Symbolau Heddwch
Mae Diwrnod Rhyngwladol Heddwch ar 21 Medi
gan Revd Catherine Williams (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2007)
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Gynradd)
Nodau / Amcanion
Ystyried gwahanol symbolau yn ymwneud â heddwch, a'u hystyron.
Paratoad a Deunyddiau
- Trefnwch fod y delweddau canlynol o symbolau heddwch ar gael gennych chi, a'r modd o’u harddangos yn ystod y gwasanaeth:
- colomen, ar gael ar:https://tinyurl.com/oenx6h2
- colomen gyda brigyn olewydd yn ei phig, ar gael ar:https://tinyurl.com/yc6oo42n
- enfys, ar gael ar:https://tinyurl.com/y9jsmptr
- arwydd heddwch, ar gael ar:https://tinyurl.com/ksp5zvx
- adar papur origami, ar gael ar:https://tinyurl.com/y9jcawkp a https://tinyurl.com/yc7nszof
- ankh, ar gael ar:https://tinyurl.com/y83ty7kr
- arwydd-V (gofalwch bod cledr y llaw yn wynebu tuag allan!), ar gael ar:https://tinyurl.com/y8q4q9mx
- ysgwyd dwylo, ar gael ar:https://tinyurl.com/jylmb7k - Dewisol: Efallai yr hoffech chi drefnu fod y fideo YouTube, 'Deep Peace a Gaelic Blessing Libera (John Rutter)', ar gael gennych chi, ac os felly bydd angen i chi hefyd drefnu’r modd o ddangos y fideo yn ystod y gwasanaeth Mae'n para am 3.27 munud, ac mae ar gael ar:https://www.youtube.com/watch?v=Eve2y-P-Zjk
- Dewisol: tudalennau o bapur a phinnau ffelt ar gyfer Rhan 2 y ‘Gwasanaeth’.
- Dewisol: siâp colomen wedi’i dorri allan o gerdyn mawr, papurau nodiadau Post-it a phinnau ffelt ar gyfer Rhan 3 y ‘Gwasanaeth’.
- Mae gwybodaeth bellach am Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch ar gael ar:http://internationaldayofpeace.org/
Gwasanaeth
- Gofynnwch i'r plant a ydyn nhw’n gwybod am unrhyw symbolau neu arwyddion y mae pobl yn eu defnyddio i olygu 'heddwch'. Dewiswch awgrymiadau gan y plant sy'n cyd-fynd â'r delweddau o symbolau yr ydych chi wedi'u paratoi, ac eglurwch darddiad ac ystyr pob un.
Dangoswch y ddelwedd o golomen.
Mae'r golomen wedi bod yn symbol o heddwch ers yr hen amser. Fe'i defnyddiwyd gan y Groegiaid ac yn Japan hynafol. Mabwysiadodd Cristnogaeth y golomen fel symbol o Dduw, yr Ysbryd Glân, sy'n dod â'r rhodd o heddwch.
Dangoswch y ddelwedd o golomen gyda brigyn olewydd yn ei phig.
Mae'r gangen olewydd hefyd yn symbol hynafol o heddwch o Wlad Groeg. Roedd enillwyr yn y Gemau Olympaidd yn derbyn torchau wedi'u gwneud o frigau a dail y goeden olewydd. Yn y Beibl, yn stori Noa a'r dilyw, anfonwyd colomen i chwilio am dir. Yn y pen draw, dychwelodd y golomen gyda brigyn olewydd yn ei phig, gan nodi bywyd newydd a dechrau newydd. Mae baneri rhai gwledydd y byd â llun cangen olewydd arnyn nhw sy'n cynrychioli heddwch.
Dangoswch y ddelwedd o enfys.
Unwaith eto, yn stori Noa a'r dilyw, rhoddodd Duw enfys yn yr awyr i ddangos ei addewid na fyddai byth eto’n dinistrio'r byd. Mae enfys fel pont sy'n dod â phobl at ei gilydd.
Dangoswch y ddelwedd o arwydd heddwch.
Dyluniwyd y symbol hwn yn 1958 fel rhan o ymgyrch i wahardd arfau niwclear. Mae pobl wedi ei ddefnyddio ers hynny er mwyn nodi heddwch.
Dangoswch y ddelwedd o’r aderyn garan origami.
Mae'r symbol hwn yn tarddu o Japan. Roedd merch fach o'r enw Sadako Sasaki yn marw o lewcemia yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Ceisiodd wneud 1,000 o adar papur, garan, origami cyn iddi farw. Bob blwyddyn, mae miloedd o'r symbolau heddwch hyn yn cael eu gwneud a'u gosod ar gofeb heddwch Hiroshima.
Dangoswch y ddelwedd o ‘ankh’.
Yr enw ar y symbol hwn yw ‘ankh’ ac mae'n dod o'r hen Aifft. Mae'n cynrychioli bywyd ac anfarwoldeb. Roedd pobl yn arfer gosod ffrwythau wrth ymyl afonydd i annog i’r dwr lifo. Heddiw, defnyddir y symbol fel symbol ar gyfer heddwch a chytgord.
Dangoswch y ddelwedd o arwydd-V.
Mae'r arwydd hwn, lle mae dau fys yn cael eu codi a chledr y llaw yn wynebu allan, yn golygu buddugoliaeth a diwedd i ryfel. Fe'i defnyddiwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan enwog Winston Churchill.
Dangoswch y ddelwedd o ddau’n ysgwyd dwylo.
Mae ysgwyd dwylo yn symbol hynafol sy’n cyfleu heddwch. Mae'n dangos nad yw'r bobl sy'n ysgwyd dwylo yn dal arfau. - Os yw'r plant yn gwybod am unrhyw symbolau eraill ar gyfer heddwch, efallai yr hoffech eu gwahodd i’r tu blaen i dynnu llun y symbol ar ddarn o bapur.
- Gofynnwch i'r plant pa lefydd a sefyllfaoedd yn y byd sydd wir angen anrheg Duw o heddwch heddiw. Anogwch y plant i feddwl am sefyllfaoedd lleol a sefyllfaoedd rhyngwladol, gan fod yn sensitif ar yr un pryd i oedran y plant sy'n bresennol. Gwahoddwch y plant i ysgrifennu eu syniadau ar nodiadau Post-it a'u gosod ar y siâp colomen sydd gennych chi wedi ei dorri allan yn barod.
Amser i feddwl
Gwahoddwch y plant, yn ystod yr wythnos sydd i ddod, i edrych ar y siâp colomen rydych chi wedi ei dorri allan, a’u hannog i osod mwy o nodiadau Post-it wrth iddyn nhw feddwl am sefyllfaoedd sydd angen heddwch. Gwahoddwch nhw i dynnu lluniau o symbolau heddwch hefyd i'w hychwanegu at yr arddangosfa.
Esboniwch fod 21 Medi yn Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch. Sefydlwyd y diwrnod hwn yn 1981 gan y Cenhedloedd Unedig ac fe'i cadwyd fel diwrnod arbennig ledled y byd bob blwyddyn ers hynny. Mae'r diwrnod yn annog pobl i ymrwymo i heddwch uwchlaw pob gwahaniaeth arall.
Arweiniwch y weddi ganlynol i ddiweddu. Addasiad sydd yma o fendith Wyddelig, neu chwaraewch fersiwn John Rutter ohoni, sydd ar gael fel fideo YouTube o'r enw ‘Deep Peace a Gaelic Blessing Libera (John Rutter)’.
Heddwch dwfn symudiad y don i chi,
Heddwch dwfn yr awel iach i chi,
Heddwch dwfn y ddaear dawel i chi,
Heddwch dwfn y sêr disglair i chi,
Heddwch dwfn y noson dyner i chi,
Bydded i'r lleuad a'r sêr arllwys eu goleuni iachusol arnoch chi,
Heddwch dwfn Crist, goleuni'r byd i chi.