Gwyliau haf
Gwasanaeth i’w gyflwyno gan y rhai sy’n gadael yr ysgol ar ddiwedd tymor yr haf
gan Jan Edmunds (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried sut mae diwedd y flwyddyn ysgol yn dod â newidiadau i lawer o blant.
Paratoad a Deunyddiau
- Bwriadwyd y gwasanaeth hwn i gael ei gyflwyno gan y plant, felly bydd angen 15 o ddarllenwyr (neu fwy os byddwch yn dewis defnyddio set wahanol o blant i ddarllen y weddi yn yr adran 'Amser i feddwl' yn y gwasanaeth). Fe fydd lleoliad y llefarwyr yn bwysig ar gyfer y gwasanaeth hwn, felly bydd angen rhoi amser iddyn nhw ymarfer o flaen llaw.
- Paratowch 15 o ddarnau o gerdyn A4. Ar un ochr, ysgrifennwch y geiriau perthnasol ar gyfer pob llefarydd i’w darllen. Ar yr ochr arall ar gefn 10 o’r cardiau, ysgrifennwch y llythrennau unigol cyfatebol ar gyfer llunio acrostig o’r geiriau GWYLIAU HAF. Paratowch gardiau eraill yn dibynnu ar y nifer o ddarllenwyr ychwanegol y byddwch yn dymuno’u defnyddio wedyn.
- Dewisol: efallai yr hoffech chi arddangos lluniau, ffotograffau, darluniau neu eitemau perthnasol wrth i bob llinell gael ei llefaru, ac os felly bydd angen i chi drefnu’r modd o wneud hynny.
Gwasanaeth
Llefarydd1:Bore da, bawb. Rydyn ni wedi cyrraedd diwedd blwyddyn ysgol arall.
Llefarydd 2:Fydd rhai ohonon ni ddim yn dod yn ôl i’r ysgol hon ar ôl y gwyliau oherwydd fe fyddwn ni’n mynd i ysgol arall, lle byddwn ni’n gwneud ffrindiau newydd.
Llefarydd 3:G G sydd am y gwersi y gwnaethom eu dysgu, ysgrifennu a darllen, dysgu hanes a chanu,
Llefarydd 4:W o wythnos i wythnos, roeddem wrthi drwy’r adeg yn dysgu am wyddoniaeth, celf a chrefft a thechnoleg.
Llefarydd 5:Y Y sydd am ymweliadau addysgol, cawsom fwynhau sawl taith i lefydd gwahanol.
Llefarydd 6:L L sydd am lot, lot fawr o bethau diddorol y cawsom eu gwneud tra buom yn yr ysgol.
Llefarydd 7:I Ar yr iard, yn y neuadd ginio, a’r dosbarthiadau, cawsom ddysgu byw’n iach a dysgu pa fwydydd sydd orau.
Llefarydd 8:A A sydd am achlysuron arbennig fu’n rhan o’n profiadau, perfformiadau, mabolgampau a rhannu tystysgrifau.
Llefarydd 9:U O’r symiau ‘un ac un yn gwneud dau’ yn y dosbarth derbyn, fe ddysgais wneud symiau llawer anoddach wedyn.
Llefarydd 10:H Cawsom adegau hapus i gyd gyda’n gilydd, a llawer o hwyl bob yn ail a pharchusrwydd.
Llefarydd 11: A Fe fydd gennym atgofion di-ri am yr athrawon, a phawb fu’n ein helpu ac am ein holl gyfeillion.
Llefarydd 12:F Felly cyn i ni fynd, i ble bynnag yr awn, diolch am flynyddoedd o ddysgu a fu’n fuddiol iawn.
Llefarydd 13(gan bwyntio at y ddau air gorffenedig): Erbyn hyn, rydym bron â dod i ddiwedd blwyddyn ysgol, ac fe allwn ni i gyd edrych ymlaen at ein gwyliau haf.
Amser i feddwl
Llefarydd 14:Gadewch i ni ofyn i Dduw ofalu amdanom ni, yn enwedig y rhai sy’n symud ymlaen i ysgol arall. Gadewch i ni ofyn iddo ein cadw ni i gyd yn ddiogel yn ystod y gwyliau.
Llefarydd 15:Rydyn ni’n diolch am y flwyddyn ysgol sydd wedi bod, ac yn diolch am ein ffrindiau, ac yn diolch hefyd am y gwersi rydyn ni wedi’u dysgu.
Fe allai grwp arall o blant sy’n weddill arwain y weddi ganlynol, neu fe allech chi rannu’r llinellau rhwng nifer o unigolion iddyn nhw eu llefaru.
Gweddi
Dyma ein hysgol.
Boed i bawb fod yn hapus yma bob amser.
Boed i’n hysgol ni fod yn llawn llawenydd bob amser.
Boed i ofal a chariad barhau i fod yma bob dydd:
Cariad tuag at ein gilydd,
cariad tuag at bobl eraill ym mhob man,
cariad tuag at fywyd ei hun,
a chariad tuag at Dduw.
Boed i ni gofio,
yn union fel mae llawer o ddwylo’n adeiladu ty,
felly hefyd y mae pob plentyn yn gallu helpu i wneud yr ysgol hon yn lle hyfryd.
Amen.