae hyn yn golygu nad yw'r ymarfer wedi bod yn ddigon caled, ond ni ddylech deimlo eich bod wedi ymlâdd yn llwyr chwaith. - Gofynnwch i'r plant pa fath o weithgareddau ymarfer corff sydd ar gael iddyn nhw yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol.
Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.
Dangoswch y delweddau o wahanol weithgareddau ymarfer corff.
Esboniwch nad oes raid i ymarfer corff fod yn ddim ond un math o weithgaredd - fe allwn ni i gyd ddod o hyd i ryw fath o ymarfer corff yr ydym yn ei fwynhau.
Gofynnwch i'r plant beth sy'n digwydd os nad ydyn ni’n gwneud rhywfaint o ymarfer corff. Esboniwch y gall arwain at bob math o broblemau iechyd, naill ai yn awr neu yn nes ymlaen yn ystod ein bywyd. - Pwysleisiwch ei fod wedi cael ei brofi bod cymryd rhan mewn ymarfer corff yn ein helpu i feddwl yn gliriach ac yn annog meddwl iach. Mae hapusrwydd ac iechyd yn gysylltiedig â’i gilydd.
- Mae Cristnogion yn credu mai Duw a greodd fodau dynol o ran corff, meddwl ac ysbryd. Mae Salm 139 yn dathlu hyn ac yn dathlu'r gwaith rhyfeddol y mae Duw wedi ei wneud gyda ni. Mae aralleiriad o adnod o Salm 139 yn dweud, ‘Molaf di am y ffordd wych yr wyt ti wedi fy ngwneud i. Mae dy ffyrdd yn hynod ac yn rhyfeddol - yr wyf yn gwybod hyn gyda fy holl galon.’
Amser i feddwl
Gadewch i ni feddwl am ein cyrff a meddwl pa mor anhygoel ydyn ni! Gadewch i ni atgoffa ein hunain o'n cyfrifoldeb i gadw ein hunain yn iach ym mhob ffordd bosib fel y gallwn fwynhau bywyd i'r eithaf.
Meddyliwch am sut y gallwn ddefnyddio ymarfer corff er mwyn cadw ein hunain yn iach ac yn hapus. Efallai ein bod yn mwynhau llawer math o chwaraeon, neu efallai dim ond un neu ddau o weithgareddau. Gall ymarfer corff fod ar sawl ffurf wahanol. Does dim ots beth rydym yn dewis ei wneud; ein penderfyniad ni yw dod o hyd i rywbeth yr ydym yn mwynhau ei wneud. Efallai y gallem wneud mwy o gerdded, naill ai i'r ysgol neu allan gyda'n teuluoedd. Gadewch i ni feddwl am sut y gall cyrff iach a ffit ein hysgogi hefyd, neu helpu ein meddyliau fel ein bod yn gallu dysgu'n well hefyd.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y ffordd rydyn ni wedi cael ein creu.
Diolch i ti am ein corff rhyfeddol.
Diolch i ti am yr holl allu a’r holl ddoniau sydd gennym.
Helpa ni i werthfawrogi hyn ac i wneud popeth yn ein gallu i gadw ein hunain yn iach.
Amen.