Ydyn ni’n llawer rhy brysur?
Gadewch i ni wneud amser i feddwl am bobl eraill
gan Jan Edmunds (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried y dylem geisio gwneud amser i helpu ein gilydd.
Paratoad a Deunyddiau
- Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno dangos delweddau o'r cymeriadau yn y stori am yr Iâr Fach Goch.
- Dewisol: efallai y byddwch yn dymuno adrodd stori merch Jairus, stori sydd i’w chael yn Efengyl Marc 5.21-24 a 35-43.
Gwasanaeth
- Weithiau fe fyddwn ni’n rhy brysur yn gwneud ein pethau ni ein hunain i wneud dim i helpu pobl eraill. Efallai eich bod chi, ryw dro, wedi gobeithio y byddai eich mam neu eich tad yn gallu gwneud rhywbeth i chi, neu wneud rhyw weithgaredd gyda chi, ond eu bod yn rhy brysur ar y pryd. Efallai eu bod nhw wedi gofyn i chi wneud rhywbeth iddyn nhw, ond eich bod chi’n rhy brysur yn chwarae ar y pryd, a chithau felly’n methu gwneud yr hyn roedden nhw’n gofyn i chi ei wneud.
Gwrandewch ar y stori sydd gennym ni heddiw a meddyliwch beth fydden ni’n gallu ei ddysgu oddi wrth y stori hon. - Yr Iâr Fach Goch(addasiad o’r stori wreiddiol)
Un tro , roedd Iâr Fach Goch. Roedd yr Iâr Fach Goch bob amser yn brysur, yn cadw’r ty yn daclus ac yn cadw’r ardd yn daclus. Un diwrnod, fe brynodd hi hadau i’w plannu yn yr ardd. Fe ofynnodd hi i’w ffrindiau fydden nhw’n hoffi ei helpu. ‘Na!’ meddai Huwi Hwyaden, Tesni Twrch a Gweni Gwningen. ‘Rydyn ni’n llawer rhy brysur.’
‘Wel! Fe wna i blannu’r hadau fy hun, felly,’ meddai’r Iâr Fach Goch. Fe blannodd hi’r hadau, a rhoi dwr iddyn nhw bob dydd. ‘Fyddech chi’n hoffi fy helpu i roi dwr i’r planhigion?’ gofynnodd yr Iâr Fach Goch i’w ffrindiau.
‘Na! Rydyn ni’n llawer rhy brysur,’ meddai’r tri unwaith eto.
‘Wel! Fe wna i roi dwr i’r planhigion fy hun, felly,’ meddai’r Iâr Fach Goch, ac fe weithiodd yn galed bob dydd yn dyfrio’r planhigion ac yn clirio’r chwyn oedd yn tyfu o’u cwmpas. Eto, fe ofynnodd hi i’w ffrindiau, ‘Fyddech chi’n hoffi fy helpu i glirio’r chwyn sy’n tyfu rhwng y planhigion?’ ‘Na! Rydyn ni’n llawer rhy brysur,’ meddai’r tri unwaith eto wrth yr Iâr Fach Goch.
Tyfodd y planhigion yn dal a chryf. Tyfu a thyfu, ac roedd llysiau blasus ar y planhigion. Un diwrnod roedd y llysiau wedi aeddfedu ac yn barod i’w casglu. Gofynnodd yr Iâr Fach Goch unwaith eto i’w ffrindiau a fydden nhw’n hoffi ei helpu. ‘Fyddech chi’n hoffi fy helpu i gasglu’r llysiau sydd wedi tyfu ar y planhigion?’
‘Na!’ meddai Huwi Hwyaden. ‘Mae’n ddrwg gen i, rydw i eisiau mynd i nofio ar y llyn. Rydw i’n llawer rhy brysur.’
‘Na!’ meddai Tesni Twrch. ‘Mae’n ddrwg gen i, rydw i eisiau mynd i weld faint o fwydod sydd wedi disgyn i’r twneli rydw i wedi eu creu o dan y ddaear. Rydw i’n llawer rhy brysur.’
‘Na!’ meddai Gweni Gwningen. ‘Mae’n ddrwg gen i, rydw i wedi addo mynd i chwarae gyda Glenda Gwningen. Rydw i’n llawer rhy brysur.’
‘Wel! Fe wna i gasglu’r llysiau fy hun, felly,’ meddai’r Iâr Fach Goch. Fe weithiodd yn galed nes roedd hi wedi casglu’r llysiau i gyd. ‘Nawr, rydw i’n mynd i wneud cawl blasus gyda’r llysiau.
