Dawn Is Coming
Dangos, trwy gyfrwng y wawr yn torri, bod y ffordd rydyn ni’n dysgu yn rhywbeth graddol iawn.
gan Janice Ross (revised, originally published in 2010)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Dangos, trwy gyfrwng y wawr yn torri, bod y ffordd rydyn ni’n dysgu yn rhywbeth graddol iawn.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen sicrhau rhai delweddau o’r wawr yn torri.
- Cerddoriaeth: ‘Morning’, allan o Peer Gynt Suite gan Grieg. Fe ddylai’r gerddoriaeth gael ei chwarae wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth.
- Mae’r gerdd ‘Dawn’ i’w gweld ar y wefan: www.poetry.com/poems/dawn/13463600/ . Efallai y gallech ei haddasu, neu ddod o hyd i gerdd debyg ar yr un thema.
Gwasanaeth
- Oedd y gerddoriaeth glywsoch chi wrth ddod i mewn i’r gwasanaeth yn eich atgoffa chi o rywbeth? Pwy welodd y wawr yn torri bore heddiw? Beth ydi’r wawr? Tua faint o’r gloch yn y bore y mae’r wawr yn torri ar yr adeg yma o’r flwyddyn? Beth tybed fyddech chi wedi ei weld?
- Mae sawl cyfansoddwr wedi ceisio dal hyfrydwch y wawr yn ei gerddoriaeth. Mae nifer o arlunwyr hefyd wedi ceisio darlunio harddwch y wawr yn eu lluniau, ac mae beirdd o hyd yn ceisio disgrifio harddwch y wawr mewn geiriau. Os oes gennych chi enghraifft o lun neu farddoniaeth sy’n ymwneud a’r wawr yn torri, cyflwynwch hwn i’r plant.
- Pa liw ydych chi’n feddwl fyddech chi’n ei weld yn yr awyr pan fydd y dydd yn dechrau goleuo? Trafodwch fel mae’r awyr yn newid yn raddol o fod yn llwyd i resi o olau, golau coch a melyn, a chymylau’n ymddangos wedyn. Nodwch mai’r gair pwysig yma yw ‘graddol’. Mae’r lliwiau yn yr awyr yn newid yn raddol.
- Mae dywediad yn Saesneg, ‘It’s beginning to dawn on me.’ Trafodwch ystyr y dywediad yma. Mae’n golygu eich bod chi’n dechrau deall rhywbeth yn raddol. Pa bethau rydych chi’n eu dysgu yn yr ysgol ac yn dod i’w deall yn sydyn iawn, a pha bethau sy’n cymryd mwy o amser ac rydych chi’n dod i’w deall yn raddol? Beth sy’n eich helpu yn y broses o ddod i ddeall rhywbeth? Llawer o ymarfer, efallai, neu ofyn i rywun egluro rhywbeth i chi eto, neu ofyn am help i ddeall rhywbeth.
- Eglurwch fod ffydd rywbeth yn debyg i hyn. Ar ryw bwynt yn ein bywyd, rydyn ni’n dechrau gofyn cwestiynau. Efallai mai cwestiynau fel, pwy wnaeth yr awyr neu’r cymylau fyddwch chi’n eu gofyn, neu pwy a’n gwnaeth ni? Pwy wnaeth yr holl bethau hardd sydd o’n cwmpas? Neu, efallai y byddwn ni’n holi, sut mae fy nghorff i’n gweithio? Mae’n amlwg fy mod i’n gymysgiad cymhleth iawn o deimladau a meddyliau. Fe allen ni hyd yn oed ofyn pethau fel, pwy ydi Duw? Ble mae Duw yn byw? Sut y gallaf i ddod i adnabod Duw?
Amser i feddwl
Gadewch i ni ddathlu’r holl bethau rydyn ni wedi eu deall yn ystod y flwyddyn - wrth wneud gwaith mathemategol, wrth i ni ddefnyddio iaith, wrth i ni ymchwilio yn ein gwersi gwyddoniaeth, ac wrth i ni drafod ble rydyn ni’n byw, a thrafod y bobl rydyn ni’n rhannu ein bywyd â nhw.
Gadewch i ni ddathlu’r holl bethau rydyn ni wedi eu deall am Dduw, ac am ei gariad tuag atom ni.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch i ti am yr holl bethau rydyn ni wedi eu dysgu yn ystod y flwyddyn.
Diolch ein bod wedi gallu symud ymlaen ar ein taith o ddysgu.
Rydyn ni’n diolch i ti hefyd am y daith sydd wedi ein harwain ni at ddod i dy adnabod di yn well trwy’r gwasanaethau rydyn ni wedi bod yn rhan ohonyn nhw yn yr ysgol.