Mae Pob Un Ohonom Yn Unigryw
gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Annog y plant i werthfawrogi fod pob un ohonom yn unigryw.
Paratoad a Deunyddiau
Os ydych chi’n bwriadu defnyddio props (peli jyglo, beic un olwyn(!), etc.) yn rhan 1, fe fydd angen i chi eu cuddio yn rhywle wrth law fel y gallwch chi ddangos i’r plant, yn eich tro, y pethau hynod rydych chi’n gallu’u gwneud!
Gwasanaeth
1. Helpwch y plant i weld pa mor glyfar ydych chi! Dywedwch rai pethau wrthyn nhw amdanoch eich hun sy’n eich gwneud yn hynod - efallai fod gennych chi rywbeth neilltuol, neu efallai eich bod chi’n gallu gwneud rhywbeth arbennig, e.e. Rydw i’n gallu dweud yr enw lle hiraf yng Nghymru (yn gyflym, ar un gwynt!), yn gallu ysgwyd fy nghlustiau, cyffwrdd fy nhrwyn â’m tafod, etc. Dangoswch beth bynnag fyddwch chi’n gallu’i wneud, a’i wneud yn eithaf dramatig!
2. Anogwch y plant i feddwl am y ffaith eu bod hwythau bob un ohonyn nhw yn unigryw ac yn rhyfeddol. Cymerwch arnoch eich bod newydd sylweddoli y gallai’r plant sydd o’ch cwmpas chi fod yn hynod hefyd, bob un ohonyn nhw.
3. Gofynnwch i bawb sydd yn yr ystafell godi ar eu traed. Dywedwch wrthyn nhw am aros ar eu traed os oes ganddyn nhw lygaid glas, er enghraifft, tra mae’r lleill yn eistedd. Ewch ymlaen gydag awgrymiadau eraill nes bydd un yn unig (neu grwp bach) yn dal ar eu traed, e.e. arhoswch ar eich traed:
os oes gennych chi wallt golau
os gallwch chi daro’ch pen a rhwbio’ch stumog ar yr un pryd
os gallwch chi wincio â’ch llygad chwith.
(Fe allwch chi feddwl am awgrymiadau priodol)
Gwahoddwch y plant sy’n sefyll, i’r tu blaen, gan ddweud wrth weddill y plant beth yw eu henwau.
(Os bydd yr amser yn caniatáu fe allech chi barhau gyda’r gweithgaredd ychydig yn hwy i’w wneud yn ddifyr i’r plant.)
4. Dywedwch fod Cristnogion yn credu fod Duw wedi creu pob un ohonom i fod yn wahanol i’n gilydd. Yn y Beibl, yn Salm 139, mae’n dweud fod Duw yn adnabod pob un ohonom, hyd yn oed cyn i ni gael ein geni.
Amser i feddwl
Myfyrdod:
Dim ond un ohonof fi sydd yn y byd i gyd, dim ond un ohonof fi mewn hanes.
Dim ond un (enw’r plentyn o’ch blaen) sydd yn y byd i gyd, dim ond un (enw’r plentyn o’ch blaen) mewn hanes.
Dim ond un ohonoch chi sydd yn y byd i gyd, dim ond un ohonoch chi mewn hanes.
Efallai dydych chi ddim yn hoffi beth welwch chi wrth edrych arnoch chi eich hun.
Efallai dydych chi ddim yn hoffi beth welwch chi wrth edrych ar y rhai sydd o’ch cwmpas.
Ond fe gawsoch chi’ch gwneud i fod yn chi.
Ac fe gawson nhw’u gwneud i fod yn nhw.
Gadewch i ni geisio derbyn ein hunain, a’r rhai sydd o’n cwmpas fel rydyn ni.
Wedi’r cyfan, mae pob un ohonom ni wedi’n creu yn arbennig.
Gweddi:
Annwyl Dduw,
Fe wnest ti greu byd rhyfeddol iawn,
ac rydyn ni eisiau diolch i ti am y pleser gawn ni ynddo.
Fe wnest ti ein creu ninnau hefyd, bob un ohonom.
Rydyn ni i gyd yn rhyfeddol iawn.
Diolch, Dduw, am fy ngwneud i.
Diolch, Dduw, am wneud (enw’r plentyn o’ch blaen).
Diolch, Dduw, am wneud pob un ohonom ni fel rydyn ni.
Mae’n ddrwg gennym ni am yr adegau rydyn ni’n methu derbyn pobl eraill fel y maen nhw.
Mae’n ddrwg gennym ni am yr adegau rydyn ni’n methu derbyn ni ein hunain fel rydyn ni.
Helpa ni i weld pobl eraill fel rwyt ti’n eu gweld nhw.
Helpa ni i weld ein hunain fel rwyt ti’n ein gweld ni.
Helpa ni i fod y bobl yr hoffet ti i ni fod.
Helpa ni i fyw y math o fywyd yr hoffet ti i ni ei fyw.
Gyda dy help di, mae pob peth yn bosib.
Amen.