Fe ofynnodd hi i’w ffrindiau eto, ‘Fyddech chi’n hoffi fy helpu i wneud cawl llysiau blasus gyda’r llysiau sydd wedi tyfu ar y planhigion?’ Ond, unwaith eto, roedden nhw i gyd yn rhy brysur yn gwneud rhywbeth arall. ‘Wel! Fe wna i’r cawl llysiau fy hun, felly,’ meddai’r Iâr Fach Goch.
Fe biliodd hi’r llysiau a’u torri, ac fe chwiliodd am y sosban fwyaf y gallai ddod o hyd iddi. Rhoddodd ddwr yn y sosban a rhoi’r llysiau i mewn wedyn, a dechrau coginio’r cawl. Roedd arogl hyfryd yn dod o gegin yr Iâr Fach Goch.
‘Mmmm, mae arogl hyfryd yn dod o gegin yr Iâr Fach Goch,’ meddai Huwi Hwyaden.
‘Mae’r arogl hyfryd yn codi eisiau bwyd arna i,’ meddai Tesni Twrch.
‘O! Mae’n arogli fel fy hoff gawl,’ meddai Gweni Gwningen.
Dilynodd y tri eu trwynau i gegin yr Iâr Fach Goch. Roedd yr Iâr Fach Goch wedi eistedd wrth y bwrdd ac roedd hi ar fin dechrau bwyta ei chinio o gawl llysiau blasus. ‘Gawn ni dy helpu di i fwyta’r cawl llysiau blasus?’ gofynnodd ei ffrindiau iddi.
‘Na chewch, yn wir!’ meddai’r Iâr Fach Goch. ‘Doeddech chi ddim yn fodlon fy helpu i blannu’r hadau. Doeddech chi ddim yn fodlon fy helpu i roi dwr i’r planhigion. Doeddech chi ddim yn fodlon fy helpu i chwynnu o gwmpas y planhigion. Doeddech chi ddim yn fodlon fy helpu i gasglu’r llysiau, a doeddech chi ddim yn fodlon fy helpu i wneud y cawl chwaith! Roeddech chi’n llawer rhy brysur. Ond nawr, fi sy’n rhy brysur. Rydw i’n rhy brysur yn bwyta’r cawl llysiau hyfryd yma. Rydw i’n rhy brysur i roi dim ohono i chi. Felly, ewch oddi yma. Ta ta, hwyl fawr!’
I ffwrdd a’r tri anifail bach, yn teimlo’n euog iawn. Roedden nhw’n sylweddoli pa mor hunanol roedden nhw wedi bod. Dyna biti! Roedden nhw wedi bod yn llawer rhy brysur! - Efallai yr hoffech chi dreulio ychydig o amser yn trafod y stori. Mae pob un ohonom ni’n brysur bob dydd yn gwneud gwahanol bethau. Ond mae’n hawdd iawn defnyddio hynny fel esgus dros beidio â helpu pobl eraill.
- Pennill i’w defnyddio os hoffech chi, ‘Rhy brysur’.
Pan fyddwn ni’n teimlo’n ofnadwy o brysur, yn gwneud y pethau sy’n ein plesio ni,
Fe ddylem ni hefyd geisio meddwl am eraill, sydd o bosib yn brysur yr un fath â chi.
Dim ond gofyn i ni helpu rhywfaint y byddan nhw, wrth ofyn am ychydig bach o gefnogaeth.
Felly, mae’n bwysig peidio â bod yn hunanol, a rhoi i bobl eraill dipyn bach o ystyriaeth.
Amser i feddwl
Roedd Iesu yn aml yn brysur yn dysgu pobl am Dduw, ond doedd byth yn rhy brysur i helpu'r rhai yr oedd arnyn nhw ei angen. Mae enghraifft o hyn i'w chael yn y stori o’r Beibl am ferch Jairus. Mae’r stori i’w chael yn Efengyl Marc 5.21-24 a 35-43, os byddwch yn dewis cynnwys yr enghraifft hon.
Gweddi
Arglwydd y galon garedig, gwna fy nghalon innau’n un garedig.
Arglwydd y dwylo tyner, gwna fy nwylo innau’n rhai tyner.
Arglwydd y traed parod a bodlon, gwna fy rhai innau’n barod a bodlon,
fel y gallaf dyfu’n debycach i ti ym mhob peth y byddaf i yn ei ddweud a’i wneud.
Amen.