Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y ffrindiau penderfynol

Gwyrth Capernaum

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried bod gwir gyfeillgarwch yn dal ati er gwaethaf anawsterau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau.

Gwasanaeth

  1. Mae cyfeillion yn bwysig i bob un ohonom. Yn aml, mae ein cyfeillion yn newid wrth i ni dyfu a heneiddio, ond weithiau, rydym yn gwneud ffrindiau yn ystod ein plentyndod sy'n aros yn ffrindiau â ni am weddill ein bywyd. Rydym yn hoffi ffrindiau y gallwn ni ymddiried ynddyn nhw ac y gallwn ni ddibynnu arnyn nhw, ac na fydd yn ein siomi. Mae ein stori heddiw yn sôn am bedwar ffrind a oedd yn union fel hynny.

  2. Roedd Iesu mewn lle o’r enw Capernaum, ac, yn ôl yr arfer, roedd torfeydd o bobl yn ei ddilyn ac am glywed yr hyn oedd ganddo i'w ddweud. Roedd rhai eisiau gofyn cwestiynau i Iesu; roedd rhai wedi mynd draw oherwydd eu bod yn gobeithio y gallai Iesu eu hiachau; roedd rhai eraill wedi mynd yno ddim ond oherwydd chwilfrydedd am eu bod wedi clywed cymaint am y dyn arbennig hwn o’r enw Iesu.

  3. Gerllaw, roedd dyn wedi cael afiechyd a oedd wedi ei barlysu. Roedd wedi diflasu ar ei sefyllfa ac yn bryderus am y dyfodol oherwydd fe wyddai na fyddai'n gallu gweithio mwyach. Yn ffodus, roedd ganddo bedwar o ffrindiau a wnaeth ei berswadio i adael iddyn nhw fynd ag ef at Iesu. Ni feiddia'r dyn obeithio y gallai gael ei wella, ond roedd wedi clywed fod Iesu wedi cyflawni rhai pethau rhyfeddol a chafodd cynnig ei ffrindiau gryn argraff arno. Nid oedd cadair olwyn na sgwteri symudedd yn ystod y dyddiau hynny, felly fe gododd y dynion y mat yr oedd y claf â'r parlys yn gorwedd arno, a chyda pob un ohonyn nhw'n yn gafael ym mhob cornel, dyma nhw'n cerdded tua'r dref er mwyn dod o hyd i Iesu.

  4. Yn anffodus, pan ddaethon nhw'n agos at y ty lle'r oedd Iesu, fe welon nhw fod tyrfaoedd o bobl eisoes wedi ymgynnull. Yn wir, roedd cymaint o bobl yno fel bod rhai wedi gorfod aros y tu allan i’r ty a doedden nhw prin yn clywed beth oedd gan Iesu i'w ddweud. Ceisiodd y dynion wthio'u ffordd drwy'r tyrfaoedd, ond yn fuan dyma nhw'n sylweddoli y byddai’n anobeithiol iddyn nhw gael mynediad trwy'r drws. 

  5. Fe fyddai rhai ffrindiau yn awr wedi rhoi'r gorau i ymdrechu yn y fan honno - a phwy fyddai'n gallu eu beio? Roedden nhw wedi gwneud eu gorau, oni fyddai’n well iddyn nhw fynd adref: allen nhw ddim aros yn y fan honno am oriau efallai yng ngwres yr haul poeth. Efallai ei fod yn wastraff amser beth bynnag oherwydd doedden nhw erioed wedi gweld Iesu'n cyflawni unrhyw wyrthiau. 

  6. Ond wnaeth y ffrindiau hyn ddim rhoi'r ffidil yn y to; roedd ganddyn nhw syniad. Doedden nhw ddim yn gallu cael mynediad trwy'r drws, ond pam lai na cheisio cael mynediad trwy'r to? Yng Nghapernaum yr adeg hon, roedd gan lawer o’r tai do fflat gyda grisiau yn arwain i ben yr adeilad o'r tu allan, fel bo modd i'r perchnogion allu cysgu ar y to pan fyddai'n rhy boeth tu mewn. Felly aeth y ffrindiau i fyny’r grisiau gan gario'r claf rhyngddyn nhw. Pan oedden nhw wedi cyrraedd y to fe aethon nhw ati i dynnu peth o deils clai'r to fel bod ganddyn nhw dwll digon mawr i'w galluogi i ollwng y claf drwyddo. Cafodd y tyrfaoedd gryn syndod pan gafodd y dyn ei ollwng i lawr. Fe arhosodd bawb i weld beth fyddai Iesu ei wneud. 

  7. Roedd y peth cyntaf a ddigwyddodd braidd yn annisgwyl. Cafodd y ffydd a oedd gan ffrindiau'r claf y fath argraff ar Iesu fel y dywedodd wrth y dyn, ‘Maddeuwyd dy bechodau.’ Wnaeth y ffrindiau ddim dwyn y claf i sylw Iesu er mwyn i'w bechodau gael eu maddau, felly fe allen nhw fod wedi teimlo'n siomedig pe byddai hynny wedi bod yn ddiwedd ar bethau, ond nid felly y bu pethau. Fe feddyliodd rhai o athrawon y gyfraith bod Iesu yn rhy fawreddog ac fe wnaethon nhw ddechrau protestio, a dweud mai Duw yn unig oedd yn gallu maddau pechodau.

  8. Fodd bynnag, gan sylweddoli'r hyn oedd ar feddwl yr athrawon, fe ddywedodd Iesu, ‘Fe ddangosaf i chi fod gen i awdurdod gan Dduw i faddau pechodau.’ Yna, gan edrych ar y dyn, fe ddywedodd, ‘Cod ar dy draed a cherdda.’ Ac yna o'u blaen i gyd, safodd y dyn ar ei draed ei hun, rowliodd y mat y bu'n gorwedd arno, ei roi o dan ei fraich a cherddodd allan o'r ty. 

  9. Rhyfeddodd bawb a oedd yn dyst i'r digwyddiad hwn. Roedd gan y dyn hwn, Iesu, rym rhyfeddol. Ni welodd y bobl unrhyw beth fel hyn o'r blaen ac fe wnaethon nhw gytuno bod Iesu yn wir yn rhywun arbennig.

Amser i feddwl

Gofynnwch i'r plant pa werthoedd/rinweddau y maen nhw'n teimlo y dylai ffrind da eu cael.

Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

Trafodwch y ffaith ein bod, weithiau, yn rhoi gormod o bwyslais ar gael ‘ffrind gorau’. Pwysleisiwch y pwysigrwydd ein bod yn rhannu'n cyfeillgarwch os ydym yn dymuno dal gafael ar ein ffrindiau.

Trafodwch pa mor bwysig yw bod yn gyfeillgar os ydym am wneud ffrindiau

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein ffrindiau ac am yr hyn maen nhw’n ei olygu i ni.
Helpa ni i fod yn ffrindiau da i eraill.
Helpa ni i sylwi ar unigolion sy’n teimlo’n unig ac sy’n cael trafferth i wneud ffrindiau.
Helpa ni i fod mor gyfeillgar ac mor faddeugar ag yr wyt ti.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon