Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Drws

Y bedwaredd yn y gyfres sy’n ystyried datganiadau Iesu, ‘Myfi yw ... ’

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried datganiad Iesu mai ef yw’r drws.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Os ydych chi eisoes wedi cynnal y gwasanaethau eraill yn y gyfres hon, atgoffwch y plant am y defnydd o drosiad er mwyn disgrifio unigolyn. Nid torth o fara na goleuni, na bugail, mewn gwirionedd yw Iesu, ond mae'r disgrifiadau’n dweud rhywbeth pwysig wrthym amdano. Eglurwch fod y gwasanaeth hwn yn mynd i roi sylw i un arall o'r datganiadau ‘Myfi yw’ am Iesu.

  2. Dangoswch y pum delwedd gyntaf o’r giatiau a’r pyrth.

    Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw'n gallu adnabod y giatiau enwog hyn (giatiau Palas Buckingham,Hyde ParkTower Bridge, y Giât Aur yn Jerwsalem a'r Arc de Triomphe).

  3. Gofynnwch i'r plant,‘Beth yw pwrpas giatiau?’

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

    Nodwch fod y giatiau yn fodd i bobl symud i mewn ac allan o le, ond hefyd mae modd eu defnyddio fel amddiffynfa.

  4. Edrychwch at bob un o'r pum giât enwog fesul un a gofynnwch pa giatiau sydd wedi eu codi ar gyfer mynd a dod drwyddyn nhw, a pha rai sy'n gweithredu fel amddiffynfa. Nodwch pa rai o'r giatiau sy'n gwneud y ddau beth.

  5. Gofynnwch i blentyn i ddarllen Ioan 10.9. Yn y rhan hon o'r Efengyl, mae Iesu' dweud, ‘Myfi yw'r drws.’

    Holwch y plant paham y byddai Iesu'n disgrifio'i hun fel drws.

    Gwrandewch ar ymateb rhai o’r plant.

    Roedd Iesu eisoes wedi disgrifio'i hun fel y bugail da. Drws ar gyfer corlan defaid yw'r drws y mae Iesu'n cyfeirio ato fan hyn.

  6. Dangoswch y ddelwedd o giât defaid.

    Yn y cyfnod Beiblaidd, rhan o waith y bugail oedd bod yn ddrws neu’n giât. Yn ystod misoedd yr haf, byddai'r bugail yn arwain ei ddefaid at y borfa orau.  Byddai'n casglu cerrig ac yn adeiladu wal gron er mwyn gwneud ffald, neu gorlan. Byddai un agoriad i'r lloc hwn a thrwyddo byddai modd i'r defaid fynd a dod allan o’r lloc i bori. Gyda'r hwyr fe fyddai'r bugail yn casglu’r defaid ynghyd, yn eu cyfrif ac yn sicrhau eu bod i gyd wedi setlo am y noson. Yna byddai'n gorwedd ar draws yr agoriad er mwyn gwarchod y defaid. Byddai ei gorff yn ffurfio giât. Byddai ef ei hun yn brwydro unrhyw elyn cyn y byddai'n gadael i unrhyw niwed ddigwydd i'w ddefaid. Yr unig ffordd y gallai blaidd ddod i mewn i'r gorlan fyddai trwy ddelio â'r bugail i ddechrau. 

  7. Dangoswch y ddelwedd o’r Thames Barrier.

    Cafodd y 'Thames Barrier' ei adeiladu ar yr Afon Tafwys i'r dwyrain o ganol Llundain yn y flwyddyn 1982. Rhwystr yw hwn rhag llifogydd, ac mae'n cael ei ddefnyddio rhag i rannau o Lundain ddioddef llifogydd pa fydd llanw uchel ac ymchwyddiadau stormydd ym Môr y Gogledd yn llifo i fyny Afon Tafwys. Cafodd ei wneud trwy osod deg o giatiau dur r holl ffordd ar draws yr afon. Pan fydd y giatiau ar agor, maen nhw'n gorwedd yn wastad ar wely'r afon, gan adael i'r dwr lifo'n rhydd. Pan fyddan nhw ar gau, yn fuan ar ôl llanw isel, maen nhw'n atal llif yr afon. Cafodd yr amddiffynfeydd hyn rhag llifogydd eu cau 177 o weithiau ers i'r rhwystr ddod yn weithredol yn y flwyddyn 1984.

Amser i feddwl

Mae Cristnogion yn credu, yn union fel y mae bugail yn gofalu am ei ddefaid, fod Iesu'n eu hamddiffyn ac yn eu cadw'n ddiogel. Mae Cristnogion yn credu hefyd bod Iesu wedi dod i godi'r gwahanfur sy’n ffurfio rhwng pobl a Duw. Maen nhw'n credu bod rhwystrau’n cael eu creu gan y pethau anghywir hynny y mae pobl yn eu gwneud. Maen nhw'n credu pan fu farw Iesu ar y groes, cafodd y gwahanfur hwnnw ei ddryllio ac fe agorwyd ffordd newydd ac arbennig i gyrraedd at Dduw.  Iesu oedd drws i'r gwahanfur hwn: y ffordd i adnabod Duw.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod di’n fugail da sydd eisiau ein cadw’n ddiogel.
Diolch dy fod di’n ddrws neu’n giât, i’n helpu ni ddod i adnabod Duw.
Helpa ni yn ein dealltwriaeth o'r pethau hyn.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2017    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon