Bod yn ddiolchgar am bob diwrnod
gan Manon Parry (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 2
Nodau / Amcanion
Meddwl am sut y gall agwedd o ddiolchgarwch ein helpu ni i deimlo'n fwy abl i ymdopi â phob diwrnod.
Paratoad a Deunyddiau
- Trefnwch fod y tri symbol neu’r lluniau canlynol ar gael gennych chi, ynghyd â’r modd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth:
- symbol o ddathlu, fel corcyn potel siampên, ar gael ar:
http://tinyurl.com/h65lhab- symbol o rywbeth cyffredin, fel moronen, ar gael ar:
http://tinyurl.com/zqdw4o2 - symbol sy’n cynrychioli tristwch, fel bocs o hancesi papur, ar gael ar: http://tinyurl.com/44sg5gc - Fe fydd arnoch chi hefyd angen pump o wirfoddolwyr ar gyfer cymryd rhan yn yr 'Amser i feddwl' yn y gwasanaeth. Gallai'r rhain gael eu dewis yn ystod y gwasanaeth neu mae’n bosib y byddech chi’n dymuno eu dewis o flaen llaw fel eu bod wedi cael amser i baratoi cyn y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i’r plant,‘Sut ydych chi’n teimlo heddiw?’
Tynnwch eu sylw at y ffaith y byddai pob un ohonyn nhw, yn ôl pob tebyg, yn ateb y cwestiwn hwnnw mewn ffordd wahanol ar wahanol ddiwrnodau. Fe allen nhw ar rai dyddiau fod yn teimlo’n drist, dro arall yn teimlo’n hapus, neu ddim yn teimlo’r naill ffordd na’r llall, yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd o’u cwmpas. Er enghraifft, rydyn ni’n teimlo'n hapus pan fydd rhywbeth neis digwydd i ni, fel pan fyddwn yn gwneud ffrind newydd, neu pan mae'n ddiwrnod y trip ysgol, neu pan fyddwn yn cael ein gwahodd i barti. - Dangoswch y corcyn potel siampên, neu’r ddelwedd ohono.
Eglurwch ar gyfer beth mae'r symbol hwn yn cael ei ddefnyddio, ac fe allech chi siarad yn bersonol am y corcyn os oes modd. Er enghraifft, 'Mae hwn yn gorcyn o botel o siampên y gwnaeth fy nheulu a finnau ei hyfed ar achlysur arbennig . . .’ - Gofynnwch i'r plant sôn am eu dyddiau arbennig nhw. Fe allech chi eu hannog i gofio am benblwyddi arbennig neu ddigwyddiadau arbennig yn y teulu, achlysuron hapus fel priodasau, neu hyd yn oed pan fydd eu tîm yn ennill mewn gêm bêl-droed. Sut maen nhw’n teimlo pan fyddan nhw’n deffro ar fore Nadolig, neu ar ddiwrnod eu pen-blwydd? Sut byddwch chi’n teimlo ar ddiwrnod hapus?
- Dangoswch y foronen, neu’r ddelwedd ohoni.
Eglurwch fod y rhan fwyaf o ddyddiau yn ddyddiau cyffredin iawn a dim byd cyffrous na dim byd trist yn digwydd. Holwch y plant ydyn nhw'n hoffi moron. Gofynnwch iddyn nhw a fydden nhw’n talu £50 am foronen hon. Yr ateb amlwg yw nad yw moron yn werth llawer o arian, hyd yn oed os ydym yn mwynhau eu bwyta! Mae moron yn fwyd cyffredin iawn. - Dangoswch y bocs hancesi papur, neu’r ddelwedd ohono.
Trafodwch sut y gall rhai dyddiau, yn anffodus, fod yn ddiwrnodau trist iawn, pan fydd rhywbeth drwg yn digwydd i ni neu i rywun rydyn ni’n hoff ohonyn nhw.
Esboniwch, er y gallem fod yn cael diwrnod arferol neu ddiwrnod trist, mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud er mwyn helpu i wneud i ni ein hunain deimlo'n well. Fe allwn ni geisio stopio am foment a meddwl am bethau yr ydyn ni’n ddiolchgar amdanyn nhw. Os gallwn ni wneud hyn ac atgoffa ein hunain am bethau da yn ein bywydau, gall weithiau ein helpu rhag teimlo mor ddrwg. (Yn amlwg, mae angen i hyn gael ei drin yn sensitif ar y pwynt hwn gan ddibynnu ar amgylchiadau'r plant yn yr ysgol.)
Amser i feddwl
Gofynnwch i'r plant feddwl am y pethau y maen nhw’n ddiolchgar amdanyn nhw. Gofynnwch am bump o wirfoddolwyr i ddod ymlaen i rannu eu syniadau gyda'r gynulleidfa. Gofynnwch i bob gwirfoddolwr yn ei dro rannu'r hyn y maen nhw’n ddiolchgar amdano, ac yna adroddwch weddi fach syml, yn diolch i Dduw am yr hyn y maen nhw wedi ei nodi.
Gweddi
Diolch i ti, Dduw, am . . . (Ailadroddwch hyn ar ôl i bob plentyn rannu ei syniad.)
Gofynnwch i'r gwirfoddolwyr fynd yn ôl i’w lle i eistedd. Gofynnwch i'r plant feddwl yn dawel am yr holl bethau da yn eu bywyd.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolchwn i ti am bob peth sy’n dda yn ein bywyd.
Rydym, yn awr, yn diolch i ti yn arbennig am yr hyn yr ydym yn cofio amdano’n dawel yn ein calonnau ar y funud hon . . . (distawrwydd)
Helpa ni i fod yn ddiolchgar bob amser, pa un ai a fyddwn ni’n hapus neu’n drist.
Helpa ni i wybod dy fod ti gyda ni ar ddyddiau cyffredin, ar ddyddiau da, ac ar ddyddiau drwg hefyd.
Amen.