Dewis gwael! (Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi!’
Gwasanaeth yn y gyfres ‘Helo Sgryffi!’
gan Revd Sylvia Burgoyne
Addas ar gyfer
- Dosbarth Derbyn / Cyfnod Allweddol 1
Nodau / Amcanion
Ystyried y syniad y gall teimladau dig arwain at gamau gweithredu drwg.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen pyped llaw (hosan neu faneg) yn cymeriadu’r mul bach, o’r enw Sgryffi.
- Wrth i’r gwasanaeth ddechrau, gofalwch bod Sgryffi’r pyped wedi ei roi am eich llaw yn barod.
- Dyma’r ail yn y gyfres o wasanaethau yn y gyfres ‘Helo Sgryffi!’ sy’n ymwneud â bywyd Joseff. Y gyntaf yn y gyfres yw’r un dan y pennawd ‘Mae’n fy ngwneud i’n benwan’, ac mae ar gael ar wefan y gwasanaethau (Tachwedd 2016). http://cymru.assemblies.org.uk/pri/2705/maen-fy-ngwneud-i-n-benwan
Gwasanaeth
- Mae Sgryffi’r pyped yn cyfarch y plant. Anogwch y plant i godi eu llaw a dweud, ‘Helo, Sgryffi!’
Os mai dyma’r tro cyntaf i’r plant weld Sgryffi, fe fydd angen i chi ddefnyddio’r cyflwyniad canlynol.
Mae Sgryffi’n byw ar fferm gyda Liwsi Jên a’i mam, Mrs Bryn, a’i thad Mr Bryn y ffermwr, a’i brawd bach, Tomos. Mae Liwsi Jên wrth ei bodd efo Sgryffi. Mae hi’n gofalu amdano. Mae hi’n mwynhau ei gwmni, ac mae’n siarad gyda Sgryffi’n aml iawn – pan fydd hi’n hapus, a phan fydd hi’n teimlo’n drist hefyd. Sgryffi yw ei ffrind gorau! - Ydych chi'n cofio beth oedd breuddwyd hapus Liwsi Jên? (Gweler y gwasanaeth cyntaf yn y gyfres hon, ‘Mae’n fy ngwneud i’n benwan’. http://cymru.assemblies.org.uk/pri/2705/maen-fy-ngwneud-i-n-benwan)
Fore heddiw, pan ddaeth Liwsi Jên i mewn i'r stabl i roi ei frecwast i Sgryffi, roedd hi'n rhwbio ei llygaid ac yn dylyfu gên, hynny yw, yn agor ei cheg wedi blino. Wrth iddi frwsio ei got, mae hi'n sibrwd yng nghlust Sgryffi.
‘Fe ges i freuddwyd annifyr iawn neithiwr,’ meddai hi yn dawel. 'Roeddwn i’n cerdded trwy goedwig. Roedd yn dywyll, a'r gwynt yn chwythu drwy ganghennau'r coed, yn gwneud synau iasol. Yn sydyn, fe wnes i glywed traed. Roedden nhw’n dod yn nes ac yn nes, felly fe ddechreuais i redeg mor gyflym ag y gallwn i, ond fe wnes i faglu a syrthio. Roeddwn yn ofnus a doeddwn i ddim yn meiddio agor fy llygaid rhag ofn fy mod wedi fy amgylchynu gan fwystfilod. Yna, fe gyffyrddodd llaw rhywun fi ac fe glywais i lais addfwyn yn dweud, "Deffra Liwsi Jên! Mae popeth yn iawn. Dim ond breuddwyd ddrwg wyt ti wedi ei chael!”
‘Mam oedd yno! Fe wnaeth hi fy nghofleidio i am hir nes roeddwn i’n teimlo'n well.’
‘Paid â phoeni,’ meddai hi. ‘Dim ond wedi cael breuddwyd ddrwg yr wyt ti. Ddigwyddodd dim byd mewn gwirionedd. Rwyt ti’n hollol ddiogel.’
Cofleidiodd Liwsi Jên Sgryffi.
‘Doeddwn i ddim eisiau mynd yn ôl i gysgu wedyn ar ôl hynny, Sgryffi,’ dywedodd Liwsi Jên wedyn. ‘Hyd yn oed er i Mam ddweud ei fod yn rhywbeth mae pobl yn ei alw’n hunllef, ac nad oedd dim wedi digwydd mewn gwirionedd o gwbl, roeddwn i’n dal i deimlo’n bryderus ynghylch mynd yn ôl i gysgu rhag ofn y byddwn i’n cael breuddwyd ddrwg arall.’
Nodiodd Sgryffi ei ben a gwthio ei drwyn yn erbyn ysgwydd Liwsi Jên fel pe byddai’n deall yn union beth roedd hi’n ei olygu.
‘Hi-ho, hi-ho!’ dywedodd Sgryffi’n dawel.
Tynnwch y pyped oddi am eich llaw. - Tybed a ydych chi wedi cael breuddwyd ddrwg ryw dro?
Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.
Gadewch i ni barhau â'r stori o'r Beibl sy’n sôn am y bachgen o'r enw Joseff.
Roedd brodyr Joseff wedi cael llond bol yn gwrando arno’n sôn am ei freuddwydion. Pam ei fod ef ei hun bob amser yn seren, ac mor bwysig, yn y breuddwydion? Pam fod Joseff bob amser yn meddwl ei fod yn llawer mwy pwysig nag yr oedden nhw? Clywodd Jacob, tad Joseff, ei frodyr yn grwgnach ac fe benderfynodd gadw Joseph gartref ar y fferm gydag ef, tra bod y brodyr yn cael eu hanfon allan i'r caeau i ofalu am y defaid.
Yna, fe wnaeth Jacob rywbeth a wnaeth i frodyr Joseff fod hyd yn oed yn fwy blin! Rhoddodd Jacob cot arbennig i Joseff a oedd wedi cael ei gwneud o frethyn lliwgar iawn. Roedd brodyr Joseff yn genfigennus ac yn ddig iawn. Doedden nhw ddim yn meddwl ei fod yn deg o gwbl bod Joseff yn cael ei drin yn wahanol iddyn nhw; roedden nhw’n eiddigeddus bod Joseff yn ffefryn gan eu tad.
Gofynnwch i'r plant, 'Ydych chi'n credu ei fod yn iawn i frodyr Joseff fod yn genfigennus?’
Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.
Roedd brodyr Joseff mor ddig ynghylch hyn fe wnaethon nhw ddechrau cynllunio i gael gwared â’u brawd, Joseff.
Un diwrnod, pan oedd Jacob wedi anfon Joseff i fynd â bwyd i’w frodyr yn y caeau, fe wnaeth y brodyr gipio Joseff, tynnu ei gôt liwgar, a thaflu Joseff i lawr i dwll dwfn hen ffynnon! Tra roedden nhw’n ystyried beth i'w wneud nesaf, mae’r brodyr yn clywed swn pobl yn teithio tuag atyn nhw ar hyd y ffordd lychlyd. Wrth iddyn nhw edrych i gyfeiriad y swn, fe welson nhw mai teithwyr a oedd ar eu ffordd i'r Aifft oedden nhw, a'u camelod yn llwythog gyda sachau llawn sbeisys yr oedden nhw’n gobeithio eu gwerthu yno. Dyna lwc! Dyma ffordd berffaith o gael gwared â Joseff am byth, meddyliodd y brodyr. Maen nhw’n tynnu Joseff allan o'r ffynnon yn gyflym ac yn ei drosglwyddo i'r teithwyr. Yna, maen nhw’n gwylio wrth i Joseff ddiflannu o’u golwg ar hyd y ffordd lychlyd. Druan â Joseff! Roedd ei fywyd wedi troi i fod yn hunllef; efallai y byddai'n deffro yn fuan, ac yn darganfod bod y cyfan wedi bod yn freuddwyd ddrwg.
Roedd y brodyr wedi cael gwared â Joseff yn gyflym iawn, ond yn awr beth fydden nhw’n gallu ei ddweud wrth eu tad? Er mwyn ceisio cuddio’r hyn roedden nhw wedi’i wneud, maen nhw’n rhoi rhywfaint o waed anifail ar gôt arbennig Joseff, ac fe aethon nhw â’r gôt adref i ddangos i’w tad.
‘Edrychwch beth wnaethon ni ddod o hyd iddi!’ medden nhw wrth Jacob.
Fe welodd Jacob y gôt ac roedd yn meddwl bod Joseff wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt. Fe ddechreuodd grio a chrio yn ddi-baid. Mae'r brodyr ceisio cysuro eu tad, ond doedd dim y gallen nhw’i wneud. Roedd Jacob yn drist iawn.
Amser i feddwl
Ydych chi'n meddwl bod y brodyr yn teimlo'n flin am yr hyn roedden nhw wedi’i wneud, ac yn drist pan welson nhw faint yr oedden nhw wedi brifo teimladau eu tad?
Ydych chi'n meddwl eu bod yn anghywir i wneud yr hyn a wnaethon nhw?
A ddylen nhw fod wedi rhoi gwell cynnig ar geisio hoffi eu brawd, Joseff?
Mae yna adegau pan fyddwn ni ddim yn ei chael yn hawdd hoffi pawb. Ond, rydyn ni’n teimlo ei fod yn beth gwael brifo pobl yn fwriadol, fodd bynnag. Mae bob amser yn well siarad am bethau a cheisio datrys unrhyw broblemau rhwng pobl.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i fod yn ofalgar tuag at bobl eraill.
Helpa ni pan fyddwn ni’n teimlo’n ddig neu’n genfigennus.
Helpa ni i siarad am ein problemau gyda’r rhai y byddwn ni’n ymddiried ynddyn nhw.
Amen.